Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bwerau

bwerau

Er nad oes gan y Cynulliad Cenedlaethol bwerau deddfu cynradd mae Deddf Llywodraeth Cymru yn dweud y gall y Cynulliad 'wneud unrhyw beth i gefnogi neu i gynnal yr iaith Gymraeg'. Credwn mai hawl foesol y Cynulliad yw deddfu dros y Gymraeg.

Trwy ymddiried yn sofraniaeth ei reswm gallai dyn ddarganfod rhyddid yn ei feistrolaeth tros bwerau Natur.

Ac i'r perwyl hwnnw rhoddwyd iddo bwerau eang.

'Roedd pryder yn bodoli nad oedd gan awdurdodau lleol ddim digon o bwerau i reoli datblygiadau o'r math yma.

Y mae gan lywodraethwyr ysgolion lawer o bwerau a chyfrifoldebu statudol a chymdeithasol, fodd bynnag rhaid i ni sylweddoli fod y ddau brif rym bellach yn nwylo y llywodraeth ganolog.

Evan Roberts y diwygiwr yw pwnc Ifor ap Gwilym yn ei nofelau yntau, Yr Hen Bwerau.