Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bydde

bydde

Rown i'n meddwl y bydde hi'n newid trefn nifer o bethe - o leia yn cael gwared ar gader Madog - ond na, roedd hi am adel popeth fel yr oedden nhw, am y tro.

Ei drefniadau teithio oedd yn gyfrifol am hynny ond dwi yn ame y bydde fe wedi gwneud yr un peth petae e ddim yn dychwelyd i Gymru.

Be bydaet ti yn aros am flwyddyn eto i edrych sut y bydde pethe?' ' Siaradai'n dyner a pherswadiol; ond aeth ei eiriau fel brath i'm calon.

Balchder oedd un o'r rhesyme am yr agwedd, oherwydd bydde ennill y cwpan yn uchafbwynt teilwng i flwyddyn y canmlwyddiant.

A phobl yn 'i hysio mas o'r siope pan oedd e'n grwt os bydde fe a'i ffrindie'n crwydro o amgylch i weld beth oedd 'na.

'Bydde Mai 5 yn anodd achos bod gêm derfynol Cwpan yr FA yr wythnos wedyn.

Rwyn credu y bydde'n wych i'w chynnal eto, meddai ymosodwr Cymru, John Hartson.

Mae'r gynulleidfa'n ddigon tene ar y gore, a doedd neb yn teimlo fel edrych ar Madog a chil i lyged bob tro y bydde'r ficer yn pregethu; ond roedd tŵr yr adeilad mewn cyflwr truenus, y glaw'n dod miwn drw'r to mewn manne, a wal y fynwent yn dylle i gyd - a deg mil yw deg mil.

Ond fe ddywedodd nad oedd am iddi hi briodi eto - y bydde fe'n 'i rhwystro hi rhag gneud hynny.

Mae llawer o infrastructure y wlad - fel y system drafnidiaeth - wedi cwmpo yn ystod y ddwy neu dair blynedd ddwetha a dwin siwr y bydde dod ar gystadleuaeth i'r wlad yn sicrhau bod ni'n cal bysus newydd, y ffyrdd yn cal eu atgyweirio ar rheilffyrdd yn cal eu gwella.

Mynnodd Mike England y bydde Thomas yn cyrraedd a'i fod wedi bod ar y ffôn yn addo teithio i lawr yn y car gydag un o fois y Gymdeithas Bêl- droed.

Falle bydde well 'da ni gael un o'r time mawr, ond mae hwn yn rhoi gwell cyfle i ni fynd trwodd i'r bedwaredd rownd.

Dymuniad y pâr oedd i rywun gymryd gofal o'r ty tan y bydden nhw'n ymddeol, ac awgrymodd Myrddin y bydde Aurona a finne'n barod i 'neud--neidio am y cyfle fydde'n agosach at y gwir.

Dyw e ddim yn rhad ond maen ffordd o ddiogelu y bydd Cwpan Lloegr yn dod i Gaerdydd a bydde colli'r gystadleuaeth honno yn ddrutach o lawer.

Mae'n rhyfedd fel mae rhywun yn synhwyro rhai pethe--fe wnes i dderbyn sawl ergyd yn ystod 'y ngyrfa, ond braidd byth yn teimlo y bydde'n rhaid gadael y maes.

Petae dolur gwddf gan un person, maen siwr gen i y bydde pawb yn cael dolur gwddf.

Byw allan o fag fydde'r chwaraewyr ac, fel sipsiwn, 'newid aelwyd bob yn eilddydd'; a hynny heb sôn am y rhes o dderbyniade a chyfarfodydd swyddogol y bydde'n rhaid mynd iddyn nhw ac, wrth gwrs, y gême y bydde'n rhaid eu chware.

Mae nhw'n dweud wrthym ni nad yw'r adeiladau'n addas, neu y bydde ni'n gwneud i bobol eraill deimlo'n anghyfforddus."

Gan fod hynny'n opsiwn dwedodd hefyd y bydde'n ffôl i beidio'i ystyried a mae'n dishgwl i'w reolwr gael gair gyda Graham Henry yma yn Brisbane dros y dyddiau nesa.

Bydde neb yn enwi neb onibai bod rhywbeth gyda nhw ar fideo - y peth yw falle gwelan nhw rywbeth arall, hefyd.

Dyna'r ymresymiad oedd tu ôl i'w benderfyniad ac, fel gwr dibriod, mae'n bosib nad oedd yn sylweddoli'r pwyse ychwanegol y bydde taith fel hon yn ei roi ar y gwragedd.

'Pan ddaeth y newydd gynta am gynnal y rownd derfynol yng Nghaerdydd roedd pobol yn fy ffonio, ddim yn gwbod sut bydde'r chwaraewyr yn ymateb i chwarae yno.

"Mae nhw'n dweud wrthym ni nad yw'r adeiladau'n addas, neu na fyddai'n "dishgwl yn iawn" i ni fod yn rhywle, ac y bydde ni'n gwneud i bobol eraill deimlo'n anghyfforddus."

Achosion a gofnodir yn drylwyr ac yn drefnus, fel y bydde disgwyl i unrhyw gyn-dditectif ei wneud.

'Leicien i weld e'n cael tamed bach mwy o le ond bydde'n neis cael rhywn fel John Leslie yn y canol gyda ni.

A chan nad oedd cylch hud o'th amgylch bydde dy elynion wedi dwyn yr Afal Aur hefyd oni bai imi ddod heibio mewn pryd.'

Hwyrach, cyn bo hir, y bydde 'na ddigon i neud neclis iddi'i hun.

'Dwy'i ddim yn meddwl y bydde Neville Chamberlain yn dweud peth felna os nag oedd e'n 'i feddwl e." "Ba!" meddai ei wraig, "hen ffŵl gwirion yw e!" "Beti!" "Wel, pam mae e'n credu'r Adolf Hitler 'na te?

Fe eglurwyd y sefyllfa iddo fe, ac fe ddwedwyd wrtho fe nad cael y 'sac' yr oedd e - dim ond 'suspension' nes bydde ni'n siwr nad oedd dim rhyfel i fod." "Yr oedd hi'n sefyllfa ryfedd, Cyrnol, rwyn gallu gweld hynny.

Roeddet ti'n gwybod yn iawn y bydde'r bêl wedi aros petaet ti i fod i fwyta'r blodyn siocled.

Cofiwch, 'doedd dim rhaid iddo fe wneud dim, ac roedd pob un yn meddwl y bydde Luned yn rhoi notis iddo fe'n syth ar ol angladd a mynd i whilo am waith yn y dre - fel y merched ifanc erill.

Ar y llaw arall pe bai e'n mynd i Gaerlyr, bydde fe yno gyda Robbie Savage.

'O'n i'n gwbod bydde hi'n agos iawn yn enwedig ar ôl iddyn nhw sgori cais wedi'r egwyl - ond cic yn y penôl geson ni,' meddai.

Weles i mo'n chwaraewyr ni erioed mor sharp ar ddiwedd tymor.' --Nid datganiad y bydde'r blaenwyr yn ceisio neu'n ymdrechu gwneud, ond datganiad y bydden nhw yn dal eu sgrym.

Ond roedd pawb yn hael'u canmoliaeth i'r cerflunwyr o Lunden - neb yn meddwl y gellid bod wedi llunio rhywbeth mor fyw o garreg; ac fe ddywedodd y ficer, gan gyfeirio at y llyged treiddgar, y bydde fe'n siŵr y bydde o leia un par o lyged ar agor o'r dechre i'r diwedd yn ystod 'i bregethe fe o hyn allan.