Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

byddent

byddent

Mewn rhai ardaloedd byddent yn cydweithio'n glos â'r streicwyr trafnidiol, er enghraifft, gan wrthod trin nwyddau wedi'u pardduo.

Dangosodd James Evans nad oedd y meirwon wedi marw ac y byddent yn codi o'u beddau, yn union fel y golygfeydd hynny o filwyr yn atgyfodi yn ffilm Abel Gance, J'accuse, ym 1919.

Mi fuo'r arglwydd Gruffudd yn rhy hir yng ngharchar Degannwy..." "Mab naturiol ein Tywysog..." "O waed pur Cymreig..." "Yn byw fel gwr bonheddig ers chwe blynedd bron yng ngharchar Degannwy a Sinai'n gywely iddo!" Chwerthin amrwd wedyn nes i rywun eu hatgoffa y byddent at drugaredd yr Ymennydd Mawr a'r Gwylliaid pe rhyddheid yr arglwydd Gruffudd.

Dyma'r platelayers yn gosod ffordd haearn ar hyd y bonc, neu fel y byddent yn dweud gosod ffordd union, ac yn torri branches allan ohoni a phob cangen yn cario i'r graig.

Byddent yn cael eu cynllunio nid i ddangos lefel o allu (er y gallent wneud hynny'n ddamweiniol) ond i ddisgrifio cyfres o dasgau a gyflawnwyd yn foddhaol.

Pe gwyddai'r plismyn ble'r oedd o, byddent wedi dychryn am eu hoedl.

'Byddai mam, wedyn, wyddost, yn hel y buchod i'r llyn, ac yno byddent yn cicio'r mwd o'r gwaelod.

Sut y byddent yn rhwystro llifogydd?

Chwarae teg i'w rhieni, byddent yn gwneud eu gorau i werthfawrogi.

Yr oedd yn rhaid i'r gweithiwr ffwrnais roddi'r platiau'n drefnus yn y ffwrnais, rhai yng nghefn y ffwrnais, eraill yn yr ochrau a rhai yn y blaen, a'u symud o'r naill le i'r llall fel y byddent oll o'r un tymheredd.

Byddent hwythau'n pwysleisio nodweddion da llys, plas neu fynachlog.

Byddent yn werth mynd drwyddynt yn hamddenol a gofalus pan na fyddai'r un darlun arall ar ei meddwl i darfu ar bopeth.

Rhaid oedd mesur yn ofalus faint oedd hyd pob darn, a bod yn sicr y byddent yn ffitio i'w gilydd yn y diwedd.

Ond go brin y byddent wedi bod mor dawel eu meddyliau pe gwyddent bod gwyliwr distaw yng nghysgod y ddraenen ddu, heb fod ymhell o'r llidiart ach, wedi eu gweld ac wedi clywed llawer o'r hyn a ddywedent.

Fel y poethai'r cnau byddent yn neidio oddi ar y rhaw.

Yno byddent mewn perygl o gael eu lladd, ond dyna'r unig le lle'r oedd rhyw obaith am fwyd, os caent drugaredd.

Fe gynhelid y rhain ar raddfa un-i-un rhwng y Rheolwr a'r Cynghorydd, a byddent yn gwbl gyfrinachol ac anffurfiol.

Credaf fod ei llygaid rhwng gwyrdd a brown, byddent yn tremio arnom yn ddwys.

Williams yn y cyfarfod i ddweud na ddylid rhoi'r wybodaeth o ganlyniad y cyfarfod hwnnw ond trwy law Mr S Maes o law cafodd Waldo nodyn i ddweud y câi ef aros tan y tribiwnlys, ac y byddent yn ailystyried ei sefyllfa wedyn.

Byddent fel rheol yn rhoi tipyn o godiad yn y ffordd o'r main line i'r chwarel.

Petai olwyr y tîm agos gystal byddent yn dîm i godi ofn ar y gorau.

Doedd dim ond eisiau i'r holl fyfyrwyr a oedd yn bresennol wrnado ar ambell i drac er mwyn sylweddoli teimladau cyn gryfed sydd gan y grwp am ddiwylliant Cymru ac rwy'n sicr y byddent mwynhau pob eiliad o'r set.

Os mai drws cae%edig fyddai'n aros y plant byddent yn adrodd y cwpled canlynol cyn gadael y drws.

Dyna sut y byddent yn diolch am y croeso a gaent yno.

Gwelodd Hyde yntau y gors y syrthiodd y gwleidyddwyr iddi, a byddent ynddi am chwarter canrif arall.

A dyna Emyr yn dod i mewn i'r gegin i chwilio am yr esgidiau sboncen roedd hi wedi eu glanhau ar ei gyfer a'i chlywed hi'n dweud wrth ei mam y byddent yno erbyn amser te.

Byddent yn cysgu tan fod y siopau yn agor am ddeg, ac wedyn bant a nhw am hwyl a sbri.

Sylweddolodd y dyn ifanc ei fod yntau, fel ei dad, yn dechrau siarad hefo'r anifeiliaid fel pe byddent yn bobl, ac fel pe bai'n disgwyl iddyn nhw ei ateb.

Byddent yn aml yn enwi'r eglwysi a godent ar ôl y saint y buont yn ddisgyblion iddynt Ar ôl y seintiau hyn y daeth yr enwocaf o'r seintiau Cymraeg, Dewi Cymaint oedd ei glod ef fel, erbyn dechrau'r ddeuddegfed ganrif, y daethai Tŷ Ddewi yn eglwys y cyrchai iddi bererinion o bob rhan o'r wlad, ac yr oedd dwy bererindod i Dŷ Ddewi yn cael eu cyfrif o'r un gwerth ag un i Rufain.

Fel y byddent yn chwerthin!

Yn sicr, byddent yn rhyfeddu cyn lleied o barch a roddir yn awr i'r seithfed dydd.

Nid oedd y Dirprwywyr yn cyfyngu eu hymweliadau i leoedd diwydiannol; byddent yn ymweld â phob sir, gan adrodd gyda'r un trylwyredd ar ysgolion mewn ardaloedd gwledig a'r cymunedau yr oeddynt yn eu gwasanaethu.

'Roedd nifer o bobl gyffredin yma, ac yn amlwg 'roedd yn lle y byddent arfer dod am fwyd.

Ni allai Harri ychwaith beidio â meddwl am ei gyfoedion a'i gyfeillion, fel y byddent yn cymryd arnynt gydymdeimlo ag ef yn ei golled, ac ar yr un pryd yn llechwraidd chwerthin yn eu llewys ei fod wedi bod mor anffortunus yn ei ymdrech gyntaf i droi ei gefn arnynt hwy!

Na, nid at lawer o bobl ddieithr eu hiaith ac anodd eu lleferydd, a thithau heb ddeall eu geiriau; yn wir, pe bawn wedi dy anfon atynt hwy, byddent yn gwrando arnat.

Cadwai'r cŵn mor agos ato ag y gallent gan wthio'u pennau yn ei erbyn fel pe byddent yn ei helpu i fynd yn ei flaen.

Dywedodd 19% y byddent yn fwy tebygol o ddefnyddio siop neu fusnes yng Nghymru petai'r rheiny'n gwneud ymdrech i ddefnyddio Cymraeg a Saesneg.

Yn ôl Iolo Morganwg, cafodd ei rybuddio ganddynt y byddent yn ymweld â'i gartref yn Nhrefflemin a mynd trwy ei bapurau.

Yr oedd yr unig ffordd i sicrhau y byddent yn cael gorffen brawddeg.

Byddent yn ysgrifennu ac yn gwerthu swynion i wella'r cynhaeaf, ac yn potelu cymysgeddau dirgel a fyddai'n addo ieuenctid tragwyddol i'r sawl a'u hyfai.

Gwyddai'r Dirprwywyr yn burion beth oedd pwysigrwydd canolog iaith ble bynnag y byddent, yn Lloegr a Chymru fel ei gilydd.

Adeiladodd y carcharorion rhyfel lwybr o'r tŷ i'r chwarel y 'German road' a byddent yn gweithio yn chwarel Graiglwyd gan falu cerrig ar y mynydd, a gwylwyr yn eu martsio'n ôl a blaen.

Byddent yn sicr o gael eu lladd pe ceisient ddianc.

Gwelodd Caradog y byddent yn ei ddal ymhell cyn iddo gyrraedd ei gyfeillion.

Tua chwe mil o flynyddoedd yn ol, darganfu rhai offeiriadon sut i gynhyrchu aur trwy doddi mwyn aur.Arferent hefyd wneud moddion o berlysiau a gwreiddiau planhigion y byddent yn eu casglu yn y coedwigoedd.

Anfonwyd datganiad tebyg at Mr S gan Fedyddwyr y cylch; ac anfonodd Home Guard Llandysilio i ddweud y byddent hwythau'n ymddiswyddo oni chedwid Waldo yn ei swydd.

Ymhellach, cefnai'r disgyblion ar ddysgu iaith gyda theimladau negyddol, sef nad oeddent hwy'n ddigon da i fynd ymlaen â'r gwaith ac y byddent, o barhau, yn methu ag ennill cymhwyster a fyddai'n cael ei gydnabod yn gyhoeddus.

Byddent hefyd yn gymorth i ymgyrraedd at amcanion parc cenedlaethol trwy ddefnyddio adeiladau lleol traddodiadol a allai ddirywio yn eu cyflwr, ac hefyd ddarparu arall gyfeirio fferm sydd yn amgylcheddol dderbyniol.

Mai 1997 Llywodraeth newydd: dywedodd y Blaid Lafur y byddent yn chwalu'r Quangos yng Nghymru, ond mae nhw eto i wneud hynny.

Ni byddent hwy yn cau ac yn agor yn gysglyd fel petasent am awgrymu bod gweithgarwch anweddus y tafod islaw sylw.

Byddent hefyd yn hela'r arth a'r blaidd, y baedd gwyllt a'r carw coch yn y coedwigoedd ar yr iseldiroedd.

fel rheol, pan ddeuent y ffordd hon, byddent, ymhen hir a hwyr, yn blino ar lif cyson y dŵr ^ r ac yn chwilio am rywbeth arall i 'w diddanu.

Byddent yn hytrach yn brofion y gellid eu sefyll unrhyw bryd pan fyddai'r ymgeisydd ei hun yn barod i wynebu'r sialens.

Mae asid sylffwrig, asid hydroclorig ac asid nitrig oll yn niweidiol iawn, a phetaent yn cyffwrdd a'r croen, byddent yn ei ddinistrio.