Yn ôl yr wyth clwb alltud nid dwyn perswad mae'r swyddogion bellach ond yn hytrach eu bygwth.
Roedd y gwynt yn gryfach o lawer ond nid oedd yn bygwth glaw.
Mae hwn yn symudiad da am ei fod yn gwneud dau beth - sef "datblygu% darn mawr - a bygwth un o Werinwyr y gelyn yr un pryd.
Mae colli darn cyfarwydd o ddodrefn yn gwneud i bawb deimlo ychydig yn chwithig, hyd yn oed i'r rhai oedd wedi bygwth rhoi bwyell trwyddo ers blynyddoedd.
Ond y mae'n drist sylweddoli fod llawer hyd yn oed ohonynt hwythau'n bygwth digalonni ac yn mynd yn ddi-ffrwt.
Saethwyd dau yn y terfysgoedd yn Lerpwl a bu gweithwyr rheilffordd yn bygwth galw streic cenedlaethol.
mae grwpiau o derfysgwyr yn bygwth ein heddwch ni.
Bygwth taeogrwydd a diniweidrwydd y gorchfygedig ac anwybyddu ei obaith ffug a'i ymgreinio.
Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Gwynfor Evans yn bygwth ymprydio hyd farwolaeth oni fyddai'r Llywodraeth yn newid ei meddwl ac yn dilyn ei maniffesto ynghylch sefydlu sianel deledu Gymraeg yng Nghymru.
Clywai, er gwaethaf yr eginyn o hunanhyder a oedd yn bygwth blaguro'n betrus ynddo, yr angen am rywun yn gefn iddo yn ei ddiflastod ac i herio'r dagrau o rwystredigaeth a lletchwithdod rhag mentro ymhellach na'i lygaid.
Achos mae'n hymgyrchoedd ni yn bygwth eu byd bach nhw.
Mae pynciau teuluol yn amlwg iawn, pethau fel geni a marw, profiadau crefyddol personol, y bygwth niwclear, - a'r cwbwl wedi eu lleoli'n gadarn yng nghynefin yr awdur ei hun.
Mae'r llinellau o gerrig yn Karnag yn debyg i rengoedd o filwyr ac yn ôl un stori, byddin o filwyr paganaidd yn bygwth un o'r hen seintiau Celtaidd oeddent yn wreiddiol.
'Wyren mynd,' meddai Guto, ymhen rhyw funud, a'r dagrau'n bygwth eto yn ei lais.
Mae Peter Nicholas, Rheolwr Y Barri, yn bygwth cyfraith ar Gymdeithas Pêl-droed Cymru yn dilyn y penderfyniad i ail-chwarae'r gêm a ohiriwyd ar ganol amser ychwanegol, ar faes TNS (Llansantffraid) - nid ar Barc Jenner.
Gwyddai o'r gorau fod y tristwch mawr a oedd yn ei oddiweddyd y dyddiau hyn yn bygwth troi Meg oddi wrtho, ond doedd ganddo ddim rheolaeth ar ei deimladau.
Mae Clwb Rygbi Harlequins yn bygwth gwrthod chwarae eu gêm rownd gyn-derfynol gyda Newcastle yn Nharian Ewrop.
Nododd fod cymunedau Cymraeg yn cael eu bygwth gan y dirwasgiad a diweithdra, a bod gwasanaethau iechyd a llyfrgelloedd yn cael eu cwtogi.
Mae Glyn Ebwy wedi bygwth tynnu allan o'u gêm yn erbyn Dax yn Nharian Ewrop, heno.
Yr hyn a barodd y gofid mwyaf i Elisabeth ai thad-cu oedd bod byddin y Senedd yn cyrchi i Frycheiniog am fod Brenhinwyr Dyffryn Wysg yn bygwth codi a chipio Aberrhonddu.
Mi fydda i yn 'i deimlo fo weithia fel cwmwl du yn bygwth fy mygu.
Bryd arall, yr oedd muriau'r gell yn nesu ato, yn cau amdano ac yn bygwth ei wasgu i faarwolaeth.
Nid oes amheuaeth nad yw'r duedd i 'feddwl yn gam' yn parhau i'n blino ni fel cenedl heddiw, a bod hynny nid yn unig yn bygwth ffyniant a pharhad yr iaith Gymraeg, ond hefyd yn creu rhwyg ac anghydfod yn ein plith.
Gwirioneddau sydd wedi gwrthsefyll rhaib y canrifoedd yn cael eu bygwth, eu darnio au dymchwel mewn cymdeithas syn prysur fynd ai phen iddi.
Yr un oedd nawr yn bygwth tanseilio'r fuddugoliaeth fawr trwy ymuno yn y gwrthryfel newydd yma.
Roedd cysgod ansicrwydd yn bygwth hawlio'i wedd.
Mae'r cwmni sy' biau'r clwb mewn trafferthion ariannol a'r Superleague wedi bygwth tynnu'r drwydded i ddefnyddio enw'r 'Devils' oddi arnyn nhw.
Bydd y Gymdeithas yn gofalu bod yna drefniadau effeithiol ar gyfer diogelu gweithwyr cyflogedig, cleientau a'r cyhoedd rhag tân a pheryglon eraill sy'n bygwth unrhyw un o eiddo'r Gymdeithas.
Bu llawer o fân siarad, cyhuddo a bygwth ar ran y grwgnachwyr eisteddfodol, ac aeth rhywrai mor bell â chyhoeddi cân enllibus yn Tarian y Gweithiwr a'i galw'n 'Gân y Cenders'.
Sut medren nhw'n bygwth ni?
A phan gerddai tuag ataf ar gyrion llychlyd iard yr ysgol, ei ddyrnau'n 'i gaddo hi a'i lygaid yn bygwth ffeit a'i holl gorff yn ysu am roi cweir imi, fe wyddwn drwy'r ofn mai canlyniad oedd hyn i'r pellter hwnnw nad oedd yr un ohonom yn gyfrifol amdano.
Ond mae'r Barri wedi bygwth mynd i gyfraith os digwydd hynny.
Hwn, yn ôl un awdur o Sais, yw'r peryclaf o'r drygau sy'n bygwth y ddynoliaeth heddiw.
Roedd hi'n dywyll, yn bygwth glaw ac mae milltir yn gryn ffordd i gerdded dan bwysau horwth o beiriant recordio.
Gwynfor Evans yn bygwth ymprydio hyd farwolaeth oni fyddai'r Llywodraeth yn newid ei meddwl ac yn dilyn ei maniffesto ynghylch sefydlu sianel deledu Gymraeg yng Nghymru.
'Roedd ei dad wedi bygwth ei saethu, meddai.
Fe gawson ni ein bygwth tra'n ceisio ffilmio gŵr oedd wrthi'n torri camel yn ddarnau, yr anifail wedi'i rannu'n goesau, pen, gwddf a thafelli o gig coch ac ar fin cael eu hongian ar un o stondinau prysur y farchnad.
Sefydlwyd Yr Haul "mewn cyfnod neillduol yn hanesyddiaeth Prydain Fawr", meddai'r golygyddion, "oblegid yn adeg ymddangosiad y Rhifynnau cyntaf, yr oedd y llifddor wedi ei gyfodi, a'r ffrwd dinystriol, mewn agweddiad dychrynllyd, yn bygwth trangcedigaeth sefydliadau gwladol a chrefyddol y deyrnas hon".
Yn ystod y pum niwrnod cyn hedfan i Nairobi, ro'n i wedi cnoi cil dros y berthynas rhwng y personol a'r gwrthrychol, dros yr angen, ar un llaw, i gofnodi ffeithiau am newyn a oedd yn bygwth dileu cenhedlaeth gyfan o blant Somalia ac, ar y llall, i gofnodi barn.
Ond taflodd y clwy traed a genau sy'n bygwth Cymru rywfaint o'i gysgod dros y dathliadau.
Mae arna'i ofn y cenllysg mawr sy'n bygwth o'r mynydd, dwi'n siŵr ei fod o am ddwad ar fy ngwarthaf mewn dau funud i 'ngholbio fi'n ddu las ac wedyn fy nghladdu fi yng nghanol yr eira, felly plîs Morys, gofyn iddi eto gawn ni fynd i'r tŷ.
Pwysigrwydd mwyaf y penderfyniadau hynny, mae'n debyg, oedd iddynt ostegu'r storm a oedd yn bygwth codi ers cryn amser oherwydd croesdynnu rhwng gwahanol garfanau yn y Blaid ar y ddau bwnc.
Nid gwrthwynebiad a phrotest a methiant oedd yr elfennau pwysicaf yn y trychineb hwnnw ond y bygwth a'r anwybyddu.
'Reit unwaith eto, y cyfan, meddai Andrews yn y man a'r blinder yn bygwth cracio'i lais tawel.
Am fod mesur y llywodraeth yn dymuno ehangu'r diffiniad o 'derfysgwr' i gynnwys mudiadau ac unigolion sy'n bygwth difrod difrifol yn erbyn eiddo er mwyn gwireddu amcanion gwleidyddol, crefyddol neu ideolegol.
Bydd Swail yn herio'r roced, Ronnie O'Sullivan, sy'n bygwth ffrwydro.
Mae'r Gymdeithas hefyd wedi gosod allan yr hyn sy angen i'r Cynulliad Cenedlaethol ei wneud yn wyneb y broblem mewnfudo sy'n bygwth cymunedau Cymraeg olaf y byd.
Awdl am yr elfennau materol ym mywyd Cymru a oedd yn bygwth ei thraddodiadau diwylliannol ac ysbrydol.
Y gwir yw fod cyfeillach Northampton yn bygwth datblygu'n rhywbeth mwy na chylch trafod oherwydd ar ôl yr astudiaeth Feiblaidd âi'r brodyr ymlaen i ystyried unrhyw lithriadau moesol neu wendidau ysbrydol a geid ymhlith y clerigwyr.
Maent yn cynnig 18 mis o gyflog i rhywun sy'n barod i adael cyn y Nadolig, 12 mis o gyflog os gadawant cyn y Pasg ac yn bygwth y cant ddim os gadawant wedi hynny.
Ymhlith syniadau eraill y mae gwahodd sêr y cyfryngau a chwaraeon i gwrdd â grwpiau o blant a phobl ifainc, trefnu teithiau cyfnewid gydag ieuenctid o wledydd sydd yn siarad ieithoedd lleiafrifol a llunio cyweithiau cymunedol fyddai'n denu pobl ifainc i gyfrannu tuag at ddiogelu'r amgylchedd a bod yn fwy ymwybodol o'r peryglon sydd yn ei bygwth.
Ond gyda'r mewnlifiad priodasau cymysg, trai ar grefydd ac ymyrraeth sefydliadol yn bygwth chwalu'r peuoedd cynhaliol hyn y mae perygl i'r Gymraeg, onid ail sefydlir y peuoedd hyn a'u hymestyn i feysydd newydd, gael ei gadael yn noeth yn nannedd y ddrycin.
Fe'n rhybuddiodd bod angau'n ei bygwth, ac o golli'r iaith byddai Cymru yn colli ei hanfod, a deuai difancoll.
Thema ganolog: disgyflogi, diboblogi, a bygwth dwyn tir Cymru yn arwain at ddechreuad Oes y Brotest: cenedlaetholdeb ar gynnydd yn sgîl y bygythiad i foddi Cwm Tryweryn, darlith 'Tyned yr Iaith' Saunders Lewis a ffurfio Cymdeithas yr Iaith, a phroblemau economaidd a gwleidyddol Cymru yn arwain at gyfnod y Brotest; a buddigoliaeth Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin efaill yn pwyntio i gyfeiriad Oes y Brotest.