Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bydoedd

bydoedd

Rydach chi'n delio efo 'bydoedd', fel cyweirnodau mewn ffordd: fedrwch chi ddim dod â'r peth 'yma' i mewn i'r byd arbennig 'yma' achos tydi o ddim yn perthyn, ddim yn gweithio.

O'r cwmwd aethom dros y bencydd a'r rhosydd yn fintai fechan o blant o bedwar cartref i'r ysgol, lle'r agorwyd inni feysydd a bydoedd newydd o oleuni.

Dechreuais fy ngyrfa pan osodwyd yr haul yn ei le, a'r bydoedd ar eu llwybrau o'i amgylch, pan wahanwyd golau ddydd oddi wrth dywyllwch nos, a phan drefnwyd a tymhorau i ddilyn yn eu tro.

Os haul yw pob rhyw seren sy'n gwibio yn y ne' Os cylch y rhain mae bydoedd, a lloerau'n cadw eu lle, Od oes trigolion ynddynt, neu ynte nid oes un, Y cwbl oll a grewyd gan fysedd Mab y Dyn.