Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

burion

burion

Gwyddoch o'r gorau fod cariad y bardd mor fyw â dyn-hel-y-dreth a bod y llabwst yn gwybod hynny'n burion.

Yr oedd cyfarwyddiadau Emli'n burion: tro ar y chwith wedi mynd heibio'r eglwys, yna, ymhen tua dwy filltir, dyma'r Tarw Du i'r golwg, lle pur boblogaidd a barnu wrth nifer y ceir a oedd yn ei fuarth.

Roedden nhw'n mwynhau cefn gwlad yn burion, ar wahan i un peth; eu bod nhw'n methu'n deg a chysgu.

Gwyddai'r Dirprwywyr yn burion beth oedd pwysigrwydd canolog iaith ble bynnag y byddent, yn Lloegr a Chymru fel ei gilydd.

Fe wyddwn yn burion beth oedd y broblem - diffyg deunydd da.

Yr ydym yn deall yn burion beth yn hollol a feddylir pan sonnir am fardd o'r radd flaenaf: cyfeirio yr ydym at unigolion cwbl unigryw megis Goethe neu Ddafydd ap Gwilym.