Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bydded

bydded

Ac meddai yn y Gynhadledd fis Mehefin dan gysgod Dinas Brân (a lle well nag yn nghartref Eisteddfod y Byd): 'Bydded i nynni yma, o Gymry, fod yn gosmopolitaneiddrwyddiediciach nag o'r blaen, a bydded i ni dderbyn 'a few ..' a 'few..' .

Bydded iddynt ddysgu'r wers nad oes pwrpas cael actio da, na chynhyrchu penigamp, os nad yw'r hyn sy'n sail i berformiad - sgript - yn un o safon.

Yr oedd amryw o adeiladau'r gofaint yn rhy gyfyng i gael ceffylau dan do i'w pedoli, a gallai'r gof felly fod i mewn ac allan yn barhaus, bydded y tywydd y peth y bo.

(Profiad newydd tu hwnt a charlamus-gyffrous i ni oll, bid siŵr, fyddai hynny: O bydded i ni abersochio'r bur hoff bau oll - (a beth wedyn wneid i abersochio Abersoch ymhellach?

A Duw a ddywedodd, 'Bydded goleuni'.

Byddai'r saer coed a'r gof yn rhannol gyfrifol am wneud olwyn, bydded olwyn gert neu olwyn i ferfa.

"Wrth brynu baco rhydd mae pobl yn cael mwy o ddewis, yn cael y cyfle i drio pethau gwahanol, ac yn bwysicach fyth maent yn arbed arian." Mae'r math yma o faco yn rhatach bydded rhywun yn ei ddefnyddio mewn cetyn neu ar gyfer ei rowlio.

Canys ni fwriadwyd iddynt gael treialon fel hyn ac felly bydded i'r byd fod yn drugarog wrthynt ac yn deimladwy tuag atynt.

Ond pan lefaraf fi wrthyt, fe agoraf dy enau, ac fe ddywedi wrthynt, Bydded i'r sawl sy'n gwrando arnat wrando, ac i'r sawl sy'n gwrthod wrthod; oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.

Cwynai'r Iddewon fod nifer o Balestiniaid, wedi i'r Scuds ddechrau cyrraedd, yn hepgor y 'bore da' arferol ac yn cyfarch ei gilydd trwy ddweud 'Bydded i Dduw roi buddugoliaeth i Saddam'.

Wedi tymor dyfal o weini ar blant gofidiau, bydded bendith ar aelwyd y meddyg mwyn yng nghyfnod yr hamdden a haedda.

(A bydded hysbys mai cyffredinoli ar bwys fy mhrofiad bach fy hun yr ydwyf i dim ond siarad dros y pechadur hwn yn unig yr ydwyf, dalier sylw.