Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bwysigrwydd

bwysigrwydd

Roedd Fidel yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd addysg, a doedd e byth wedi anghofio'r modd y gwnaeth ei fam, na fu mewn ysgol erioed, ymdrech i sicrhau'r addysg orau iddo.

Mae'r ateb yn syml - y pentrefwyr eu hunain ddylent benderfynnu ar bwysigrwydd yr ysgol i'w cymuned.

O'r cychwyn cyntaf dadleuodd Cymdeithas yr Iaith dros bwysigrwydd Cynulliad trwyadl ddwyieithog, ond, flwyddyn wedi sefydlu'r Cynulliad realiti'r sefyllfa yw mai lleiafrif bach o aelodau'r Cynulliad sy'n dewis siarad Cymraeg ar lawr y siambr a llai fyth yng nghyfarfodydd pwyllgorau'r Cynulliad.

Gwelodd Jean Paul Sarte, y Comiwnydd, bwysigrwydd difesur eu hiaith i bobl sydd dipyn yn llai niferus na'r Cymry, sef y Basgiaid.

Yn anffodus, er imi geisio tynnu sylw'r awdurdodau priodol at bwysigrwydd Tre'r Ceirij nid oes yr un arwydd i'w weld hyd heddiw i egluro gwerth y pentref i'r genedl nac ychwaith gynnig wedi'i wneud i rwystro'r fandaliaeth o daflu rhai o'r cerrig o'r amddiffynfa dros y dibyn!

Teimlaf felly bwysigrwydd cofnodi'r cytiau a'r gweithdai syml yma'.

Bellach daeth yn bosibl, diolch i ymchwiliadau'r diweddar Emyr Gwynne Jones, Dr Geraint Bowen a Dr Geraint Gruffydd i wneud amgenach cyfiawnder ag ymdrechion yr ychydig Gatholigion a sylweddolai bwysigrwydd mynegi eu hargyhoeddiadau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gwrthodwn yr honiad fod cymunedau pentrefol wedi marw ac nad yw felly o bwysigrwydd cymdeithasol gynnal ysgolion pentrefol.

Cyfeirir yn y tri Adroddiad at bwysigrwydd gwniadwaith yn addysg y ferch a beirniedir ysgolion am ddysgu'r pwnc yn aneffeithiol.

O fewn dwy flynedd ymyrrwyd â llongddrylliad arall o bwysigrwydd hanesyddol cyn y medrwyd gwneud arolwg.

Mentraf gynnwys yr adroddiad llawn gan y teimlaf fod iddo bwysigrwydd i bob un.

Yn y dref fodern y mae'r bobl yn byw erbyn hyn, ond y dref hynafol yw trysor diwylliannol cenedl y Cwrdiaid a safle hynafol o bwysigrwydd rhyngwladol.

Mae'r Gwasanaeth wedi cael llwyddiant sylweddol mewn galluogi llawer mwy o athrawon i gael profiad uniongyrchol o fyd busnes, gan bwysleisio bob amser bwysigrwydd ansawdd pob rhaglen unigol.

Yn anaml iawn y digwydd mwtaniad mewn natur a hefyd yn yr algorithm genetig, ond mae ei bwysigrwydd yn gorwedd yn y siawns o greu cyfuniad o wybodaeth newydd.

Llew hefyd at bwysigrwydd y gwaith a wnaeth Alun R.

Cyfeiriodd sawl un at yr angen i annog pobl i ddefnyddio'r Gymraeg ar bob cyfle, gan gyfeirio at bwysigrwydd marchnata'r iaith er mwyn newid agweddau, magu hyder siaradwyr Cymraeg, neu wella delwedd yr iaith.

Nodwedd benodol yr haen hon yw mai ystyried y ffordd y mae ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iaith mewn cyfathrebu pynciol yn y cyd-destun uniaith a wneir, cyn symud i gymhlethdod y sefyllfa ddwyieithog.

Bwriad yr wythnos yw denu pobl o bob oed ac o bob cefndir i ddefnyddio eu llyfrgell leol ac i dynnu sylw awdurdodau at bwysigrwydd i gymunedau lleol.

Y dull gwyddonol yng nghyd-destun eich prif bwnc chwi eich hun Lle Gwyddoniaeth yn y cwricwlwm a'r berthynas rhwng y gwahanol wyddorau a rhwng gwyddoniaeth a thechnoleg, mathemateg a phynciau eraill Datblygiadau diweddar mewn meysydd megis technoleg gwybodaeth, micro- electroneg, a biotechnoleg Perthynas gwyddoniaeth a thechnoleg a bywyd bob dydd ar bob lefel Defnyddio'r amgylchfyd ar gyfer dysgu Asesu Sgiliau sylfaenol asesu a sut i'w cymhwyso wrth ddysgu Sgiliau cadw golwg ar gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion a'u cofnodi, gan gynnwys swyddogaeth gwaith cartref Sgiliau angenrheidiol ar gyfer cloriannu gwerth gwersi, defnyddiau dysgu a meysydd llafur Iechyd a Diogelwch Yn ogystal â gwybodaeth am ddeddfwriaeth ynglŷn ag iechyd a diogelwch yng nghyd-destun yr ysgol, cynhelir sesiynau ar gyfer pob myfyriwr gwyddoniaeth ar beryglon arbennig labordai bioleg, cemeg, ffiseg ac astudiaethau maes Ymarfer diogel wrth wneud gweithgareddau ymarferol gyda disgyblion Storio a chynnal cemegau a chyfarpar Gofalu am greaduriaid a phlanhigion cyffredin y labordy Egwyddorion sylfaenol ac ymarfer Cymorth Cyntaf Datblygiad Personol a Phroffesiynol Paratoi'r myfyriwr ar gyfer profiad ysgol Datblygu hyder fel athro ac ymwybyddiaeth o gryfderau a gwendidau personol wrth ddysgu Hyrwyddo cyfranogi bywiog gyda chydweithwyr wrth ddatblygu a dysgu cwricwla newydd, cynlluniau gwaith, ymarferion theoretig ac ymarferol Bod yn ymwybodol o'r cynnydd mewn ymchwil addysgol, yn arbennig ym maes dysgu'r gwyddorau Astudiaethau Addysg a Datblygiadau Arloesol Bod yn ymwybodol o bwysigrwydd dysgu 'sgiliau proses' mewn gwyddoniaeth Dod yn gyfarwydd a mentrau megis, Cofnodi Cyrhaeddiad, Disgwylir i bob myfyriwr archwilio posibiliadau Gwybodaeth Technoleg, eu heffaith ar arddulliau addysgu a dysgu, a dod i'w defnyddio'n hyderus.

Yn ystod y flwyddyn, tynnwyd sylw'r Swyddfa Gymreig yn gyson at bwysigrwydd y cynlluniau sydd gan yr awdurdodau i gynnal gwasanaeth athrawon bro a sefydlu canolfannau i hwyr-ddyfodiaid er mwyn goresgyn anawsterau sy'n codi o brinder athrawon a mewnlifiad disgyblion di-Gymraeg i ardaloedd Cymraeg.

Ni chafodd ef weledigaeth y dynion hyn ar bwysigrwydd ysgolheictod, ac ni chawsant hwythau ei weledigaeth ef o'r werin.

Mae'r Athro Mac Cana wedi sên am bwysigrwydd Manawydan, gan awgrymu bod y cymeriad hwn yn mynegi barnau yr awdur ei hun.

Yn y rheini, gan amlaf, pwysleisir gogoniant y diwylliant a fu, a'i bwysigrwydd yn hanes Ewrob; fe roddir i ni ddarlun o gampau'r Groegiaid mewn celfyddyd, llenyddiaeth, gwyddoniaeth ac athroniaeth, gyda'r canlyniad y gwahoddir ni i'w hedmygu yn hytrach na'u deall.

Mae traddodiad gwyddonol cryf i Glwb Swb-Acwa Prydain, ac mae'r nofiwr tanddwr ym Mhrydain yn ymwybodol o bwysigrwydd diogelu adnoddau tanddwr.

Mae pob ffarmwr drwy Gymru bellach yn gwybod am bwysigrwydd y mwynau i gadw ei ddiadell yn iach.

Wedi'r cyfan, dyma ddinas sy'n cael ei chyfrif gan UNESCO fel un o'r deuddeg canolfan bwysicaf o'r fath yn y byd, a thros chwe mil o'i hadeiladau wedi'u clustnodi fel rhai o bwysigrwydd eithriadol.

Ond annheg â'r gwylwyr ar ddyddiau felly yw dewis un pwnc a chwyddo'i bwysigrwydd allan o bob rheswm.

Yn y cyfamser bu'n frenin llwyfan yr Eisteddfod, a chafodd gyfle o flwyddyn i flwyddyn i gadw'n gyson o flaen llygaid y beirdd bwysigrwydd pethau cyntaf eu crefft - urddas arddull, glendid ymadrodd, a phurdeb iaith.

Roedd Mike yn mynd ymlaen ac ymlaen am bwysigrwydd Mickey i'r tîm a bod yn rhaid iddo chwarae, "We need him He's got to play for us.

Tanlinellodd pob un o'r digwyddiadau allweddol hynny bwysigrwydd y berthynas agos rhwng BBC Cymru a BBC Adnoddau, Cymru.

Pam, felly, o ystyried ei bwysigrwydd a'i ddylanwad ar y gymdeithas, yr anwybyddir y traddodiad morwrol i raddau helaeth.

Wel, cefnogaeth eang led-led Cymru ar ddefnyddio'r Gymraeg (71%). Cytundeb eang y dylai Cymraeg a Saesneg gael statws cyfartal yng Nghymru (75%). Cytundeb eang ar bwysigrwydd addysg Gymraeg (80%). Cytunai 83% y dylai pob corff cyhoeddus allu delio â phobl yn y ddwy iaith.

Gellid bod yn ymwybodol o bwysigrwydd Trystan fel arwr heb fod â llawer o wybodaeth fanwl amdano - meddylier cyn lleied o wybodaeth sydd gan Gymry heddiw am hanes Dewis Sant.

Rhoddir dyfnder ychwanegol i'r cyfeiriadau hyn gan gyfeiriadau eraill sydd o gryn bwysigrwydd, sef i'r ardd-winllan sydd wedi'i sefydlu fel delfryd diwydiannol gan awdur Buchedd Garmon.