Mae halen yn arafu twf y burum, ond mae'n rhoi gwell blas i'r toes.Cymysgir yr halen felly gyda'r blawd, fel nad yw'n dod i gysylltiad uniongyrchol a'r burum.
Math o ffwng meicroscopig yw burum, sy'n tyfu trwy ddatblygu blagur bychain i ffurfio planhigion newydd.
Wrth i'r burum dyfu, mae'n gwneud carbon diocsid sy'n ffurfio pocedi bychain o nwy yn y toes.