Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bwysleisio

bwysleisio

Fe hoffwn i bwysleisio fod y sefyllfa yno yn ddrwg iawn.

Wrth bwysleisio'r Gymraeg a Chymreictod rhoddir statws iddynt ym mywyd a gwaith beunyddiol yr ysgol a rhoddir bri arnynt yng ngolwg y gymdeithas.

Y nodwedd arall ddylid ei bwysleisio yw'r amrywiaeth mawr sy'n nodweddu pridd a'i ddosbarthiad yng Nghymru.

Ac fe ddaeth yn ffasiynol ymysg nofelwyr hanes yn ddiweddar - fel pe baent yn euog o'u tuedd i roi pen yn nhywod y gorffennol - i bwysleisio mor gyfoes yw arwyddocad eu gwaith.

Aeth y rhaglen gerbron y dawnswyr a phenderfynwyd mynd mewn egwyddor er i Eirlys Britton ein harweinydd bwysleisio fod yn gyntaf angen mwy o fanylion ynglŷn â'r gystadleuaeth a'i chefndir.

Symudir yn yr adran nesaf i drafod yr atalnodau, y priflythrennau, sut i bwysleisio'n gywir ac ymlaen wedyn i ddadansoddi tro%ellau ymadrodd, y byrfoddau, y rhifolion Rhufeinig, geiriau cyffelyb eu sain ond gwahanol eu hystyr.

Gwnaed iawn am hyn yng nghynhyrchiad Merfyn Owen ar y teledu drwy bwysleisio'r grisiau ar amserau tyngedfennol yn y sgript ac asio hynny a phwyslais neu gynnydd mewn cerddoriaeth a ddynwaredai guriad calon (cerddoriaeth William Mathias).

Mae'r Gwasanaeth wedi cael llwyddiant sylweddol mewn galluogi llawer mwy o athrawon i gael profiad uniongyrchol o fyd busnes, gan bwysleisio bob amser bwysigrwydd ansawdd pob rhaglen unigol.

i) i bwysleisio parhad dysgeidiaeth uniongred a gynrychiolid gan yr esgobion;

A chyda threiglad amser daeth yn rhan ddigon anrhydeddus o'r traddodiad Seisnig i bwysleisio rhyddid pobl i fyw eu bywyd preifat heb i'r gyfraith a'r llywodraeth ymyrryd.

Fel y ceisiodd un athrawes bwysleisio wrth ei diadell o blant anystywallt.

Go brin fod yna ddim byd mwy plagus i'r sawl sy'n dioddef o unigrwydd neu'r felan na chlywed eraill yn bloeddio chwerthin, na dim sy'n fwy tebygol o bwysleisio'r anniddigrwydd a'r iselder.

Yr oedd hwnnw'n galw am fynd yn ôl at symlrwydd y Testament Newydd, gan bwysleisio ochr ddeallusol ffydd, gweinyddu'r Cymun bob Sul a chynyddu nifer yr henuriaid yn yr eglwysi.

Bydd fy ngwaith yn helpu Paul yn siwr o'i frifo a gwneud iddo feddwl fy mod yn benderfynol o bwysleisio'r diffyg ffafr y mae ynddo ar y foment.'

A chyn dechre pregethu yn yr eglwys gyntaf dvma fe'n hongian y cadach coch ar fraced y lamp wrth ben y pulpud, a phob tro yr oedd am bwysleisio rhyw wirionedd yn ei bregeth, dywedai, gan bwyntlo at y cadach coch bob tro, 'And that's as true, brothers and slsters, as my lunch is in that handkerchief!' Yr oedd rhai o stori%au difyrraf Waldo yn ymwneud â'i deithiau yn b Iwerddon.

Tarodd gusan ffurfiol ar ei foch, a'i holi ynglŷn â'r rhaglen, cyn mynd ymlaen i bwysleisio'i golled.

Roedd y digwyddiad yn gyfle i bwysleisio gwerth plentyn a bod angen i'w diddordebau gael y flaenoriaeth bennaf yn y gymdeithas.

Roedd Tremenheere, a oedd, o'i gymharu â'r arolygwyr eraill, yn eithaf parod i ystyried yr amgylchiadau, ac nid yn foesolwr oeraidd, yn cymryd gofal mawr i bwysleisio bod y gweithwyr at ei gilydd yn cael eu talu'n dda am eu gwaith, pa mor llafurus ac annymunol bynnag ydoedd.

Efallai y teimlwch mod i'n fwriadol danseilio gwyddoniaeth wrth bwysleisio ansicrwydd y cyfryngau a'r mesuriadau a ddefnyddia'r gwyddonydd.

Nid oedd yr Athro Gruffydd a'r Athro Lewis Jones, wrth gwrs, yn gwneud dim mwy wrth bwysleisio'r dylanwad hwn na dilyn yr Athro E B Cowell a'r Dr L Chr Stern.

Yn yr ymchwil daer am eglurhad a fyddai'n gosod y troseddwyr ar wahân i weddill y boblogaeth, caiff eu hoedran ifanc ei bwysleisio'n aml iawn.