Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bwrlwm

bwrlwm

Y mae bwrlwm awenyddol David Ellis yn cadarnhau tystiolaeth ei gyfeillion ei fod yn fachgen ifanc ffraeth, llawn hwyl a direidi.

Os aiff bwrlwm y maes yn drech na chi yn ystod yr žyl, mae gwaredigaeth wrth law.

Ynghanol bwrlwm a chyffro mudiad protest y myfyrwyr y dechreuodd gyrfa lenyddol Peter Schneider.

Ni chlywodd y traed ysgafn y tu ôl iddi nes i lais bychan dorri ar draws ei bwrlwm a gofyn iddi'n wylaidd: 'Ble mae Mam, Miss Beti?' Stopiodd yn y fan a rhyw hanner gweld bachgen bach penfelyn tlws yn sbio'n ymddiriedol i fyny ati.

Mae bwrlwm y profiad personol yn yr emyn yn esgor ar y byrdwn a ganwn gyda'r fath arddeliad.

'I ddod i weld eich nain.' Llifodd y geiriau allan yn un bwrlwm nerfus, ac roedd o fel pe bai'n falch o gael gwared ohonyn nhw.

Ond yn ein haddoliad o Sul i Sul, go brin yw'r bwrlwm a deimlwn.

Roedd dros 100 awr o ddarlledu byw o'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a chafodd nifer o raglenni Radio Cymru, gan gynnwys Stondin Sulwyn sydd fel arfer yn grwydrol, stondin ymysg bwrlwm y Sioe Frenhinol.

Buan y daethom i glyw bwrlwm afieithus y mân raeadrau wrth groesi'r bont tu cefn i Fwthyn Ogwen.

Rhan o gyffro anhygoel oes Fictoria oedd agor ffenestri ar fydoedd newydd, ac ni ellir deall cymhellion y rhai a ymfudodd i bellafoedd byd heb gofio'r bwrlwm syniadau a oedd yn rhan hanfodol o hanes gwledydd Ewrop ym mhedwardegau'r ganrif ddiwethaf.

Am y tro cyntaf erioed bydd gwylwyr ym mhob cwr o'r Deyrnas Gyfunol yn gallu gwylio'r bwrlwm i gyd, waeth ym mhle maen nhw'n byw, am fod S4C Digidol ar gael ar loeren.

Mae bwrlwm a thensiwn y diweddglo - cleimacs treisiol a dadlennol - yn gwrthgyferbynnu (ag felly yn tanlinellu) arafwch rhai darnau o'r llyfr.

Yng nghanol yr holl symud a'r bwrlwm a'r gwahanol arogleuon a oedd yn codi o'r lle, tybiais fod fy ffroenau yn chwarae tric â mi.

Yn yr ardaloedd fu'n rhai di-Gymraeg yn draddodiadol ond lle mae twf aruthrol wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae dysgu Cymraeg i oedolion yn cyfrannu at y twf a'r bwrlwm ac yn elfen bwysig wrth sicrhau bod y plant sy'n dysgu'r Gymraeg yn yr ysgol yn cael y cyfle i'w siarad hi y tu allan.