'Rwyt ti wrth dy fodd yn bwydo'r ieir.'
Mae cytundeb rhwng pysgotwyr sewin a biolegwyr/naturiaethwyr fod gwahaniaeth rhwng pysgodyn yn 'bwydo' a physgodyn yn cymryd ambell i gegaid.
Ac ar ôl bwydo'r gwningen, penderfynodd ei bod yn amser mynd â'r cŵn am dro cyn mynd i'w wely.
Crewyd databas ar gyfer bwydo'r atebion i'r cyfrifiadur, ac wedi dadansoddi'r ffigyrau yn y databas, defnyddiwyd meddalwedd taenlenni (spreadsheet) Works i greu'r graffiau a'r siartiau.
Y Prawf - Fe lwyddodd y gohebydd i fynd heibio i'r Dderbynfa a wardiau unigol lle'r oedd mamau yn bwydo'u plant ond fe gafodd ei rhwystro ddwywaith cyn cyrraedd at y brif ward ei hun.
Rydyn ni wedi bod â chysylltiad da â nhw yn y gorffennol a rydyn ni'n dal i'w bwydo nhw.
Felly mae'r Aderyn Du, y Robin Goch a'r Drudwy yn bwydo ar y ddaear.
Mae siwgr yn bwydo toes ac yn cyflymu'r broses o dyfu.
Cymaint haws oedd ganddi weini trugaredd a thosturi efo dwylo a chusan; gwisgo a dadwisgo, golchi a bwydo, trwsio a smwddio, anwylo a chribo, cysuro teuluoedd 'euog' a dwrdio ambell un esgeulus.
Roedd yr oedi'n niwsans i griw o ohebwyr blinedig ond yn dyngedfennol i'r gwirfoddolwyr a oedd yn gorfod symud bwyd yn gyflym o'r maes awyr i'r canolfannau bwydo, os am ddal eu gafael arno.
Cwn dingo,possum, wallaby ond dim byd I'w gymharu a bwydo Joey Bach mis oed 'da photel o laeth twym.
Bwydwr potel lemone/ d Bwydwr wal Cerdyn Agen/hollt i chi allu gwylio'r adar Man bwydo adar ger y ffenest BWYDO ADAR
Mae'r beiddgarwch mynegiant hwnnw yn bwydo ar feiddgarwch y meddwl, ac fel arall; a phan ddown wyneb yn wyneb a'i gwaith hi, ni allwn ond dilyn o hirbell, a chydnabod arucheledd y wisg a'r cynnwys fel ei gilydd.
Wedi deor bydd larfa'r parasitoid yn bwydo ar y gwesteiwr ac, fel y crybwyllwyd eisoes, yn ei ladd.
Mae'n rhaid bod yr un hen wreiddiau yn eu bwydo.
Y ffordd orau i ddenu adar i ddod yn ddigon agos i arsylwi arnyn nhw yw trwy eu bwydo, ac mae hynny'n gymorth iddyn nhw fyw drwy aeafau caled.
Dyfrhau yn y bore sydd orau a gellir bwydo trwy ddwr, gan ddilyn y cyfarwyddyd sydd ar ` y pecyn neu'r botel yn ofalus, ar ôl i'r sypyn cyntaf o ffrwyth ddechrau blodeuo.
Yn y straeon am Sir Gaernarfon yr un modd, y gwragedd biau trin a bwydo'r anifeiliaid: yr oedd y chwarel yn mynd â holl egni'r gwŷr - y chwarel a'r daith hir iddi ac ohoni.
Gan fod y gylfingroes yn hoffi byw a bwydo mewn coed conwydd, gellir gweld heidiau ohonynt pan geir gorlifiadau po rhyw dair blynedd o'r cyfandir.
Mae'r Dryw yn bwydo ar lefel y llwyni a'r Titw Tomos ar lefel y brigdwf neu'r canopi.
Rhywsut, pan fyddech yn ei bwydo fe deinlech yr un mor sbeitlyd tuag ati hi.
Mae'n debyg fod mamau na allai fforddio bwydo'u plant yn eu rhoi yn yr olwyn.
Ar ôl treulio deuddydd yn ymweld â chanolfannau bwydo Mogadishu, lle'r oedd rhywfaint o drefn - a gobaith - wedi'u hadfer, fe ddes i'r casgliad mai cyfleu cymhlethdod newyn yr o'n i am geisio'i wneud.
Gellir dechrau eu bwydo'n gyson trwy ddwr.
Ym mhlwyf Coedana y mae'r ffrydiau sy'n ei bwydo, ac y mae ei llednentydd yn traenio cryn dipyn o dir Canol Môn.
Byddai'n cadw tipyn o ieir i helpu bwydo'r criw.
Bydd y patrwm dyfrhau a bwydo yr un fath ag i'r rhai sy'n tyfu mewn borderi pridd.
Dyna pam y gellir casglu'r blodau hen niweidio'r planhigyn, ond peidiwch a sathru'r dail gan mai hwy sy'n bwydo'r oddfyn.
Ymhlith yr aberoedd sydd mewn perygl mae Dyfrdwy, a Hafren yr olaf wrth gwrs yn yn fannau bwydo o bwys rhyngwladol i adar megis y gylfinir, a hwyaid a gwyddau gwyllt.
Gan nad yw eu heffaith yn para'n hir iawn, rhaid bwydo gwrteithiau hylif i blanhigion yn gyson yn ystod y tymor tyfu.
Gan eu bod yn bwydo ar hadau mae penglog a chyhyrau gên y pincod yn fawr a chryf, yn enwedig rhai y llinos werdd, y gylfinbraff a'r gylfingroes.
Mewn ardaloedd lle mae llawer o fandaliaeth yn digwydd, mae modd gwneud bwrdd bwydo adar yn un cludadwy drwy osod traed arno.
Mae'n bosib bwydo pob math o fanylion am leoliadau yng Nghymru i mewn tirwedd, tywydd, adnoddau, llety - gan gynnwys lluniau manwl, ac mae cynhyrchwyr ar draws y byd yn gallu cael gafael ar y deunydd o fewn munudau.
Byddai'r Fforwm yn bwydo syniadau i'r Pwyllgor Pwnc yn ogystal â vice versa.
Y diddordebau allanol ac ychwanegol yma sy'n bwydo'r mudiad.
Ie, dyna Siân þ ac yna'n ein bwydo a'n hymgeleddu gystal â neb.
Yn yr un modd,- faint o nodiadau y maent yn eu bwydo i'r dosbarth yn bryd parod a faint y maent yn eu cynnig ar ffurf cynhwysion i'r disgyblion eu hunain eu defnyddio i lunio'u prydau cyn eu treulio'n llawn.
Rydw i, hyd yn oed, yn dechrau amau ai cael eu bwydo ynteu eu saethu yw tynged y trueiniaid.
Yn gyntaf, mae'r pincod yn bwydo eu cywion i ddechrau ar bryfaid a lindys.
Ar ba lefel y mae'r adar yn bwydo o amgylch y bwrdd bwydo?
Bydd y dyfrhau'n amrywio yn ôl y tywydd ond mae'n rhaid cofio bod tomatos, fel llawer o blanhigion eraill, yn ymateb yn dda i ddyfrhau a bwydo cyson.
Yn ail, mae llawer o'r rhai sydd yn y gerddi yn y Gwanwyn a'r Haf yn ei throi hi am y wlad yn y Gaeaf ac yn bwydo ar bob math o hadau, a hefyd ar weddillion y grawn yn y caeau þd a'r gwenith Er bod y pincod i gyd yn byw ar hadau, mae pig y rhan fwyaf ohonynt yn amrywio i drin yr hadau y maent yn ei fwyta, ac i ddileu unrhyw ffraeo ynglyn â bwyd.
Fodd bynnag, rhwng mis Ebrill a dechrau mis Hydref, mae yna ddigon o fwyd naturiol o gwmpas, ac felly does dim angen bwydo adar; yn wir, gallai hynny fod yn beth drwg.
Ysbrydolwyd y cerddor o'r Ariannin, Ariel Ramirez, i'w gyfansoddi ar ôl cael ei ysgwyd gan yr hanes am ddewrder lleianod yn bwydo 800 o Iddewon newynnog yn yr Almaen adeg y rhyfel gan wybod mai eu crogi fyddai eu cosb o gael eu dal gan y Natsiaid.
Gellir bwydo'r glaswellt a lladd chwyn ar yr un taeniad trwy ddefnyddio cymysgedd o ddeunydd cemegol sy'n cynnwys gwrtaith a chwynladdwr yn yr un cymysgedd.
Bendithia ymdrechion Cymorth Cristionogol a'r eglwysi a miliynau o Gristionogion i gynorthwyo'r anghenus a bwydo'r newynog.
Mae gan Mrs Morgan lawer o hanesion am y mawrion y bu yn eu bwydo'r dyddiau hynny.