Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

byddwn

byddwn

Byddwn yn cyfarfod ar ail nos Lun pob mis, gan ddechrau ym mis Medi.

Yma byddwn yn gofyn os ydi'r elfennau yma yn rhy hen ffasiwn.

Y pryd hwnnw byddwn yn dechrau eto ar y gwaith o greu geiriau ac ystyr allan o'r llythrennau gwasgarog.

Byddwn yn falch o helpu gyda'r rhan fwyaf o ymholiadau, ond cofiwch nad oes modd i ni fod yn wasanaeth cyfieithu na'n ganolfan gwybodaeth am yr iaith ar gyfer myfyrwyr yn gwneud ymchwil, oni bai bod eu hymchwil yn canolbwyntio ar Gymdeithas yr Iaith neu ymgyrchu iaith, wrth gwrs.

Byddwn yn dod yn gyfarwydd â'r tric hwnnw.

Byddwn hefyd yn cyhoeddi'r goreuon o'r safleoedd a dderbyniwn.

Byddwn yn hoffi mynd i edrych amdani.

Rydym yn cyd-gysylltu'r ymgyrch yng Nghymru, a byddwn yn darparu enghreifftiau o'r modd y bydd yr argymhellion yn effeithio ar gadwraeth, a manylion ar sut y medrwch chi gynorthwyo yn yr ymgyrch.

Byddwn yn gwrando ac yn ymateb ich safbwyntiau ach pryderon.

Ym mis Medi 2000 byddwn yn croesawu'r prif arweinydd newydd, Richard Hickox.

Byddwn yn dychwelyd ati yn nes ymlaen.

Dyma'r cwestiynau y byddwn yn eu gofyn wrth astudio'r cyfrifon.

Byddwn yn cadw mewn cysylltiad cyson â nhw ac yn monitro'r sefyllfa yng ngwahanol ardaloedd Cymru.

Trueni na byddwn wedi dysgu mwy yn yr hen ysgol, wir.

Sefydlwyd Cymdeithas Cymry Birkenhead ym 1961 a byddwn yn cyfarfod bob yn ail Nos Lun drwy'r gaeaf yn Festri Capel Salem, Laird Street, Penbedw.

Fel y gweddill o'm cyfoedion byddwn yn mynd i'r Seiat ar nos Fawrth, a chofiaf yn dda am y Parch JH Pugh y Gweinidog yn fy nghynghori a'm siarsio i fod yn hogyn da.

'Rwy'n siŵr fod nifer o ddarllenwyr wedi clywed stori gyffelyb i hon, neu wedi ei darllen fel stori newyddion - byddwn yn falch iawn o'u clywed - danfonwch hwy ymlaen i Llafar Gwlad.

'Ac ella y byddwn ni'n agor y blanhigfa i'r cyhoedd, ychwanegodd Lleucu.

Ond fe fyddwn yn siŵr o'i ddal, o byddwn!" Clywodd Douglas Bader sŵn bidogau yn taro'r llawr cerrig wrth iddyn nhw edrych ym mhob man yn y cwt amdano.

Byddwn yn galw am Ddeddf Iaith newydd ac yn gofyn am Grwp Tasg i arolygu a chydlynnu y cyfieithu yn y Cynulliad.

Byddwn yn cyhoeddi enw'r ysgolion buddugol ar Fai 7.

Yn ei anerchiad ar ddydd Gwyl Ddewi, saith mil o filltiroedd o Gymru, dyma oedd neges Ben Gregory, Ysgrifennydd NSC Cymru: 'Byddwn yn gwylio canlyniadau etholiadau Nicaragua yr hydref hwn gyda diddoedeb mawr.

Yn y rhaglen hon byddwn yn trafod os oes angen diwygio'r Orsedd.

`Mae'n golygu y byddwn ni'n gorfod mynd,' atebodd Mr Henrickse.

Bydd cyfle wedyn i bawb ddod at ei gilydd yn y Prince of Wales a gellir archebu bwyd - byddwn yn cael yr ystafell am bris gostyngol os oes rhai'n cael bwyd yno!!

Yn y flwyddyn sy'n dod byddwn yn ceisio adeiladu gwrthwynebiad unedig i gynlluniau'r llywodraeth ym maes darlledu digidol trwy ymgyrchu a chynghreirio gyda mudiadau eraill ym maes darlledu yng Nghymru.

'Byddwn yn galw am Gynulliad trwyadl ddwyieithog o'r cychwyn cyntaf,' meddai Branwen Niclas, 'ac am statws lorweddol i'r iaith Gymraeg.

Rwyn gweld y probleme ond rwyn credu y byddwn ni'n gallu gwella nhw.

Dim ond ag ychydig iawn o'r plant y byddwn yn siarad Cymraeg yn naturiol.

Ymhen rhai blynyddoedd priododd â gwr yn dwyn y cyfenw Shepherd ac fel - Pamela Shepherd y byddwn ni'n ei hadnabod o hyn ymlaen.

Byddwn yn parcio fy nghar lle'r oedd pawb arall yn parcio a cherdded yr holl ffordd i ble bynnag yr oeddwn am fynd - hyd yn oed yn y gaeaf ar hyd palmentydd rhewllyd.

Er y byddwn yn sôn am Feirdd Ynys Prydain fel mudiad neu gymdeithas neu urdd, rhaid egluro yn y cychwyn cyntaf nad oedd iddo na swyddogion parhaol na chyfansoddiad cenedlaethol am tua chanrif.

Ar ôl dyfod adref i Lanrwst euthum i aros i Plas Madog, a byddwn yn mynd i'r dref i negeseua dros fy meistr.

Byddwn yn mund i mewn i ambell dŷ a chael croeso Cymraeg ganddynt.

Serch hynny, y mae hwn yn faes y bydd yn rhaid ei ddatblygu a byddwn yn ystod y cyfnod dan sylw yn ceisio defnyddio pob cyfle i ddwyn mwy o ddylanwad ar y sawl sy'n ffurfio a gweithredu polisïau economaidd a chymdeithasol.

Byddwn yn aml yn mynd gyda'r pysgotwyr ben bore, tua phump o'r gloch fel arfer yn yr haf i ddal mecryll.Dysgais y gamp o ddal pollock a sut i 'redeg rhwydi' a dal sgadan hefyd.

Ymateb Aled Davies, cyd-gadeirydd y Gymdeithas oedd amau cymhelliad yr ymateb: 'Byddwn yn cwestiynu pa mor debygol yw hi y byddai'r tri arweinydd yma wedi dod at ei gilydd o'u gwirfodd i greu ymateb unedig.

Byddwn yn wirion iawn, yn wir, byddwn ni yn wirion iawn, pe bawn ni'n anwybyddu eu cynghorion.

Byddwn yn ei gweld ar dalcen hen efail yn y dyddiau pan oeddwn yn teithio Cymru yn rheolaidd.

'Tasa fo'n werth 'i ddarbwyllo ella byddwn i'n rhoi cynnig arni.

Rwyn siŵr y byddwn ni'n hapus iawn yn Craig-y-don.

Byddwn i'n mynd i'r Waendir y tu draw i Manafon oedd yn amlwg yn Gymraeg ac yn methu dal sgwrs efo nhw heb droi i'r Saesneg.

Dewch i ni obeithio taw tri chynnig i Gymru fydd hi ac y byddwn yn dod â'r Oscar yn ôl eleni.

Fel arfer byddwn yn dod yn top yn fy nosbarth mewn Lladin a Ffrangeg.

Yna, byddwn yn ei gwylio yn cerdded ar hyd y briffordd am ryw hanner munud gan wybod ei bod o fewn canllath i'r ddynes lolipop a fyddain ei thywys yn ddiogel i'r ysgol.

Mae'r Cynghreiriaid wedi croesi'r ffin rhwng Belgiwm a Holand, ond gallech feddwl wrth y cwrs y byddwn yn gaeth yma am fisoedd eto.

Dwi'n siwr y byddwn i wedi cael medal o ryw fath pe byddwn i'n cystadlu yn Sydney ar y pryd.

Ni chredaf y byddwn yn gwneud unrhyw gam a'r awdur trwy ei ddisgrifio yn fwy o swyddog traddodiadol nag yn un o'r to newydd mwy rhyddfrydol.

yn bersonol byddwn i wedi mynd am bartneriaeth rhwng robert jones ac aled williams.

Byddwn yn mawrygu llawer o egwyddorion "da% heb sylweddoli mai rhy debyg i'r da ydynt.

Bydd hyn o fudd nid yn unig i wylwyr a gwrandawyr gwasanaethau BBC Cymru ond hefyd i S4C, gan y byddwn yn ychwanegu at ein cyflenwad presennol o raglenni newyddion a materion cyfoes.

Nid yr un patrwm a geir bob tro wrth gwrs oherwydd bod y llythrennau'n wahanol; y modd y byddwn ni'n trin y llythrennau ac yn cysylltu'r geiriau sy'n penderfynu'r patrwm.

Feddylies i erioed y byddwn yn dathlu fy mhen-blwydd yn 23 oed yn China.

Paratoi amserlen o ddyddiadau cyhoeddi hyd at ddiwedd 1996 i sicrhau deg rhifyn y flwyddyn (dau ohonynt yn rifynnau dwbwl). Er ein bod ychydig ar ei hôl hi, byddwn wedi dal i fyny erbyn cyhoeddi'r rhifyn nesaf.

Mae'n rhaid nad oedd unrhyw fath o Gymro yno neu byddwn wedi cael ei weld.

I'r pwrpas hwn, byddwn yn paratoi cyllideb, h.y.

Yma byddwn yn ystyried parhad yr Eisteddfod fel gwyl gystadleuol.

Byddwn yn y cysgod o hyn i ddiwedd y daith, yn wir ychydig iawn o haul a wêl yr ochr yma i'r dyffryn i lawr i Nant Peris dros fisoedd y gaeaf.

'Byddwn yn parhau i edrych a oes modd gwella'r gwasanaeth hwn yn y dyfodol ond ni allwn wneud unrhyw ymrwymiadau pendant ar hyn o bryd.

Bob dydd, byddwn yn defnyddio llawer o'r hyn a grewyd o ganlyniad i newid cemegol.

Wrth edrych arno gellid credu mai cigydd oedd wrth ei alwedigaeth ond byddwn yn dod i wybod mwy a mwy amdano cyn dod i ddiwedd y llyfr hwn.

Am na wyddai neb mai dymuniad pennaf Abel oedd imi fynd i'r coleg, ac am na ddywedodd efe wrth un enaid byw ond wrthyf fi fy hun na chawn fod mewn eisiau o geiniog tra byddwn yno, ac am imi ystyried Siop y Gornel fel fy nghartref bob amser.

Ond byddwn i wedi mynd am Arwel Thomas.

Cyn bo hir byddwn yn symud ymlaen at dargedau newydd fel y banciau.

Byddwn yn ystyried ymhellach yn Adran 7 agweddau pobl tuag at ddefnyddio'r iaith, ac yn Adran 8 sefyllfa'r iaith yn y gymuned.

Er mai'r set yw'r peth cyntaf a mwyaf hirhoedlog y byddwn yn ei weld o'r ddrama, a'r peth cyntaf sy'n 'dweud' dim wrthym cyn i'r un cymeriad agor ei geg, anaml y bydd yn cael fawr mwy o sylw na hynny.

Byddwn yn trafod 13eg o gynigion o 11.30 ymlaen.

Mae arna i ofn y byddwn i'n twyllo fy hunan yn llwyr pe bawn yn esgus bod adroddiad Cymraeg ar orsaf deledu leiafrifol wedi agor y ffin i'r Palestiniaid.

Byddwn yn pwyso am gamau i ddatblygu addysg Gymraeg a chynnal cymunedau Cymraeg.

Mae'r Cyfarfod Cyffredinol yn cyfarwyddo pob Rhanbarth perthnasol i ymgyrchu dros newid iaith gweinyddiaeth fewnol yn ein hardaloedd - fel y byddwn yn symud ymlaen at sefyllfa lle bu llywodraeth leol yn yr ardaloedd Cymraeg yn cael ei weinyddi trwy gyfrwng y Gymraeg.

Glynai Modryb Lisi wrthyf fel gelen, er i mi awgrymu'n gynnil y byddwn yn ei chyfarfod hi a Miss Lloyd yn nes ymlaen yn y lle a'r lle ar yr adeg a'r adeg.

Danfonwch eich awgrymiadau atom a byddwn yn ysgrifennu adolygiad.

Byddwn i'n gyff gwawd i'r gymdogaeth gron pe...'

Ar yr un trywydd byddwn yn arbrofi gyda noson Garioci Gymraeg neu ddwyieithog efo'n hir er mwyn agor cil y drws ymhellach i ganu pop neu roc Cymraeg.

Ar y cyfan, byddwn fel gwleidyddion, sylwebyddion a hyd yn oed newyddiadurwyr yn rhy barod i gyfyngu ein hunain i drefn y llwydd y byddwn yn perthyn iddo.

Un surbwch, gwglyd y byddwn i'n ei weld o bob amser, ond yn ei ddiod yr oedd yn wahanol meddai'r rhai oedd yn gwybod.

Byddwn yn trafod llawer gyda John Garn am gymeriadau Pen Llŷn a'u dywediadau bachog.

Yn ystod y blynyddoedd dwaetha, fe fu pwysa' allanol i ehangu'r Brifysgol a'r canlyniad ydi nad ydw i ddim yn 'nabod fy myfyrwyr hanner cystal ag y byddwn i.

'Alla i ddim credu y byddwn ni mor anffodus â hynny.

Yna byddwn i'n gwneud lot o arbrofion yn y tanc a bydd y cwch yn dechrau cael ei adeiladu ym mis Tachwedd.

Ond gan y byddwn yn trin yr agoriad yma - sef y 'Ruy Lopez' - yn fwy trylwyr yn nes ymlaen gwell ei gadael hi yn fanna am y tro.

Byddwn eleni hefyd yn ceisio ehangu'r ymgyrch Ildiwch drwy ein nwyddau yn ogystal ag unrhyw ymgyrch bwysig arall.

Byddwn yn casglu enwau o hyn tan ddiwedd wythnos yr Eisteddfod 2001.

Efallai, fel tlodion Jwda, y byddwn yn aredig, ond heb had i'w hau.

Meddai Branwen Niclas, 'Mewn man o arwyddocad hanesyddol dwfn, byddwn yn cyflwyno ein gofynion i gynrychiolydd y Cynulliad Cenedlaethol.

Ethiopia sy wedi'n gorchfygu ni a byddwn yn ymladd yn erbyn yr ymosodiadau hyn yn fwy nag erioed ac, yn y pendraw, ni fydd yn ennill," meddai.

Yng nghanol 1999 byddwn yn dechrau darlledu gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru gydag ymrwymiad o barodrwydd ac adnoddau fydd yn creu'r bont fwyaf effeithiol rhwng y sefydliad newydd a'r cyhoedd yn gyffredinol.

Gobeithio byddwn ni'n gallu cymryd pwyntie oddi arnyn nhw, falle ennill - mae'n rhaid meddwl yn bositif.

Yn y darn yma o'r Tafod Trydanaidd byddwn yn edrych ar engreifftiau o fethiant llwyr y Ddeddf Iaith diwethaf a'i Quango, y Bwrdd Iaith.

Dymunwn bob bendith a llwyddiant ichwi yn eich brwydr ac os credwch y medrwn ni fel Cymdeithas fod o gymorth mewn unrhyw fodd, byddwn yn falch o wneud hynnK unrhyw amser."

Yn anffodus, nid wyf yn cofio cael y profiad o weld seren wib ond byddwn yn dychmygu, er mor fyrhoedlog y profiad, y byddai'n gadael ei ôl arnaf.

Gwyddai y byddwn yng nghwmni Breiddyn a'r ddau actor proffesiynol, ac nid oedd am gynffonna o gwmpas er mwyn cael eu cyfarfod.

Go brin y byddwn i wedi dychmygu flwyddyn yn ôl wrth i Olygydd Y Tafod alw fy ngholofn i yn 'Gair o'r Gofod' ar gorn fy llys enw, Rocet, y byddai'r gair o'r gofod yn datblygu i fod yn Air o'r Seibr Ofod.

Eglurais nad oedd yr un ohonynt wedi ceisio cael ysgariad ar ôl iddynt wahanu ac y byddwn weithiau yn meddwl, neu'n hoffi meddwl, mai ailddechrau hefo'i gilydd fyddai diwedd y stori.

Ydw, mi rydw i yn hoff iawn o grempog, byth ers yr adeg y byddwn yn rhedeg nerth fy nhraed o'r ysgol fach am adref ar y dydd arbennig hwn, gan y gwyddwn y byddai Mam wedi gwneud platiaid uchel o grempogau mawrion ac yn disgwyl amdanom i'w bwyta.

Ces fy ngyrru o gwmpas y salonau amrywiol i gwrdd â'r bobol y byddwn i'n eu dysgu.

I ddechrau byddwn yn defnyddio cymhwysiad (application) neu feddalwedd o'r enw ClarisWorks.

Yn wir, yr hyn y byddwn yn rhoi pwys arno fyddai:-i) A oes gwir edifeirwch am yr hyn a ddigwyddodd, ac a oes yna ddealltwriaeth o'r hyn aeth o'i le?

Yn y ralïau byddwn yn lansio deiseb genedlaethol dros Deddf Iaith Newydd.

Mae'r Hydref mwyn yn loetran yn hir ar lan Llyn Maggiore yn nhalaith Ticino Byddwn yn Oostende ymhen pedair awr!