Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bwriadau

bwriadau

Fel sy'n digwydd mor aml yng nghwrs hanes, yr oedd effeithiau llafur dynion yn cyrraedd lawer iawn ymhellach na'u bwriadau hwy.

Heb os roedd yna agweddau moesol i'r bwriadau hirben, ond fe bwysleisiwyd bod dyletswyddau gan berchnogion eiddo yn ogystal â hawliau, a pheth cywilyddus oedd esgeuluso lles y rheini oedd yn ddibynnol arnynt.

Am dy ddiogelu rhag bwriadau drwg dynion y mae.

Onid oedd gwladoli'r diwydiant yn uchel ar restr bwriadau'r llywodraeth newydd?

Ym marn y Pwyllgor y mae'r bwriadau yn ddarniog ac yn aneglur.

Addunedais yn fy meddwl y tro hwn sôn am fwy o bynciau ond gan fod dyddiad cais y golygydd wedi mynd heibio ers tridiau ac fe fydd yn amser casglu llythyrau'n lleol ymhen ugain munud, rhaid gadael i'm bwriadau aros hyd amser tymhorol eto.RHITHIAU MYNYDD HIRAETHOG - Norman Closs Parry

(i) Gofyn i bencadlys y Rheilffyrdd Prydeinig a oedd y Rheolwr Rhanbarthol yn ymwybodol o'r bwriadau i gau rhai o'r gorsafoedd ar Reilffordd Arfordir y Cambrian a phaham na chyflwynwyd y mater i ystyriaeth y Pwyllgor Cyswllt.

Cyfrwng yw'r rhagymadroddion, yn y lle cyntaf, i gyfarch a rhyngu bodd noddwyr ac arweinwyr cymdeithas; ac yn yr ail le, a hyn sydd bwysicaf o ddigon, i roi cyfle i'r awduron eu hunain egluro eu bwriadau a'u cymhellion.

I ddiffinio bwriadau, targedau ac amcanion I drefnu profiadau dysgu mewn gwyddoniaeth sydd yn ystyrlon a pherthnasol ar gyfer disgyblion a phob math o allu ac o bob oed yn amrediad yr ysgol uwchradd I ddethol, defnyddio a rheoli'n effeithiol y cwmpas llawn o ddefnyddiau ac adnoddau sydd ar gael I drefnu a chadw trefn ar wersi theori a gwersi ymarferol fel ei gilydd I fod yn sensitif i anghenion disgyblion ag anawsterau dysgu, disgyblion a gallu arbennig a grwpiau ethnig lleiafrifol I feithrin y sgiliau rhyngbersonol priodol ar gyfer cyfathrebu â disgyblion, rhieni a phobl broffesiynol Sgiliau Labordy Paratoi defnyddiau labordy ar gyfer dysgu Arddangos arbrofion a thechnegau ymarferol i'r disgyblion Rheoli gwahanol fathau o wersi ymarferol Gwybodaeth Wyddonol Y mae gan y myfyrwyr i gyd radd yn y gwyddorau ond bwriad arbennig y cwrs yw estyn ac ehangu eich profiad yn y canlynol:

Roedd ar y dynion yma ei angen at ddibenion arbennig, roedd yn hollbwysig ei fod ar gael ar gyfer eu bwriadau, ac fel uchelswyddogion pob oes yn gweithredu yn enw eu gwlad rhoed rhwydd hynt iddynt fwrw ymlaen â'u cynlluniau.

Yno y mae'r holl bolisiau a bwriadau yn blodeuo a dwyn ffrwyth neu'n marweiddio a chrebachu o ddiffyg cynhaliaeth gan mai natur y berthynas rhwng athro a disgybl yw'r elfen sy'n greiddiol i lwyddiant.