Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bwysicaf

bwysicaf

Cyfieithu o'r Lladin i'r ieithoedd brodorol, a'r Gymraeg yn eu plith, oedd y ffordd bwysicaf o gyflawni hyn oll, cyfieithu, fel y dywedodd Thomas Wiliems, 'pob celfyddyt arbenic or gywoethoc Latiniaith yr geindec Gymraec einom'.

Ond y neges bwysicaf i'r cadwriaethwyr oedd bod yn rhaid i ddoethineb a phrofiad yr oesoedd gael cyfle i ymdreiddio i gof yr hil o'r naill genhedlaeth i'r llall.

Y neges bwysicaf ar y ffordd agored yw meddwl ymhell ymlaen llaw, a darllen y ffordd ymhell i ffwrdd.

Ond o groniclo ei hanes yn ystod y cyfnod hwnnw fe geir mai'r hyn sydd bwysicaf yw, nid ei dylanwad politicaidd cyffredinol (oblegid bychan ydoedd) ond twf ei syniadau a'r modd y ceisiodd ei harweinwyr lunio a diffinio safbwynt ac agwedd Gymreig tuag at argyfwng y dydd.

Defnydd gofalus o ofod gwyn ar y ddalen yw'r ffactor bwysicaf mewn gosod.

pac, felly, fydd braidd yn araf ac, yn bwysicaf, pac sydd heb flasu llwyddiant ar y meysydd rhyngwladol.

Mae'n syn i'r golygydd ddweud 'y gerdd bwysicaf yn y casgliad hwn yw 'Gweddi'r Terfyn' gan nad oes yma ysgrif ar y gerdd honno; gallesid cynnwys ysgrifau DZ Phillips a SL ei hun o'r Tyst.

Pwysleisid y rhinwedday hynny a gydnabyddid gan y beirdd yn bwysicaf ac a dderbynnid yn ofynion uchaf y gymdeithas wâr ddisgybledig.

Ond, yn bwysicaf oll, daeth dan ddylanwad y Diwygida Proestannaidd.

Rhan bwysicaf gwaith y gwleidydd yw ceisio sefydlu'r amodau i helpu pobl bob yn un ac un i fyw'r bywyd helaethaf posibl.

Twristiaeth ydi'r ffon fara bwysicaf ac mae'n wir dweud bod y lonydd culion yn frith o sgwteri a motobeics er bod yna wasanaeth bysiau cyhoeddus rhagorol a rhad.

Credaf mai'r cwestiwn cyntaf oedd bwysicaf.

O safbwynt cynnal a datblygu addysg ddwyieithog yng Ngwynedd, ganddoch chi'r cydgysylltwr iaith mae'r rol bwysicaf.

goeden Acer saccharum yw'r bwysicaf o'r coed masarn, y hi piau'r ddeilen ar faner Canada.

Teyrngarwch i genedl yw elfen bwysicaf moesoldeb gwleidyddol.

Cyfrwng yw'r rhagymadroddion, yn y lle cyntaf, i gyfarch a rhyngu bodd noddwyr ac arweinwyr cymdeithas; ac yn yr ail le, a hyn sydd bwysicaf o ddigon, i roi cyfle i'r awduron eu hunain egluro eu bwriadau a'u cymhellion.

O'r wyth soned a restrais uchod nid dyma'r orau na'r bwysicaf o ddigon, ac eto y mae'n bur nodweddiadol ei thechneg.

Credaf y ceir y dystiolaeth bwysicaf yngh Nghytundeb Maastricht ei hun.

O blith y mynaich traddodiadol, Urdd y Sistersiaid oedd bwysicaf yng Nghymru: hwy oedd piau mynachlogydd yr Hendy Gwyn ac Ystrad Fflur a Chymer, er enghraifft, a lleiandai Llanllyr a Llanliugan, er mai'r Premonstratensiaid oedd piau Abaty Talyllychau ac Urdd S.

Os canolbwyntiwn ar y wlad a ystyriai ef y bwysicaf o wledydd Ewrop, sef Ffrainc, gwelwn fod Ffrancoffiliaeth Saunders Lewis, lawn cymaint â'i Ewropeaeth, yn cyrmwys rhagfarnau daearyddol ac ideolegol.

Wedi'r cyfan, dyma ddinas sy'n cael ei chyfrif gan UNESCO fel un o'r deuddeg canolfan bwysicaf o'r fath yn y byd, a thros chwe mil o'i hadeiladau wedi'u clustnodi fel rhai o bwysigrwydd eithriadol.

Yr elfen bwysicaf ym Meini Gwagedd yw realistiaeth y portread o fywyd cefn gwlad ym mlynyddoedd cynnar y ganrif hon.

Dyma'r rhan bwysicaf o ddigon a berthynai i'r olwyn.

O holl goed Ewrop y dderwen yw'r bwysicaf, mae'n siwr.

Unir aelodau'r gymundod hon gan eu hanes - sef y profiad o gydfyw am ddwy neu dair mil o flynyddoedd ar y penrhyn a alwn yn Gymru; a hefyd gan ffactorau eraill sy'n cynnwys eu traddodiadau, a'r iaith Gymraeg yn bwysicaf yn eu plith; gan batrwm diwylliannol unigryw; gan sefydliadau crefyddol, diwylliannol, cymdeithasol (yn arbennig eu tîm rygbi), ac, yn awr eto, gan rai gwleidyddol; a chan yr ymwybyddiaeth o'u Cymreictod.

Y priddoedd yma sydd bwysicaf yng Nghymru, o ran arwynebedd, a cheir hwy ar dir o uchder canolig.

Yn sicr, dylid sylwi mai wedi alaru'n hollol ar siarad gwag a hunangais ein gwleidyddwyr Cymreig a'n harweinwyr cendlaethol y mae'r ieuanc, ac mai elfen bwysicaf ei gred yw sel angerddol dros yr iaith Gymraeg a'r hen ddiwylliant Cymreig.

UN o'r bobol bwysicaf ym mywyd pob myfyriwr am y weinidogaeth a phob gweinidog hefyd, ers talwm, oedd y dyn llyfr bach.

Ac nid tiriogaeth y byd Celtaidd ym Mhrydain ac Iwerddon gynt sydd bwysicaf yn yr hanes, ond tiriogaeth a libart y seici.

Y mae eisiau cydnabod mai menter ar y cyd yw addysg plentyn meithrin ac y gall ansawdd y berthynas sy'n cael ei greu rhwng rhieni a'r athrawon/gweinyddesau meithrin yn yr ysgol fod yn sylfaen i bartneriaeth bwysig ac yn fantais i'r ysgol, y rhieni, ac yn bwysicaf oll, i'r plentyn.

Fe gerddais ocsiynau dirifedi ar drywydd llyfrau ond mae'n debyg mai'r un bwysicaf y bu+m ynddi oedd yr ocsiwn ar lyfrau Hendregadredd, Pentrefelin, ar ôl marw y Barnwr Ignatius Williams.