Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bwrw

bwrw

Yna yn slei bach, pan na fyddai neb yn edrach, byddai'r fuwch yn bwrw'i llo a hwnnw'n marw trwy rhyw amryfusedd am nad oedd neb yno i gadw golwg arno fo!

Wedi deffro yn y bore, roedd yn bwrw fel o grwc ac unwaith eto, y lle fel cors.

Pe bai Aled yn herio'i ewyrth, mi ŵyr mai ar 'i fam y basa'r diawl di-egwyddor yn bwrw'i lid.

Hynny yw, y wynebau sy'n gwasgu at ei gilydd wrth reoli bwrw dwr allan yn ystod y symudiadau nofio.

Mi fyddai yna stori ysgafn yn y Cymru'r Plant weithiau, ond prin y byddai hi byth yn ddigon digri i'w hail- adrodd ar y ffordd adre o'r ysgol neu wrth aros iddi stopio bwrw glaw ar bnawn Sadwrn.

Coed yn bwrw eu dail yn gynnar - gaeaf caled.

Dyblwyd a threblwyd yr emyn a daeth llanc ifanc ymlaen, un nad oedd erioed o'r blaen wedi gwneud dim yn gyhoeddus, a bwrw ati i ddiolch am farwolaeth y Groes ac i weddi%o'n daer am "awel o Galfaria fryn".

Roedd hi cyn naw y bore, yn pistyllio bwrw, ac yn oer, ond roedd yn lot o hwyl ac mae'n dda ar gyfer y gyfres.

Roedd wedi sglefrio ar draws y gell ar ei fatres nes bwrw'i gorun yn erbyn pibell drwchus yr ychydig wres.

Er dirfawr fraw i chi maen nhw'n lladd y morloi bach trwy eu bwrw nhw â phastynau, wedyn maen nhw'n blingo eu cotiau prydferth i ffwrdd.

Un o'r rhesymau dros fethu bwrw brych yw prinder Magnesiwm yn y nerfau a reola gyhyrau'r llestr.

A bwrw'n fras fod prisiau wedi dyblu, ac enillion wedi cynyddu ryw deirgwaith, yr oedd gwir incwm wedi codi ryw hanner dros y cyfnod: camp ddigon canmoladwy.

Gwyddom yng Nghymru o brofiad chwerw a phoenus bod mwy i ddemocratiaeth na bwrw pleidlais pob pum mlynedd.

Yna'r gŵr yn rhoi ei ben heibio i'r drws, ac yn galw i'r tŷ, "Na, 'dydi hi ddim yn bwrw, 'd â i ddim â sach heddiw." Yna'n taflu hen gôt dros ei war a'i chau â phin sach ac yn troi'r bin at ei ysgwydd.

MARGAM A NEDD: William Corntwn oedd y cyntaf o abadau Margam y cadwyd canu iddo, hyd y gwyddys - a bwrw mai dyma'r William Abad y canodd Dafydd Nant a Lewis Glyn Cothi iddo.

A'r un pryd, anghofiwch am y rhaglen wirion yna Bwrw Sul.

Yn naturiol, does dim modd bwrw golwg feirniadol o ddifri ar bum cyfrol wahanol iawn i'w gilydd o fewn cwpas erthygl fer: hwyrach, serch hynny, fod rhywfaint o bwrpas mewn croniclo bras- argraffiadau sy'n codi o ddarllen cynifer o stori%au gwahanol y naill ar ôl y llall o fewn ychydig ddyddiau, a'r cyfan ohonyn nhw, rhaid dweud, yn gynnyrch llenorion go iawn sy'n grefftwyr yn y maes ac sydd, o'r herwydd, yn gwybod beth y maen nhw'n ceisio'i wneud.

Dagrau chwerthin oeddan nhw, erbyn dallt, chwerthin am ben y byd y bydd o'n bwrw'i lid arno fo, chwerthin nes mae'r dagrau'n powlio yn meddwl am y tir yn mynd dan y don adeg y dilyw mawr ac adeg Cantre'r Gwaelod ac adeg Ker Is.

Bwrw gwa~rd ar awgrym yr undcbau ar.~ gynnal cyfarfod rhyngddynt hwy a'r cwmniau a wnaeth Granet hefyd:

Pam mae solidau fel alwminiwm yn plygu yn rhwydd ond nid felly haearn bwrw?

Rhaid i mi wneud fy ngorau glas i ddod i benderfyniad synhwyrol, ac i'r perwyl hwnnw, da o beth fyddai bwrw golwg yn ôl a cheisio dadansoddi, mor wrthrychol ag y medraf, yr holl ddylanwadau a'm harweiniodd i'r fan hon.

Roedd Malcym ynta'n gweddi%o bob dydd y byddai'r fuwch wedi bwrw'i llo cyn iddo fo gyrra'dd ei waith.

"Os bydd hi'n bwrw eira drwy'r nos fedr yr un lori fynd yn agos at y seidin yna yfory, a bydd y bwyd yn aros yno am ddiwrnodau arall ac fe rydd hynny ddigon o amser i'r Maquis ei rannu.

Mae'n werth bwrw golwg tros y pethau a fyddai'n pwyso ar wynt yr Ysgrifennydd newydd yn y blynyddoedd nesaf.

Mae'r dehongliad hwn yn sicr yn cyd-fynd â chymeriad yr afon (yn enwedig felly ei rhan isaf) pan fydd hi wedi bod yn bwrw'n drwm.

Gwna di hynny.' 'Helô 'ma.' Daeth atynt gyda gwydryn hanner peint hanner gwag yn ei law a bwrw ati'n syth bin.

Yr oedd yn ddull newydd, tymhestlog, rhy frochus hyd yn oed i Thomas Charles o'r Bala, y gwr y byddai clywed John Elias yn bwrw drwyddi'n codi croen gwydd arno.

Mintai o longau wedi bwrw angor ger y porthladd.

A bwrw bod y fath ymgyrch yn llwyddiannus, beth fydd ffawd y Protestaniaid wedyn?

Nid nad oedd e'n ddyn digon dewr a gwrol, ond oedd bwrw er mwyn bwrw fawr o werth i neb, fel y dysgodd 'da'i dad.

Bwrw dwy awr neu well ar y copa, ac yna disgyn yn ochelgar dros y graig eilwaith, gan mai'r peth rhwyddaf yn y byd oedd colli golwg ar y llwybr i waered, heb sôn am ysigo sawdl neu dorri coes.

Bwrw 'mlaen i'r gogledd-ddwyrain dros Drum Nantygorlan i gyrraedd Nantyrhestr a dilyn honno i'w blaen.

Yn ôl pob golwg, yr hyn a wnaeth oedd bwrw golwg dros waith William Morgan gan gywiro neu awgrymu gwelliannau lle y tybiai fod hynny'n angenrheidiol.

'Ond cofio...cofio.' Mae'r toriad cysodol ar y llinell, ar ol 'cofio man,' yn bwrw'r ansoddair yn ol yn ogystal ag ymlaen at onomatopeia'r llinell wedyn ac eironi'r gair yn y cyd-destun galarus yn gynnil iawn.

Gyda'r 21ain ganrif yn mynd rhagddi, roedd yn bryd bwrw golwg yn ôl dros y mileniwm diwethaf.

Roedd ynunion fel cegin ffermdy - dresel, cwpwrdd tridarn, tan agored mewn basged haearn bwrw hanner ffordd i fyny'r wal, a goginiai gigoedd a physgod mewn dull barbiciw, crogai anferth o iau bren ar wal arall ynghyd a phob math o daclau gwneud menyn.

'Mae'r ficer wedi trefnu seremoni bwrw ysbrydion ymaith ar ôl y plygain yfory.' 'Os digwyddith hynny,' meddai Dafydd yn iasol, 'alltudion fyddwn ni, wedi'n condemnio i grwydro drwy'r holl fydysawd eang.

Fedrai hi ddim ffonio Mos ac roedd ei mam a'i thad yn bwrw'r Sul yn Llundain.

Bwrw 'mlaen hyd oni ddêl corlannau defaid i'r golwg ar y chwith.

Ond yr oeddech chi'n anfoesgar wrtha i.' Gonest, nid anfoesgar.' Brathodd ei gwefus a bwrw cipolwg ar y llythyrau oedd heb eu hagor, yna edrych arno eto.

Wedi ei throi hi am y neuadd yr oedd pawb, wedi mynd i wrando ar John Edmunds, Plas Deri, yn bwrw trwyddi ar ôl cael ei ethol ar y Cyngor Sir a hefyd yn Gadeirydd Cyngor y Dref.

Efallai mai buddiol fyddai bwrw golwg manwl dros y datblygiad yng nghyd-destun Prydain.

Cyfrol yn bwrw golwg ar yr 48 mlynedd gyntaf ym mywyd Emlyn Williams.

a ddylen ni fod wedi bwrw ymlaen i ffilmio neu roi'r camera i lawr a helpu?

Wrth lwc, mae llwybr y gyrrwr yn mynd heibio'r stryd arbennig hon ac yn bwrw 'mlaen â'r daith.

Gan nad oedd Sain a Fflach na label yr Anrhefn wedi dangos diddordeb yn y grwpiau yma, dyma'r tri yn penderfynu bwrw iddi a lansio label newydd i roi cyfle iddynt.

Bethan Jones Parry sy'n bwrw golwg bersonol ar y Nadolig

Mi roeddwn i wrth fy modd pan oedd hi'n bwrw glaw, gan y byddai nhad wedyn yn gweithio yn y stabal, neu'r tŷ gwair, neu'r beudy.

Rhoddent ef i'r fuwch pan oedd yn methu bwrw'i brych.

Ac wele, tua'r adeg yr oedd y Pabydd Polydore Vergil yn ymosod ar Sieffre am balu ei chwedlau celwyddog am wreiddiau'r Brytaniaid, yr oedd rhai o flaenoriaid y Brotestaniaeth wrth-Rufeinig a fabwysiadwyd gan y Saeson yn bwrw iddi i ail-lunio hen hanes yr ynys hon, yn y fath fodd ag i ddangos fod yma, ym Mhrydain Fore, eglwys apostolaidd bur, eglwys gyn-babaidd ddi-lwgr.

Mae eraill yn crwydro'r haf ond yn bwrw'r gaeaf mewn halting sites, sef safleoedd arbennig y mae'r awdurdodau lleol yn eu darparu ar eu cyfer.

Roedd yn pistyllio bwrw, a'r strydoedd yn troi'n afonydd.

Rhaid imi gyfaddef, fod y demtasiwn yn gref a bu bron imi wneud rhywbeth eithafol am gwallt cyn bwrw i barti pen-blwydd fy ffrind Sophie yn Llundain dros y penwythnos.

Iawn o beth ei galw yn Bwrw Sadwrn o hyn ymlaen.

Byddai'n bwrw i'r darllen â brwdfrydedd gwyntog, ond os digwyddai fentro i faes cymhleth y 'bennod gladdu' yn y Corinthiaid, byddai'n dueddol o faglu ar draws brawddegau aml-gymalog yr Apostol Paul.

Glenda Jackson sy'n cael sylw Aled Islwyn y mis hwn yn y gyfres achlysurol hon sy'n bwrw golwg ar rai o'r merched hynny sydd wedi cyfrannu at ddiwylliant y sinema...

Nid anwybyddodd hyd yn oed noson Nadolig, wedi bwrw ohono'r diwrnod ar ei hyd gyda'i ferch yn y pentref.

Dyna lle maent yn hongian ar y rhaff, ac yn rhoi'r trosol o dan y cerrig rhyddion hyn a'u bwrw i lawr.

Mae hi'n bwrw glaw heno 'ma, a dwi'n clywad ei sŵn o'n curo ar y to.

A s'gwn i os digwydd i blant y plant acw, ryw ryfedd ddydd a ddaw, ddod o hyd i'r cerrig a hwytha' erbyn hynny wedi eu bwrw'n ddigon anystyriol i ryw gornel lychlyd o atig a holi'n ddryslyd, 'Beth y mae y cerrig hyn yn ei arwyddoca/ u i chi?' A fydd yna rywun ar gael i fedru dweud wrthynt am y fangre lle bu rhai o'u llinach, eto yng ngeiria'r emynydd yr oedd Coffa yn ei goffa/ u:

'Roedd yr ast strae a ffeindiodd ei ffordd rywsut i'r Llety Cþn wedi bwrw ci bach yn y nos.

Thomas Charles a'u lluniodd a bu Thomas Jones, Dinbych, yn bwrw llygad beirniadol arnynt cyn eu hargraffu.

A'r rheswm dros amddiffyn yr iaith yw ein bod ni'n gofalu'n bennaf am les y dyn cyffredin sy'n bwrw'i oes yn y rhan hon o'r byd.

Ond cyn iddo fedru ynganu'r un gair arall, lluchiodd Gethin ei hun yn erbyn y lli nes bwrw dþr i geg agored ei ffrind.

Nid yw'n anodd gweld sut mae pethau arnoch - dau styfnig yn rhannu'r un tŷ, torri'r un bara a bwrw'r nos yn Nhrefeca Fach.

Wedi bwlch mor hir, credaf mai doeth ar ôl hirlwm felly yw bwrw golwg yn ôl dros y misoedd a'u digwyddiadau anghyffredin yn bennaf oherwydd y tywydd anhymorol gawsom yn hytrach na chyfyngu i un pwnc.

Ond a bwrw bod y ddeddf yn cael ei newid, beth fydd y canlyniadau?

'Y blodau!' gwaeddodd Bigw, ac edrychais i fyny a'i gweld yn bwrw blodau, cafod fawr o flodau amryliw yn ein tagu gyda'u perarogl.

Ar ben y cyfan, roedd hi wedi bwrw glaw man yn drwm a chyson gan ychwanegu at eu diflastod, a nawr roedd yr oediad hwn yn coroni'r cyfan.

Arwyddocâd y drafodaeth hon mewn colofn newyddiadurol yw ei bod yn bwrw peth goleuni ar seicoleg y gwaith o greu telyneg, ond nid ymhelaethaf ar hynny yma.

Mae'n bosibl hefyd bod y tabl hwn yn adlweyrchiad o beth yw oedran y rhai hynny sy'n bwrw ati i ddysgu'r iaith.

O'r foment honno doeddwn i ddim eisiau gwneud dim byd ond actio." Wedi bwrw'r fath brentisiaeth, ofer fu ei ymdrechion i fynd i ddysgu a hunllef oedd meddwl am wynebu llond stafell o blant ysgol.

Gyda'r mwya o bleidleisiau erioed wedi eu bwrw maen argoeli'n noson wych.

Fe fydd y rhaglenni yn bwrw golwg ffresh a newydd ar berfformiadau ein tîm cenedlaethol.

Wnes i ddim oedi, dim ond bwrw golwg sydyn arno o'r gegin.'

Er nad yw mam yn Eglwyswraig Sabothol selog, mae hi'n frwd dros y dathliadau mawr a phe byddai'n bwrw cathod a chŵn, ni chollai Gymundeb Bore Sul y Pasg.

Lyn Dafis yn bwrw golwg ar un agwedd ar y digwyddiadau diweddaraf yng ngogledd Iwerddon.

Tresio bwrw y prynhawn - storm o fellt a tharanau felly doedd dim trydan na dwr.

Er hynny, y mae'n gwbl addas fod y llyfr yn gorffen gyda bwrw golwg ar oblygiadau'r digwyddiadau syfrdanol yn nwyrain Ewrob i'n bywyd ni yng Nghymru.

Ar ôl bwrw ei brentisiaeth gyda Betsey, i ffwrdd ag ef ar daith garu ddiflino, bicare/ sg, a fyddai'n darllen fel dychan ar y nofel serch Victoraidd yng Nghymru oni bai am y protestio parhaus fod y cwbl er lles moesol ei gynulleidfa, yn enwedig y rheini a oedd yn tueddu at y fath ymddygiad.

Felly, wrth i mi godi i fynd i 'ngwely dyma fi'n rhoi fy nwy law ar ben Joe Louis a dweud wrth y lleill: 'Mae bwrw cythreuliaid o ddyn yn eitha hawdd.

Clywais Mam yn dweud i'r blaenoriaid ofyn i bawb sefyll yn dawel ar eu traed i ddangos parch a galar, ar ôl i'r trên ddod yn ôl y noson honno i Wyddelwern Ond dyma fy nhrên i yn awr yn bwrw ymlaen am Ruthun.

Bwrw gwawd, canu 'Sosban Fach' a sefyll eu tir a wnaeth y bobl ond llwyddodd yr heddlu i agor y gatiau yn y man.

Roedd Charvis wedi bwrw person arall a mewn ffordd roedd rhaid iddo fe fynd.

Os wyt ti wedi bod yn y caban o'r blaen, rwyt yn bwrw mlaen â'th daith.

Yn hwyr nos yfory bydd lori%au yn dod i'w gyrchu ond ..." "Mae hi'n bwrw eira," meddai Marie ar ei draws.