Aeth yn ei flaen i sôn am yr angen i baratoi Cymru ar gyfer hunan lywodraeth; siaradodd Fred Jones am yr angen i fynnu gwell triniaeth i'r iaith Gymraeg, a thraddododd Lewis Valentine ychydig eiriau am bwrpas ac amcanion y blaid.
Un sylw ar gyfer yr academyddion cyn symud ymlaen - y mae pwysigrwydd neilltuol i lên gwerin cyfoes am ei fod yn cael ei astudio yng nghyd-destun y gymdeithas a'i creodd, ac felly yn ei gwneud hi'n haws i ddarganfod amcan neu bwrpas y stori neu'r gred - a thrwy hynny ddeall rhyw gymaint am ein cymdeithas a ni'n hunain ac am rôl llên gwerin drwy'r oesoedd.
At bwrpas darlledu lle maen bosib dod â chydbwysedd i'r hyn â glywir fe fydd yn swnio'n hyfryd.
Ond gallai hynny fod yn wrthgynhyrchiol gan ei fod yn cwtogi ar y cyfleon a gaiff plentyn i ddarllen i bwrpas a thrwy hynny, ddatblygu ei ddarllen ei hun ymhellach.
Dangos sut y bu i hyn ddigwydd a dangos goblygiadau'r digwydd yw prif bwrpas Gwanwyn yn y Ddinas, sef cyfrol sy'n ddarn o hunangofiant y bardd.
Mi ffeindion wedyn wrth gwrs mai ei bwrpas oedd codi'r llechen.
Asgwrn cefn hanes cymdeithasol da yw ystadegau, ac fe'u defnyddir yma i bwrpas da i oleuo llawer o agweddau ar hanes y Gymdeithas.
Gad i ni ofyn am dy gymorth di, gad i ni ymdawelu gyda thi, a rho bwrpas ac amcan priodol i'n bodolaeth ni o fewn dy deyrnas.
Mae'r mawn a ddefnyddir at bwrpas garddio yn dod o fawnogydd naturiol yng Ngwledydd Prydain.
Ymhlith goblygiadau'r ffydd hon y mae'r wybodaeth fod i ddyn bwrpas, fod i'r greadigaeth nod a bod trefn ac ystyr yng ngwead ein bodolaeth: 'Trwyddo ef ac er ei fwyn ef y mae pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll' (Col.
Unig bwrpas y tai cyrddau a godwyd yn yr ardal ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd bod yn fannau cyfarfod i ddynion gael clywed Gair Duw yn cael ei ddehongli.
Yn naturiol, does dim modd bwrw golwg feirniadol o ddifri ar bum cyfrol wahanol iawn i'w gilydd o fewn cwpas erthygl fer: hwyrach, serch hynny, fod rhywfaint o bwrpas mewn croniclo bras- argraffiadau sy'n codi o ddarllen cynifer o stori%au gwahanol y naill ar ôl y llall o fewn ychydig ddyddiau, a'r cyfan ohonyn nhw, rhaid dweud, yn gynnyrch llenorion go iawn sy'n grefftwyr yn y maes ac sydd, o'r herwydd, yn gwybod beth y maen nhw'n ceisio'i wneud.
Un peth y mae'n rhaid i holl aelodau'r tîm fod wedi eu trwytho ynddo yw gwerth y cynnyrch y maent yn ei drin ac yn ei addasu at bwrpas y rhaglen, - sef newyddion.
Ond yr oedd yna eleni yn yr Hen Goleg, Aberystwyth, ymdeimlad cryf o bwrpas a chryn dipyn o dân yr 'Oes Aur' futholegol honno y bydd newyddiadurwyr a chenedlaetholwyr sydd wedi hen chwythu eu plwc yn hoffi malu awyr amdani.
Ei bwrpas oedd, nid yn gymaint i anrhydeddu'r merthyron, ond i ddangos i'r byd fod Rhydychen yn gwrthwynebu safbwynt a gosodiadau gwrth- Brotestannaidd Hurrell Froude.
Yn ystod y cyfarfod byddan nhw'n trafod syniadau weithiau, ond ei brif bwrpas ydy rhoi cyfle i raglenni gynnig straeon difyr sydd wedi codi yn eu gwlad nhw.
Ar ôl bwyta a thipyn o fân siarad teuluol, arweiniodd Gruff at bwrpas ei ymweliad.
Neb o'r unedau'n gwybod dim am bwrpas y ddirprwyaeth, ond clywsom fwy nag un awgrym mai diwedd y daith oedd Rwmania; os felly, yr ydym ar y llwybr iawn.
Felly, pa bwrpas fyddai yna i fynd â chi i'r llys?'' eglurodd cyfaill.
Prif bwrpas y cwrs yw eich paratoi i fod yn athrawon da a meddylgar a'ch cychwyn ar eich gyrfaoedd proffesiynol ag agweddau cadarnhaol.
Pobl fel hyn oedd arwyr y werin - doedd fawr bwrpas bellach cael athro coleg neu weinidog yr efengyl.
Mae hynny wrth fodd y coed, gan mai prif bwrpas lliwiau llachar llawer o'r ffrwythau yw denu adar i'w bwyta, a chludo'r hadau i bob cyfeiriad.
At bwrpas dilyniant o bennod i bennod gellir dangos hyd at funud o ddiwedd pennod ar ddechrau'r bennod nesaf heb dal ychwanegol.
Mae'n amlwg i bawb erbyn hyn mai prif bwrpas ail dymor Thatcheraidd yw troi bob un ohonom yn Gyfalafwyr trwy werthu i ni yr hyn yr ydym yn ei berchen yn barod, e.e.
Ei brif bwrpas oedd ymarfer ei ddoniau o fewn i'r fframwaith bonheddig, a golygai hynny ysgrifennu hanes o'r math a fyddai'n cydymffurfio, cyn belled ag yr oedd modd, â gofynion ysgolheictod y dydd.
'Mae Bob a fi wedi hen flino aros!' Doedd fawr o bwrpas pysgota yn yml y pentref.
I bwrpas crynhoi rhestr o anghenion ymchwil, penderfynwyd mabwysiadu'r fframwaith a ganlyn, sy'n dangos y gofynion o fewn un o bedair ffram gyd-berthnasol.
Ond roedd hi'n amlwg fod rhywun am ei rwystro - i ba bwrpas arall y daethai'r ddau ddyn ar ei ôl?
Mae'r polisi hwn hefyd ar hyn o bryd mewn cul-de-sac, ond mae hygrededd ariannol y polisi hwn yn ddibynnol ar benderfyniad gan y Swyddfa Gymreig ar y fformiwla gyllido h.y. a ddylid dehongli 'ffederasiwn' fel un ysgol, neu fel nifer o ysgolion at bwrpas cyllido.
Ar un ystyr rhestrau di- liw a di-bwrpas yw'r achau teuluoedd sydd yn y Beibl (e.e.
A yw hi'n rhy hwyr i Eisteddfod y Glowyr wneud cynhyrchu llenyddiaeth o bwys am fywyd y glowr yn briod bwrpas iddi?
A dyma efallai bwrpas y straeon hyn, sef cadarnhau rhai o gredoau sylfaenol ein cymdeithas, ac i'n rhybuddio rhag crwydro ymhell oddi ar lwybrau derbyniol ein cyfoedion.
Mae mor hawdd gwneud hynny pan fo'r dydd heb bwrpas, os nad oes cymar all reoli dþr y corddwr.
Un o'r dosbarth hwnnw o ferched yn Korea y gofalai'r Awdurdodau Siapaneaidd eu cadw'n hwylus i bwrpas difyrrwch y milwyr.
Gwaith yn cadw dyn yn gynnes ydi gwaith fel yna, gwaith a lenwodd gyfran o'm hamser, a hynny i bwrpas.
Roedd y gohebydd di-enw yn eglwyswr a Thori digymrodedd a'i holl bwrpas oedd rhwystro Datgysylltiad yr Eglwys a dadlau hawliau'r tirfeddianwyr ar draul Anghydffurfwyr, Rhyddfrydwyr, Cenedlaetholwyr, Tenantiaid a'r Wasg Gymraeg - yn enwedig Baner Thomas Gee.
Pan fydd arddangos yn digwydd mae'r plentyn yn cael cyfle i fod yn rhan o bwrpas gweithgarwch, i fod yn rhan o fwriad y sawl sy'n arddangos.
Onid dyna bwrpas drama, cyfathrebu ag unigolion yn y gynulleidfa - procio eu dychymyg a'u meddyliau?
Y Gainc Osod Bod prawf teg i'w gymeradwyo ar bob cainc a arferir heddiw i bwrpas Cerdd Dant, ac yn unol â'r diffiniad traddodiadol ohoni "ei bod yn cynnwys ffigur a rhedfa% a neilltuolion eraill - bydd iddi ddal y prawf hwnnw, neu fethu.
Nid oes pwynt mewn dyblygu gwaith drwy gadw ail set o lyfrau i bwrpas costio os gellir cael y wybodaeth o'r cyfrifon ariannol, gydag efallai ychydig o gofnodion ychwanegol.
Yr cricedwyr yma yn colli gemau o bwrpas.
Ers canol y 1970au daeth Cymdeithas yr Iaith i gredu fod tynged yr iaith yn dibynnu'n bennaf ar barhâd cymunedau lleol. Nid oes llawer o bwrpas cael statws i'r iaith na dysgu Cymraeg i'n plant os bydd ein cymunedau lleol yn chwalu.
Ond y mae'r wybodaeth hon yn ddefnyddiol i bwrpas arall hefyd.
Ac onid dyna bwrpas aberth ein tadau dros addysg sicrhau mai'r unig lyfnu a wna'r plant fydd llyfnu penolau eu trowsusau mewn parchusrwydd?
Tegla Davies i holi'n ddifrifol, i ba bwrpas?
Wrth gwrs doedd yna ddim creadur byw yn unlle ganol nos, a doedd fawr o bwrpas gweiddi a galw am help." "Pwy ddaeth o hyd iddyn nhw?
Byd fin de siecle ydyw, er fod rhai o'r straeon wedi eu sgrifennu ymhell cyn y nawdegau; byd blinedig, byd lle mae'r unigolyn yn ei chael yn anodd i ddirnad ei le a'i bwrpas.
Deuai cymaint â hynny'n gliriach iddo bob awr - ei bwrpas oedd mynd i Nofa II.
Dynodir y canlynol fel dyletswyddau cydnabyddedig i bwrpas talu lwfansau presenoldeb yn unol â'r cynllun hwn, sef:-
Gan fod y Celtiaid paganaidd yn addoli'r meini ac yn eu cyfrif yn gysegredig, bu'r seintiau'n ddigon call i beidio â dinistrio'r cerrig ond eu troi at bwrpas Cristnogaeth drwy naddu croesau arnynt.
Yn anffodus, ni chwerthais unwaith yng nghwmni Catrin a'I chyfeillion, er falle, nad dyna bwrpas y stori yn y lle cynta.
Wyddost ti, fedra i ddim hyd yn oed gâl y plesar o ddeud straeon am fy mhlentyndod wrth fy wyrion a'm hwyresau þ fasan nhw ddim yn medru amgyffrad..." "Wyt ti wedi rhoi cynnig arni?" "I ba bwrpas?