Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

byddaf

byddaf

Efallai nad ydym yn sylweddoli mai llên gwerin yw yr hyn y byddaf yn ei drafod, ond cawn weld fod yr un hanfodau yn perthyn i'r credoau a'r straeon cyfoes hyn, ac a berthyn i lên gwerin traddodiadol.

Mi gofiaf fi'r dyn hwnnw tra byddaf byw.

Mae criafolen yn ein gardd ni a byddaf yn mynd ati ambell dro a rhoi fy nhalcen ar y rhisgl.

Byddaf yn meddwl weithiau tybed a fyddai Dic wedi dangos rhyw hoffter tuag ataf i petai Mam heb ddangos mor eglur ac mor aml iddo nad oeddwn i'n deilwng o serch neb.

Bydd traean o'th bobl yn marw o haint ac yn darfod o newyn o'th fewn; bydd traean yn syrthio trwy'r cleddyf o'th amgylch; a byddaf yn gwasgaru traean i'r pedwar gwynt ac yn eu dilyn â'r cleddyf.

Byddaf innau'n gofyn i mi fy hun yn aml: Sut y gall y Cymry fod mor ddi-hîd?

Hyd heddiw byddaf yn synnu gweld cymaint o oleuni yma yn y nos.

Rhyw ddydd, byddaf yn y llys eto.

Parsel hyfryd a thaclus yw'r cyfnod prydferth o'r flwyddyn rhwng mawrth a Mehefin, pryd y byddaf yn datod y llinynnau ac yn cael pleser o bysgota brithyll mewn llyn, afon a chronfa...

Felly, cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, am i ti halogi fy nghysegr gyda'th holl bethau atgas a ffiaidd, byddaf finnau yn eillio, ac ni fyddaf yn tosturio; ni fyddaf fi yn trugarhau.

Byddaf yn rhyfeddu þ a diau fod pawb arall a'i gwêl yn rhyfeddu yn yr un modd þ fel y tyf tyfiant iraidd y gwanwyn allan o'r marwor du.

hwn yw haint, Oni chaf, o byddaf byw, Forfudd, llyna oferfyw.

Byddaf yn llogi hofrennydd i ollwng tocyn record i lawr y simdde yr wythnos nesaf.

Wrth edrych yn ôl byddaf yn aml yn rhyfeddu at fy hyfdra a'm digywilydd-dra'n mentro mynd allan i annerch ar wleidyddiaeth.

Byddaf cyn hir yn ysgnfennu rhywbeth ar Islwyn ac wrth gwrs cydnabyddaf fy nyled i chwi am y wybodaeth.

Yn hytrach, yn ogystal â mân swyddi y tu allan i'r tþ, byddaf hefyd yn rhoi help llaw i gadw'r lle yn dwt o'r tu mewn, megis dilyn hwfar fel dilyn ci gwyllt, polishio'r darnau pres a rhoi sglein sbesial ar fwrdd a chadair a chwpwrdd.

Byddaf yn gweld Wil Jones y Ship.

Byddaf nawr yn disgwyl ac yn hiraethu am ateb oddi wrthyt.

A wyddoch chi, byddaf yn meddwl ei bod yn anodd iawn i unrhyw wraig ddygymod â gweld ei gþr allan o waith.

Byddaf yn meddwl mai rhywbeth i blant ac i bobol y llethrau llithrig ydi eira þ heb anghofio hefyd y bobol sy'n gwneud cardiau Nadolig ac almanaciau.

Bob hyn a hjyn, byddaf yn troi at ei ysgrif ar 'Robert Williams Parry' yn cyfrol Gwyr Llen, a olygwyd gan Aneirin Talfan Davies - ysgrif sy'n cydio bob gafael.

Efallai y byddaf wedi priodi cyn hir Mae William Powel o Wrecsam yn galw ym Mryste'n aml ar fusnes ac yn hoffi fy nghwmni.

Byddaf yn clywed hefyd gri'r gylfinir yn y rhan agoriadol o'i wythfed symffoni.

Ysywaeth yn ystod y tymor hwn o'r flwyddyn, byddaf wrth fy modd yn croesi Clawdd Offa i chwilio am rai ohonynt.

Yn yr erthygl hon byddaf yn egluro rhai agweddau ar silia ac amrywiaethau ar y thema gyda golwg arbennig ar y grwp pwysig hwnnw o anifeiliaid y mor, Y Deufalfiaid.

Mi âf oddi yma i'r Hafod Lom Er bod hi'n drom y siwrnai, Mi gaf yno ganu cainc Ag eistedd ar fainc y simne, Ag odid fawr mai dyma'r fan Y byddaf tan y bore...

Byddaf yn tristau wrth feddwl cymaint o estroniaid sy'n berchnogion cartrefi'r hen gymeriadau a arferai fynychu'r addoldy yng Nghefn Brith gyda'r fath ffyddlondeb.

A gobeithio y byddaf innau wedi medru cael gwared ag o leiaf olwyn yrru un o'r bwsiau deulawr 'na erbyn hynny!

Byddaf yn dioddef o symptomau fel coesau'n crynu a'r bol yn aflonydd oherwydd fod arna'i ofn.

Er mor agos at fy nghalon yw'r wlad - ac ni fynnwn er dim fyw yn unman arall - byddaf ar brydiau'n teimlo fy maich yn ysgafnhau wrth deithio tua'r dwyrain a chael rhodio daear gysurus Henffordd neu Amwythig.

Os bydd dyn cyfiawn yn troi oddi wrth gyfiawnder ac yn gwneud drwg, a minnau wedi rhoi rhwystr o'i flaen, bydd hwnnw farw; am na rybuddiaist ef, bydd farw am ei bechod, ac ni chofir y pethau cyfiawn a wnaeth; ond byddaf yn ceisio iawn gennyt ti am ei waed.

Yn aml pan fyddaf wrthi o fewn y tþ fel hyn, byddaf yn sylweddoli nad oes diwedd ar waith tþ, nac oes yn y wir.

Dim ond yn achlysurol iawn y byddaf i'n gwylio'r Stryd ac anaml y byddaf yn gwylio unrhyw sebon arall.

Rydw i wedi gweld rhai tebyg ichi o'r blaen, yn llawn delfrydau a syniadau rhamantus, ond wyddoch chi beth, erbyn iddyn nhw gyrraedd y canol oed parchus, y nhw ydi'r bobl fwyaf crintachlyd y gwn i amdanyn nhw, ac mi werthen nhw eu ffermydd i ladron tase'r pris yn iawn." "Ac felly, rhag ofn mai yr un fath y byddaf innau, dyma fi'n gwneud penderfyniad ynglŷn â Maes y Carneddau tra ydw i'n dal yn ifanc.

Dowch i'm hystafell i tra byddaf i'n dweud wrth eich tad eich bod chi yma.

Gwn y byddaf yn aros gydag un gyfrol am wythnosau i ddod.

Gelwir y datblygiad yma yn algorithm genetig, a byddaf yn disgrifio'r syniadau sydd y tu cefn iddo ac yn rhoi enghraifft o'i ddefnydd mewn cyfrifiaduron.

Rywbryd yn ystod y Saboth digwyddodd daro ar y ffordd fawr â Mr Jones y Person, a ddywedodd wrtho: `Cofia di, Harri, ddod hefo ni fory i godi llwynog, a gobeithio'r nefoedd y cawn ni ddiwrnod braf.' `Trystiwch chi fi y byddaf yno,' ebe Harri.

Erbyn heddiw, byddaf yn meddwl hwyrach ei fod yn gwybod fy mod yn hanu o Fynytho a bod gennyf ddiddordeb mewn barddoni, fel llawer o'r ardal honno.

Byddaf yn teimlo weithiau fy mod i'n ddigon tebyg i falwen, yn tynnu fy nghyrn ataf ac yn mynd i mewn i'm cragen pan fydd rhywun yn dod yn rhy agos ataf.

Byddaf yn gweld rhai o'r cyn-fyfyrwyr pan ddônt ar eu gwyliau, a gwelaf eraill wrth eu gwaith, rhai fel Arfon Huws, sydd yn ymddiddori mewn barddoniaeth erbyn hyn, y ddau Ieuan o Fynytho, Gwynfor Mynytho a Gwynfor Abersoch, Brian Llangian, ac amryw eraill.

Pan fydd tramorwyr yn gofyn i mi ym mhle mae Cymru byddaf yn dweud bob amser ei bod rhwng Lloegr ac Iwerddon.

A byddaf yn diolch yn aml bod ein gwybodaeth o'r pethau pwysig yn anghyflawn ar hyn o bryd!CYFRIFOLDEB THEATR PLANT

Ni wn i, ond byddaf yn pensynnu rhywfaint ac yn cael amheuon ar y mater wrth weld yr olwg arallfydol yn llygaid ambell estate agent, ac wrth ryfeddu uwchben ar ucheledd dychymyg ei ddisgrifiadau o'r ffermydd sydd ganddo ar werth.

JFelly o ganol Hydref ymlaen byddaf yn rhoi'r gêr plu o'r neilltu ac yn gafael yn y wialen "drotio%, y rîl rydd (centre pin) bocs o fflôts pwrpasol, bocs o bwysau (heb blwm ynddynt cofiwch)...

Fel arfer, sôn y byddaf am y Gyfraith fel y mae, ac nid am y Gyfraith fel y dylai (yn fy marn i) fod.

Pan ddywedaf wrth y drygionus, , a thithau heb ei rybuddio a heb lefaru wrtho i'w droi o'i ffordd ddrygionus er mwyn iddo fyw, bydd y dyn drwg hwnnw farw am ei bechod, a byddaf yn ceisio iawn gennyt ti am ei waed.

Weithiau wrth glywed neu wrth ddarllen yr enw John, byddaf yn cael ymwybyddiaeth sydyn o ddau ddyn arbennig a enwyd felly, sef John Lewis a John Evans.

Ac os byddaf yn hoffi ei wyneb, caiff aros yn yr ystafell wely: os na, rhaid fydd iddo chwilio am rywle arall i roi ei ben i lawr."

Byddaf yn bendithio Ellis Wynne am y sywaeth yna, er ei fod yn lawn mor anghyson â John Thomas.

Llythyr gan rhywun o'r enw Verghese yn fy ngwadd i a phedwar reslwr arall i fynd yno oedd y tro cyntaf i mi glywed am y lle Byddaf yn cael llythyrau o'r fath o bedwar ban y byd yn rheolaidd gan bob math o bobol.

Bu'r traddodiad llenyddol Cymraeg yn hoff iawn o haniaethau llachar, weithiau'n wirebol, dro arall yn ddim ond addurnol, a byddaf yn meddwl am lu problemau Cymru yn y termau hynny.

Byddaf yn troi'n ôl atyn nhw eto, nid heb beth betrusder ynglŷn â'r hyn y byddaf yn debyg o'i ganfod.

Dyma rai o'r delweddau o ffilmiau'r þyl y byddaf yn eu cario yn fy meddwl o hyn ymlaen.

Byddaf yn amau weithiau mai gwŷr a lesteirwyd gan eu rhieni rhag mynd yn feirdd yw'r estate agents un ac oll.