Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

buwyd

buwyd

Defnyddir trawsysgrifiadau o wersi real y buwyd yn arsylwi ynddynt ac yn eu ffilmio.

Buwyd yn paratoi testunau a elwid Bibliae Pauperum (Beiblau'r Tlodion), sef crynodeb o lyfrau hanesyddol y Beibl; a cheir testun Cymraeg o'r fath a elwid Y Bibyl Ynghymraec er nad Beibl mohono yn ein hystyr ni.

Mae'r hanes am Gwm Rhondda yn fwy calonogol o lawer er y buwyd yn hir yn disgwyl ac yn gweithio dros ysgolion Cymraeg uno, ysywaeth.

Buwyd yn cynnal trafodaethau gyda'r rhai sydd ynglyn ag Arweiniad Gwledig yr Awdurdod Datblygu fel y medrwn gymharu'n gweithgareddau a cheisio cyd-weithio'n fuddiol.

Drwy adnabod y meddwl a'r dychymyg hwn y down i adnabod yn llawnach y bobl y buwyd yn eu trafod yn y Rhan Gyntaf; gobeithio hefyd y down i'n hadnabod ein hunain yn well o ganlymad i hynny.

Ond dyma dystiolaeth drawiadol sy'n dangos sut y buwyd ym more oes yn hau hadau'r serch a goleddodd Davies trwy weddill ei fywyd tuag at iaith, llenyddiaeth a chrefydd Cymru.

Buwyd hefyd yn datblygu polisi ynglyn a'r defnydd o wirfoddolwyr.

Tynnai'r rhain oll nerth a swcwr at eu hamcanion o'r cynnydd mewn masnach, addysg, celfyddyd, diwylliant a balchter gwladol a lleol y buwyd yn cyfeirio atynt eisoes.

Buwyd yn cyfarfod mewn ysgubor a berthynai i Robert Parry, y cigydd, am rai blynyddoedd.

Dyna'r rheswm paham y buwyd yn chwilio am ddulliau newydd o atgynhyrchu llyfrau a phaham y cafodd yr argraffwasg y fath groeso gorawenus wedi i ddynion ei darganfod a'i datblygu.