Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bydol

bydol

Digon posibl eu bod yn rhesymau mwy materol a bydol efallai, ond eto roeddynt yn rhesymau cryfion.

Yn raddol fe ddaw'r hen bâr, ac yn arbennig yr hen ŵr, o gryn ddiddordeb i'r adroddwr, sydd yn ei weld fel cynrychiolydd yr hen ddiniweidrwydd gwerinol a wrthgyferbynnir â bydol-ddoethineb y byd sydd ohoni.

Yn baradocsaidd, felly, cysylltid Santes Dwynwen, ar y naill law, â diweirdeb sanctaidd ac, ar y llaw arall, â chariad bydol.

Cyfaddefant eu bod wedi ymgolli yn nhryblith ystyriaethau beunyddiol, bydol, yn llwyr, ac eto mynegant ddealltwriaeth o'r ffordd y mae'r elfen ysbrydol yn ein profiad yn ymdreiddio trwy bopeth.

Syniad eithaf am eu stad bydol efallai.

Fel disgrifiad o falchder ymffrostgar Cymry'r unfed ganrif ar bymtheg yn eu hanes a'u tras, prin y gellir gwella ar eiriau'r Esgob Richard Davies: 'Ni wna vi son am vrddas, parch, ac anrhydedd bydol yr hen Brytaniait: tewi a wnaf am y gwrolaeth, dewrder, buddugolaythay, ac anturiaythae y Cymru gynt, mi a ollynga heibio y amryw gylfyddyday hwynt, synwyr, dysc, doythineb, ar athrylith ragorawl.

Fe ddichon nad 'ailddwyfoli' yw'r gair mwyaf priodol i ddisgrifio'r dehongliad newydd ac amwys a gynigir yn y ddau bennill a ddyfynnwyd: erys Iesu'n ddyn, eithr dyn â photensial ynddo i 'hawlio rhyddid enaid o'r cnawd a'i ddyrys wead', i godi uwchlaw 'caethiwed drom' ystyriaethau bydol.

Rhaid oedd i'r santes (a'r lleian) osgoi uniad rhywiol â phriodfab bydol er mwyn ennill uniad ysbrydol â'i phriodfab tragwyddol yn y nef (h.y.

Bydd yn rhyfedd iawn os na chewch rywbeth yn yr agoriad: hiraeth melys rhyw salm; callineb bydol bachog rhyw ddihareb; ysblander gweledigaeth proffwyd neu ddifinydd; stori brydferth swynol neu bryd arall stori erwin frawychus; brathiad cleddyf neu foesegwr di- dderbyn-wyneb a yrr eich hunangyfianwder ar ffo; murmuron tawel a leinw eich enaid a hedd.

Beirniadodd yn llym yr esgeulustod ar waith yr Ysgol Sul yng Nghymru, a'r puteinio a fu'n gyffredinol ar addysg, oherwydd mesur ei gwerth yn nhermau llwyddiant bydol.