Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bymthegfed

bymthegfed

Mae Villa nawr wedi codi i'r pumed safle ac Everton nawr yn bymthegfed.

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed, serch hynny, dysgodd mwy o'r boblogaeth leyg ddarllen.

Ar hyd y bymthegfed ganrif gwelir yn amlwg gynnydd mawr ymhob gwlad yn rhif y rhai a ddysgasai ddarllen: lleygwyr yn ogystal â chlerigwyr, gwyr a gwragedd fel ei gilydd.

Buasai hyn yn ail hanner y bymthegfed ganrif.

Yn Angkor gwelsom olion y diwylliant gogoneddus a flodeuai rhwng y nawfed a'r bymthegfed ganrif ac yna a ddiflannodd yn sydyn.

Yr oeddynt yn trafod y bymthegfed bennod o'r hyn a elwir yn llythyr cyntaf Paul at y Corinthiaid o bob dim - pennod yr atgyfodiad.

Heb os nac onibai, prif arwr yr History i Syr John, os gellir synied am arwr o gwbl ynddo, oedd ei hen daid Maredudd ab Ifan ap Robert, sylfaenydd y teulu yn Nanconwy yn ail hanner y bymthegfed ganrif.

Tua dechrau'r bymthegfed ganrif y seiliwyd, ymhlith eraill, brifysgolion hynaf yr Alban ac y ceisiodd Owain Glyn Dwr wneud yr un gymwynas â Chymru.

Mae Lewis yn un o feirdd mawl mwyaf y bymthegfed ganrif, fel y ceir gweld yn glir pan gyhoeddir ei holl waith o'r diwedd, ond y mae'n bennaf adnabyddus am un gerdd eithriadol, sef ei farwnad deimladwy i'w fab ei hun.

Yn ystod y rhyfeloedd hyn yn y bymthegfed ganrif y datblygodd cenedlaetholdeb Seisnig.

Fe'i gwelwyd yn Ethiopia yn y chweched ganrif ac fe achosodd filoedd o farwolaethau yn yr Amerig yn y bymthegfed ganrif.

Fe'i canfyddir yn ymlyniad selog yr arweinwyr milwrol Cymreig wrth y goron Seisnig yn rhyfeloedd Ffrengig y bedwaredd ar ddeg a'r bymthegfed ganrif.

Bu'r wlad honno'n eithriadol deyrngar i Eglwys Rufain yn y bymthegfed ganrif ac arhosodd felly trwy gydol Oes y Diwygiad.

A phan ddyfeisiwyd yr argraffwasg tua chanol y bymthegfed ganrif bu mwy o alw fyth amdanynt.

Gorffennodd tîm golff Cymru - Ian Woosnam a Phil Price - yn bymthegfed allan o 24 yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd yn Buenos Aires.

Canodd Hywel ap Dafydd ab ieuan ap Rhys yn y bymthegfed ganrif i heddychu rhwng brycheiniog a Morgannwg.

Rhyw bymthegfed fyddwn i mewn mathemateg fel rheol!

Ar ôl y bymthegfed ganrif daeth ymgyrch ar ôl ymgyrch ar Cambodia o Siam yn y gorllewin ac o Annam yn y gogledd a'r dwyrain.

Cadwai Syr John Wynn dŷ yng Nghaernarfon, canolfan weinyddol yr hen Dywysogaeth yn y gogledd, ac uchel yw ei glod i'r dref honno fel y bu tua chanol y bymthegfed ganrif.

Er mai yn y bymthegfed ganrif a'r unfed ar bymtheg y cyrhaeddodd y proses hwn ei anterth, yr oedd eisoes i'w ganfod ar waith yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.