Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bwtler

bwtler

Arweiniodd y llwybr ni ymlaen at ochr y tŷ gwydr ac agorodd y bwtler ddrws i mi a safodd o'r neilltu.

Aeth y bwtler ymaith rhwng y planhigion atgas.

Safai'r bwtler o'i flaen a dywedodd: "Dyma Mr Marlowe, Cadfridog." Ni symudodd yr hen ŵr, na siarad nac amneidio hyd yn oed.

Gwthiodd y bwtler gadair wiail laith yn erbyn cefn fy nghoesau ac eisteddais i lawr.

Meddai'r bwtler yn ddifynegiant: "Fe wêl y Cadfridog chi yn awr, Mr Marlowe." Gwthiais fy ngên i fyny oddiar fy mrest ac amneidio arno.

Gwnaeth y bwtler ei orau i'm tywys drwodd heb i mi gael peltan yn fy wyneb gan y dail soeglyd, ac ymhen amser daethom i fan agored yng nghanol y jyngl o dan y to crwn uchel.

Felly dewisodd y bwtler yr eiliad gyfleus honno i ddychwelyd trwy'r drysau gwydr a'm gweld yn ei dal.

Nid y bwtler yn dychwelyd ydoedd.

Yna dychwelodd y bwtler gan wthio troli de trwy'r jyngl, cymysgodd frandi a soda i mi, lapiodd y bwced rew gopr gyda napcyn tamp, ac aeth ymaith ar ysgafn droed rhwng y tegeiriannau.