Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bwynt

bwynt

Ond 'roedd gan y 'Sgotyn bwynt: mae llawer gormod o rym gan y Boldew Barfog bellach greda' i.

Maen nhw'n parhau yn y trydydd safle, ddau bwynt ar y blaen i Hartlepool.

Mae modd cael addysg Gymraeg… hyd at ryw bwynt.

Onid yw hwn yn bwynt cyfarwydd ac un a ail-adroddwyd gennym yn fynych.

Ac yn dilyn symudiad rhwng Sel a Tommy David, fe grewyd cais i JJ, a Phil yn ychwanegu'r ddau bwynt eto.

Ymhob un ohonynt, dadansoddir y testun yn bwyllog, symudir o bwynt i bwynt yn rhesymegol, dosrennir y pwyntiau'n is- adrannau, nodir yr athrawiaethau sydd yn ymhlyg ym mhob rhan, a goleuir y datganiadau a wneir gan brofion, sef cymariaethau, trosiadau, cyferbyniadau, daduniadau, oll wedi'u tynnu naill ai o'r Ysgrythur ei hun, o lyfrau a ddarllenasai Rowland, neu o'r byd naturiol yr oedd ei ddarllenwyr yn gynefin ag eś Mae iddynt fframwaith o resymu clir.

Ar Barc Jenner, bydd Y Barri gurodd Abertawe yn eu hunig gêm erbyn hyn, yn croesawu Cei Connah sydd heb bwynt yn y gystadleuaeth.

Ond fe gymerodd yr ERC drueni dros Castres - maen nhw wedi rhoi pwynt nôl i'r Ffrancwyr ar ôl tynnu dau bwynt oddi arnyn nhw am dorri rheolau Cwpan Heineken drwy gynnwys Norm Berryman pan nad oedd o'n gymwys i chwarae yn y gystadleuaeth.

Gadewch inni ystyried dau bwynt arall sy'n oblygedig yn thesis Saunders Lewis.

Os digwydd i chi, mewn gêm, golli un o'ch Cestyll am Esgob neu Farchog eich gwrthwynebydd mae'n debygol y byddwch yn colli'r gêm yn y pen draw, gan fod gwerth cymharol eich byddin chi wedi mynd i lawr ddau bwynt.

Paul Danson yn rhoi cic o'r smotyn roddodd bwynt i Swindon.

Trosiad Phil Bennett yn dilyn ac yn ychwanegu dau bwynt arall i'r sgôr.

Ymosododd ar ei gyd-Galfiniaid ar bwynt diwinyddol astrus ynglŷn â natur duwioldeb Crist.

Maen nhw hefyd wedi tynnu dau bwynt oddi ar Castres - fydd yn chwarae Casnewydd - am gynnwys Norm Berryman yn eu tîm yn erbyn Caerfaddon.

Cafodd Wrecsam bwynt lle buasai timau eraill wedi cael mwy.

Cofio bore godi gyda Dafydd Ellis i gyfarch y wawrddydd gyntaf ar y Môr Canoldir, a ninnau'n hwylio reit i bwynt codiad haul.

Mae Coventry, felly, ddau bwynt y tu ôl i Middlesbrough, a mae'r pwysau ar dîm Terry Venables nawr, ar ôl iddyn nhw golli 2 - 1 yn erbyn Ipswich.

Bydd llwydrew a barrug yn dew iawn hyd at yr arfordir gyda'r tymhereddd cyn ised a dau, neu hyd yn oed dri, gradd o dan bwynt rhewi mewn ardaloedd cysgodol.

Mae'r gyfraith yn bleidiol i'r Gymraeg, a dyna ydi holl bwynt cael Bwrdd statudol i weithredu.

Pan ddaeth i fyny at ochr y gwely, efe a dynnodd y llen yn agored, a chan dynnu i fyny y dillad, yr oedd ar bwynt dyfod i mewn.

Hefyd doedd cleifion oedd wedi goresgyn eu salwch ddim wedi eu cynnwys, ac oherwydd y ddau bwynt yna daeth galwadau am ymchwil annibynnol.

Wedi ystyried y ddau bwynt uchod, daethom i sylweddoli mai brwydr fechan iawn a enillwyd drwy gadw'r ysgol ar agor.

Dau bwynt diddorol.

Er bod llwybr yma yn ymddangos yn fyrrach o edrych ar atlas ysgol wedi'i seilio ar dafluniad Mercator, gwyr pawb mai siap sffer sydd i'r ddaear, ac felly rhaid i'r llwybr byrraf rhwng dau bwynt ar wyneb y ddaear ddilyn cylch naturiol y sffer.

Ac wele'r Quango Iaith yn gwneud gwaith brwnt y Torïaid yng Nghymru (sef holl bwynt sefydlu Quangos os na allwch ennill grym trwy etholiadau), yn lledu twyll a rhagrith fel wna'r WDA, Tai Cymru, yr Ymddiriedolaethau Iechyd, yr Ysgolion sydd wedi eithrio a'r Swyddfa Gymreig ei hun, yr Arch Quango.

Yr oedd y math yma o daeru braidd yn ddi-bwynt.

Fe gafodd ei wobr, a chafodd Caerdydd bwynt.

A phan gafodd yr athro achlysur i longyfarch Hector ar ateb i ryw bwnc bach nid oedd terfynau i lawenydd y disgybl newydd, a phan ofynnodd un o'r merched yn y dosbarth i Hector, wedi'r wers, am help a chyfarwydd ar bwynt a barai anhawster iddi, teimlodd yntau, am y tro cyntaf, efallai, ias o'r pleser a ddaw o awdurdod o oleuni cywir ar y broblem.

Gwadu y cyhuddiad a wnaeth golygydd newydd Seren Gomer; "Egwyddorion ein Cyhoeddiad a gadwyd hyd yma yn ddilwgr", meddai, ond defnyddiodd Seren Caernarfon enghraifft gohebiaeth Hughes ei hun yn Seren Gomer ar fater yr eglwys wladol er mwyn profi ei bwynt: