"Bob yn ail ddiwrnod," ebe Owen Owens, gan aros i boeri i'r tân, 'y ngwaith i oedd mynd lan ar hyd llwybr mynydd i ryw hen dŷ allan tua milltir o'r tŷ ffarm, a llanw'r rhastal â gwair o'r dowlad, a rhoi gwellt glân o dan y bustych ac edrych eu bod nhw'n iawn.
Yna byddai rhywun yn gofyn beth ddigwyddodd wedyn, achos fe fyddai'r stori'n gorffen yn swyddogol pan fyddai Owen yn dweud nad anghofiodd e ddim rhoi gwellt o dan y bustych cyn
Oni bai am ei ddawn adrodd stori byddai pawb ohonom yn ei gasa/ u ac eithrio f'ewythr Vavasor, oedd yn rhoi pris uchel ar ei waith fel bugail, ac nid oedd ei well am dewhau bustych, gwyddai i'r dim pryd i'w symud i'r tir pori gorau.
Er mawr syndod i fi, pan gyrhaeddes i roedd y bustych yn byta'n braf ar wair ffres, a'r rhastal yn hanner llawn.