Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bustachu

bustachu

Gan fod llawer o'r offer a ddefnyddir i wneud arolwg tanfor ar hyn o bryd yn ddigon anfoddhaol, gellir dweud fod archaeoleg tanddwr mewn stad o 'anwybodaeth soffistigedig' - soffistigedig gan fod llawer o'r archaeolegwyr modern yn bustachu gyda phroblemau ei lleihau.

Anodd yw eu dehongli ar brydiau ond mae'n werth bustachu uwch eu pennau er mwyn sicrhau'r wybodaeth a geir ynddynt.

Caf esgus i loetran yn hamddenol yn hytrach na bustachu tua'r copa pan ddof ffordd hyn ganol haf i chwilota am blanhigion yng nghysgod y creigiau, wrth ffrydiau neu ar ymylon y pyllau mawn.

Bu'n bustachu'n hir i ddatod y llinyn a glymwyd yn gwlwm-gwlwm.