Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bwysicach

bwysicach

Yn bwysicach, pam y gadodd i'w blant gael eu magu'n Saeson?

Ond, mewn gwirionedd, y mae yna resymau cryf dros ddefnyddio'r holl offer technegol sydd ar gael i helpu yn y maes addysgol hwn, sy'n prysur ddod yn bwysicach.

Ond ym maes yr actor, mae hynny'n bwysicach fyth.

(Y mae'n cymryd arno beidio a son am yr holl rinweddau hyn er mwyn cael mynd ymlaen i son am rinwedd bwysicach fyth, fel y ceir gweld maes o law).

Mae pobl, felly, fel arfer, yn bwysicach na phethau.

Ac yn bwysicach byth, gwastraffu cyfle euraid a hanfodol yn yr ymgyrch i adfer yr iaith.

Mae hyn dipyn yn bwysicach na bod yn iaith swyddogol.

Fe fydde cynnal Cwpan y Byd yn Ne Affrica yn bwysig i'r wlad - yn bwysicach hyd yn oed na chynnal Cwpan Rygbir Byd.

"Wrth brynu baco rhydd mae pobl yn cael mwy o ddewis, yn cael y cyfle i drio pethau gwahanol, ac yn bwysicach fyth maent yn arbed arian." Mae'r math yma o faco yn rhatach bydded rhywun yn ei ddefnyddio mewn cetyn neu ar gyfer ei rowlio.

Gallai enw lleidr fod yn bwysicach na'r hyn a ladratawyd, neu dân yn llai pwysig na'r sawl a achubwyd ohono.

Poenusach i mi yw darllen llyfrau nad yw eu cymeriadau byth yn gwisgo nac yn bwyta Y gwir amdani yw bod brethynnau a thorthau ynddynt eu hunain bwysig o fyw pawb, ac at hynny, ac yn bwysicach na hynny, mewn stori%au y maent yn arwyddion - ond yn wir yn symbolau - o gyraeddiadau pobl, eu hawydd, eu hofnau, eu huchelgais.

Ysgrifennodd yr hanesydd Herbert Butterfield, yn ei lyfr The Origins of Modern Science, : " Mae Chwyldro Wyddonol yr unfed ganrif ar bymtheg yn bwysicach na dim a ddigwyddodd ers cychwyn Cristionogaeth.

Ond, yn bwysicach na dim i mi, mae'n ffrind personol i Carlos Menem.

Gan fod busnes yn weithgarwch sydd yn ymestyn dros gyfnod, mae cyfnewidiadau dros amser yn aml yn bwysicach na'r sefyllfa fel y dangosir hi yn y ffigurau ar ddyddiad arbennig.

A rhywun sydd yn dweud fod crefydd yn bwysicach na iaith, mae o allan o'r cyd-destun.

Mae'n wynebu croesffordd yn ei fywyd, ei gydwybod yn dechrau ei boeni ynglŷn â digonedd ei deulu, ond yn bwysicach fyth mae wedi syrffedu ar y syniad o fyw fel gwr bonheddig, ac mae ei gariad at Lisabeth yn prysur oeri.

Hyd yn oed ym 1995 dydi hynny ddim yn bosib - os rhywbeth mae'n bwysicach fyth.

Bydd yn rhaid iddo ef faddau i mi am ddweud i ni ei achub o fod yn ddim byd ond bardd, neu'n brifardd, i fod yn awdur llyfrau plant, sydd yn bwysicach o dipyn yn fy marn i!

Mae'n wir deud fod plant bychan yn hoff o anifeiliaid ond mae stori yn bwysicach i'w harwain drwy lyfr.

Mae'r arddangosfa'n agor am saith o'r gloch." "Mae'r siop yn bwysicach iddo fo na ryw lolos fel yr arddangosfa.

Ond gellid meddwl mai Davies a Salesbury a fu'n bennaf gyfrifol am ddarblwyllo'r Frenhines a'i gweinidogion fod lles crefyddol y Cymry'n bwysicach nag unffurfiaeth wladwriaethol.

Er mwyn ateb gofynion y cyfrwng daw'r hanfod newyddiadurol o gwtogi a chywasgu yn bwysicach nag erioed.

Lledwyd y lôn ac, yn bwysicach fyth, gosodwyd palmant drwy'r pentref.

Yn bwysicach fyth, cysylltwch â ni gydag enghreifftiau o anghyfertaledd ac anghyfiawnderau mae'r iaith Gymraeg yn eu dioddef, boed hynny yn y gwaith neu'r gymuned - mae pob un yn bwysig.

Wrth ei gwisgo, roedd o'n ennill modfedd neu ddwy reit dda ac yn bwysicach fyth, nid fel Willie-llnau-ffordd y teimlai ynddi ond fel William Solomon, neu hyd yn oed Mr William Solomon.

Gwrthododd siarad o flaen y camera oni bai bod y plant o'i gwmpas; roedd am osgoi rhoi'r argraff ei fod yn ei ystyried ei hun yn bwysicach na'i ddisgyblion.

Roedd yn fuddugoliaeth i'r wasg ar un wedd, ond roedd yn fuddugoliaeth bwysicach i genedl y Cwrdiaid.

Yn bwysicach fyth, gall safleoedd mwynau sydd wedi'u gweithio, boent wedi'u hadfer neu beidio, fod o fwy o werth i'r amgylchedd na'r tir a fu yno gynt.

Ond yn bwysicach i mi, roedd yma gyfle heb ei ail i deithio'n ôl at ddinas a du'n agos iawn at fy nghalon a chael cyfarfod a recordio sgyrsiau gyda llawer o hen gyfeillion a chyfansoddwyr y bu+m yn astudio gyda nhw.

Wrth feddwl am drobwyntiau bywyd Daniel Owen, anodd credu fod yr un trobwynt wedi bod yn bwysicach na'i brentisio'n deiliwr gydag Angel Jones, blaenor gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, oblegid fel y cyfeddyf ef ei hun, gwnaeth hynny'r byd o wahaniaeth iddo yn foesol ac yn ddeallusol - yn foesol, oherwydd golygodd fod rhaid iddo fynd i'r capel dair gwaith ar y Sul ac i bob moddion yn yr wythnos yn y cyfnod pan oedd yn dechrau ymryddhau o lyffethair awdurdod ei fam, a phan oedd ei frawd Dafydd efallai'n dechrau mynd ar gyfeiliorn, - yn ddeallusol am yr un rheswm ac am fod gyda'r hen Angel 'hanner dwsin o ddynion call, sobr, a darllengar, a bu (bod gyda hwy) yn fath o goleg i mi'.

Ond o'n safbwynt ni, yn bwysicach na'r ffynhonellau hyn, mae i'r egwyddor safle arbennig mewn cyfraith gyfansoddiadol, oblegid bu swydd iddi yng nghyfansoddiad yr Almaen.

Ac yn bwysicach fyth, mae Harri yn awyddus i gael ei gyfareddu.

Bryd hynny mae'n ofynnol i'r gohebydd fod yn arbenigwr ar wneud rhyw fath o jig-so, ac yn bwysicach fyth ei fod yn cael blas ar osod ambell ffaith yma a thraw mewn darlun aneglur cyn bod y darnau i gyd yn disgyn i'w lle yn y cynadleddau terfynol i'r wasg.

Ac, yn bwysicach, am rywun in caru.

Mae'r iaith yn bwysicach na hunan-lywodraeth.

Yn bwysicach, roedd y gynulleidfa gartref wedi mwynhau hefyd.

Yn sgil hynny mae'n debyg i rieni ddod i drysori bywydau eu plant yn fwy, ac i'r tad ddod yn bwysicach yn ei rôl fel amddiffynnydd y teulu.

Hyd at y diwedd un mynnodd fod yr 'iaith yn bwysicach na hunan-lywodraeth'.

Mae swyddogaeth gymunedol yr ysgol bentref wedi dod yn bwysicach yn siroedd Dyfed yn ystod y ddegawd ddiwethaf oherwydd dirywiad yr iaith yn y cymunedau ehangach a dyfodiad y polisi iaith newydd i ysgolion y siroedd.

Daeth y drych-ddelwedd i fod yn bwysicach na'r realaeth; y teyrn ar ddelw Duw a helaethodd fframwaith cymhleth y llys.