Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bwyslais

bwyslais

A'ch hen wyneb trôns yn tindroi y tu allan i ddrws fy nhþ i efo'ch cape a'ch magic-wand yn ei lordio hyd y lle, ac yn fy mygwth i!" Rhoddodd bwyslais coeglyd ar y geiriau Saesneg.

Nid oedd newid sylfaenol yng nghyfeiriad meddwl Hugh Hughes yn ei ysgrifau maith yn y Seren Ogleddol, felly, ond yn sicr yr oedd ei bwyslais yn dechrau symud o'r ymosodiad cyffredinol ar berthynas yr Eglwys a'r wladwriaeth, tuag at un agwedd arbennig ohono.

Mewn siroedd megis Dyfed, lle mae cyfran uwch o dir da ceir mwy o bwyslais ar gnydau a gwartheg godro.

"Ddim ffit!" meddai Dad wedyn, gyda mwy o bwyslais fyth.

Rhoddir cryn bwyslais yn athroniaeth cenedlaetholdeb - fel y'i mynegir, er enghraifft, yn nramâu Saunders Lewis, yr oedd Kitchener yn fawr ei edmygedd ohonynt - ar y ffaith fod angen cymdeithas ar yr unigolyn fel cyfrwng i gyflawni ei natur.

Fel yn yr ysgol rad yn ôl Ieuan Glan Geirionydd, y tebyg yw mai 'Cerddi Homer a Virgil geinber' a bynciai Morgan ym mhorth plasty Gwedir dan ofal y caplan, neu o leiaf gerddi Virgil, gan ei bod yn bur sicr mai ar ramadeg a llenyddiaeth Ladin y byddai prif bwyslais yr addysg a geid yno - er ei bod yn debygol fod Saesneg ac egwyddorion y grefydd newydd Anglicanaidd yn cael eu dysgu hefyd.

Cyfnodolion Un o ganlyniadau'r Diwygiad Efengylaidd a'i bwyslais ar y Beibl, yn ogystal â chynnydd yr Ysgol Sul, oedd creu miloedd o ddarllenwyr newydd.

Yn yr anialwch, bydd y llwythau'n dosbarthu eiddo yn ôl angen yr unigolyn, ac mae sosialaeth Gadaffi yn rhoi mwy o bwyslais ar yr unigolyn nag yw'r Marcswyr traddodiadol.

Credai Kate Roberts iddi roi gormod o bwyslais ar y diweddglo yn ei stori%au cynnar ac mae'n cyfaddef iddi roi'r 'gorau i dreio bod yn glyfar' a chwilio am ddiwedd trawiadol yn null O'Henry a'i debyg ar ôl darllen ysgrif Saunders Lewis yn Y Faner.

Yr ail oedd y mudiad rhamantaidd, gyda'i bwyslais ar amrywiaeth a theimlad yn hytrach nag ar unffurfiaeth a rheswm.

Fe geir ei bwyslais yn y pennill hwn:-

Mae'r prif bwyslais ar fywyd y pentref a'r wlad yn hytrach na gwaith y ffariar, er ein bod wedi ei weld ambell dro gyda'i fraich, at ei gesail, ym mhen ôl rhyw fuwch !

Bu cryn bwyslais ar y ffaith nad yw'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn cyfeirio athrawon at ddulliau dysgu ac addysgu.

'O'r gore, rhaid i ni nawr fynd ymlaen â'n gwaith!' Rhoddodd Jini bwyslais ar y gair, ac aeth rhyw echryd drwof wrth weld yr olwg gas, ddialgar yn ei llygaid hi - a hefyd yn llygaid Mini a Martha Arabela.

Tra bod Ffair Gaeaf a Stori%au'r Tir Glas yn gosod eu cymeriadau'n solet iawn o fewn cymdeithas hawdd ei hadnabod a sicr ei seiliau, ac yn rhoi mwy o bwyslais yn y pen draw ar y gymdeithas nag ar yr unigolyn oedd yn rhan ohoni, erbyn cyrraedd Yr Wylan Deg a Stori%au'r Tir Du, mae pethau wedi newid yn arw.

Thema bwysig, felly, yn ei feddwl yw thema buddugoliaeth ac y mae'n cydio wrth bwyslais yn y meddwl Cristionogol sy'n ymestyn yn ôl i'r ail ganrif, i ddiwinyddiaeth Irenaeus.

Y math yna o bwyslais ar yr ysbrydol alegoriol sydd wrth wreiddyn y broblem o'r dehongliadau o Wenlyn a gafwyd hyd yn hyn, megis rhai yr Athro Dewi Z.

Cred Martin-Jones fod dadansoddiadau fel rhai Gal a Gumperz yn welliant ar waith Fishman a'u gyd-weithwyr/-wragedd, yn yr ystyr fod y safbwynt micro-rhyngweithiol yn gosod pwyslais ar broses yn hytrach na strwythur, ac nid yw mor haearnaidd ^a dull Fishman efo'i bwyslais ar normau cymdeithasol.

Nid yw Hudson-Williams yn rhoi cymaint o sylw i'r pethau hyn; yn hytrach, y mae'n ceisio esbonio eu cymeriad fel pobl, gyda llawn cymaint o bwyslais ar eu gwendidau ag ar eu rhinweddau.

Y mae y cyngerdd hwn eisoes wedi dod dan feirniadaeth am nad yw yn ddigon cynrychioliadol o Gymru ac am ei bwyslais ar sêr di Gymraeg o Gymru.

Ond yn y ddrama, newidir llawer o bwyslais yr adroddiadau a'u troi'n fwy o ymosodiadau ar Ymneilltuaeth.