Ac eto, rydych yn barod i roi arweiniad clir ar bynciau addysgol yr ydych yn credu eu bod o bwys e.e. llythrenedd a rhifedd.
Gyda chymaint o ansicrwydd ynglyn â chymaint o bynciau eraill yr ydym yn disgwyl arweiniad Arbenigwyr arnyn nhw y dyddiau hyn go brin y gall yr un ohonom ni fforddio cysgun dawel iawn.
Dylai ysgolion, felly: * fonitro'r mathau o ddarllen sydd yn digwydd ar draws y gwahanol bynciau,
Y mae'n amlwg bellach fod trafod cyhoeddus ar bynciau fel puteindra, atal cenhedlu a chlefydau gwenerol yn bur gyffredin yn y ganrif ddiwethaf.
Hyd yn hyn mae'r gyfres wedi teithio i bob cwr o Gymru ac wedi trafod yr holl bynciau llosg syn corddi y Gymru wledig ar Gymru drefol.
Darlledwyd nifer o ffilmiau cyffrous am y tro cyntaf ar The wRap gyda chymysgedd amrywiol o bynciau a storïau.
Awgrymwyd i mi yn ddiweddar gan amryw o garedigion y LLENOR mai da fuasai cael nodiadau bob chwarter gan y Golygydd ar bynciau'r dydd yng Nghymru ac yn gyffredinol.
Yn ei ymateb i'r adroddiad Cymraeg nododd y pwyllgor nifer o bynciau y byddai'n briodol iddo eu harchwilio a datblygu polisiau arnynt ar fyrder.
Mae'n rhaid i'r adroddiad a ysgrifennir gan arolygwyr arbenigol ar bynciau unigol roi ystyriaeth i'r canllawiau a gynigir yn y tudalennau a ganlyn, ac mae'n rhaid mynegi barn yn glir ynghylch safonau cyrhaeddiad, ansawdd y dysgu ac ansawdd yr addysgu.
Un o bynciau trafod y Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd yw tocynnau yn caniatau mynediad didramgwydd i gymar pob aelod.
Mae angen dybryd i wella ansawdd y gwaith o ddadansoddi ystod eang o bynciau ar gynyrchiadau newyddion a materion cyfoes BBC Cymru.
Addunedais yn fy meddwl y tro hwn sôn am fwy o bynciau ond gan fod dyddiad cais y golygydd wedi mynd heibio ers tridiau ac fe fydd yn amser casglu llythyrau'n lleol ymhen ugain munud, rhaid gadael i'm bwriadau aros hyd amser tymhorol eto.RHITHIAU MYNYDD HIRAETHOG - Norman Closs Parry
Er mwyn hyrwyddo trafodaeth o bynciau yn Gymraeg nad yw'n arfer cael eu trafod yn Gymraeg, gellid sicrhau bod geirfâu o dermau perthnasol yn cael eu cylchredeg ymhlith yr aelodau a'r cyfieithwyr.
Dadleuai Paul am bynciau fel hyn yn ddifalais ond heb flewyn ar ei dafod.
Mae'n rhyfeddol cyn lleied a wybodaeth sydd gan yr athrawon am Brydain a bydd yn rhaid inni roi darlithoedd ymhob cyfarfod athrawon o hyn allan ar amryw o bynciau.
Ymhlith yr adnoddau mae radio, teledu a gwefannau ar gyfer llythrennedd, rhifedd, daearyddiaeth, y cwricwlwm Cymreig, cerddoriaeth, addysg grefyddol, hanes... mae'r pynciau yn cwmpasu'r rhan fwyaf o bynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol a mwy.
Beth bynnag am y gwrthdaro cyhoeddus rhwng aelodau'r gwrthbleidiau a gweinidiogion, mae'n rhan hanfodol o'r berthynas hefyd eu bod yn gallu trafod materion etholaeth yn effeithiol ac yn gallu cydweithredu ar bynciau fel datblygu economaidd.
Mae yma ymdriniaeth â llawer o bynciau mewn cwmpas byr, â gwaith Theophilus fel awdur a chyfieithydd, â'i ddawn fel chwedleuwr difyr a hoffus, â'i gredoau a'i weithgarwch fel eglwyswr, ac â'i wladgarwch Cymreig a Phrydeinig.
Lluniodd gerddi am bynciau cyfoes ar y pryd fel y gwrthdystio yn erbyn y Rwsiaid ym Mhrâg, protestiadau Cymdeithas yr Iaith, yn ogystal â'r ysbryd protestgar byd-eang yn y cyfnod, y glanio ar y lleuad ym 1969, Fietnam, y newyn yn Biaffra, ac yn y blaen.
Ar ei ddychweliad i Fangor gofynnwyd i'r darlithydd newydd draethu ar amryw bynciau, gan gynnwys Gramadeg Hanesyddol, y chwedlau canoloesol a pheth o lenyddiaeth Oes Victoria.
"Tan y protestiadau hynny doedd pobol o'r tu allan ddim wedi sylweddoli cyn lleied o bynciau oedd yn bosib' eu gwneud trwy gyfrwng y Gymraeg yma.
Mae i'r Wasg restr hir o amrywiol deitlau yn cynnwys gweithiau enwog ar bob math o bynciau, ac mae dros 500 o deitlau mewn print ar hyn o bryd.
'Roedd seicdreiddiaeth a seicoleg yn bynciau gweddol newydd yn y dauddegau, a phobl yn dechrau dod i ddeall syniadau Freud, a phroblemau fel gwallgofrwydd.
Cwis, hynny yw, sy'n galw am wybodaeth go dda am lawer o bynciau cyffredinol.
Yn yr un cyd-destun, gall sefyllfa o 'ddiglossia' godi lle y teimlir bod un iaith yn fwy addas i'w defnyddio wrth drafod - rhai meysydd neu bynciau arbennig.
Fe gyflwynodd TAC agenda bras o bynciau trafod ar gyfer y cyfarfod.
Yn y rhaglenni radio, ymunodd y beirniad ar hanesydd Hywel Teifi Edwards âr bardd Alan Llwyd, i drafod gwahanol bynciau dadleuol yn hanes yr Eisteddfod.
Mae'n rhaid i bob adroddiad arolygu gynnwys barn glir ar safonau cyrhaeddiad yn holl bynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol ym mhob Cyfnod Allweddol perthnasol, yn ogystal â rhoi disgrifiad ar safonau mewn unrhyw bynciau ychwanegol a gynhwysir ym manyleb yr arolygiad.
Treulia lawer o amser yn trafod defnyddio cregin yn wrtaith a phair hyn iddo son am natur a tharddiad ffosilau cregin, un o bynciau mawr daearegwyr y dydd.
Yn fwriadol, aethpwyd â Talkback allan o'r stiwdio ac o'r herwydd roedd yn rhaglen hyblyg a allai ymateb i bynciau llosg y dydd ar amrantiad.
Mae gan bob adran newyddion stôr o wybodaeth wedi ei ddosbarthu'n ofalus dan wahanol benawdau fel ffynhonnell ffeithiau ar amryfal bynciau.
Mae'n rhaid i'r arolygiad o bynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol fod yn seiliedig ar wybodaeth fanwl o'r gofynion statudol, gan gynnwys:
Yn ychwanegol at bynciau, mae gofyn i arolygwyr ystyried dwy agwedd arall ar y ddarpariaeth gwricwlaidd: (i) y Dimensiwn Cymreig a (ii) y themâu trawsgwricwlaidd (addysg yrfaoedd, dealltwriaeth gymunedol [gan gynnwys dinasyddiaeth], dealltwriaeth economaidd a diwydiannol, addysg iechyd ac addysg yr amgylchedd).
Bellach mae bron pob plentyn ysgol yn dysgu rhywfaint o bynciau o leiaf trwy gyfrwng yr iaith ac mae rhaglenni uchelgeisiol i newid iaith y gweithle, iaith gweinyddiaeth, iaith y gymuned a chreu cyfiawnder cymdeithasol ieithyddol.
Oddi mewn i Gyd-bwyllgor Addysg Cymru mae Uned Iaith Genedlaethol Cymru CBAC yn cynhyrchu a chyhoeddi cyflenwad helaeth o adnoddau dysgu ar gyfer amrywiaeth eang o bynciau ac ar gyfer pob Cyfnod Allweddol.
Lle bo hynny'n briodol, dylid cofnodi barn ynghylch ansawdd y gwaith yn y meysydd trawsgwricwlaidd hynny ar y taflenni crynodeb ar bynciau unigol sy'n rhan o Gofnod o Dystiolaeth yr Arolygiad ym mhob arolygiad.
Mae datganiad y Swyddfa Gymreig i'w groesawu, ond mae'r dystiolaeth isod yn awgrymu bod cryn ffordd eto i fynd cyn cyrraedd y nod o safbwynt y ddarpariaeth mewn nifer o bynciau.
Un o'i bynciau astudio yn Aberystwyth ac Abertawe oedd y Gymraeg.
(b) Rhoddwch eich barn gyffredinol am y cynllun, gan gynnwys eich barn am ddefnyddioldeb canllawiau'r athro (A oes digon o fanylder ar gyfer athro/ athrawes sy'n gweithio y tu allan i'w faes/maes ei hun?), ffurf a chyflwyniad y gwaith, lefel yr iaith a'r agwedd at bynciau megis cyfle cyfartal.
Mae tuedd, ysywaeth, i'r holl bynciau orbwysleisio'r dealltwriaethau llythrennol ac ad-drefniadol yn y math o gwestiynau darllen a deall a osodir ym mhob maes cwricwlaidd a chyda phlant cyffredin ac is o ran gallu yn arbennig, ar ddechrau gyrfa ysgol.
Ef, wrth fynd â mi o gwmpas y wlad i weld hen olion Rhufeinig a chromlechau a chutiau Gwyddelod a phethau felly, a'm symbylodd i brynu llyfrau ar bynciau hynafiaethol Cymreig.
Dewi Llwyd ydy'r cyflwynydd ac mae'n edrych ymlaen at gael cwestiynau neu sylwadau ar bynciau llosg y dydd oddi wrth wylwyr ar-lein y gyfres.
rhoi addysg bersonol a chymdeithasol dan bynciau fel gofal iechyd, cynllunio gyrfa, ymddygiad moesol, ymwybyddiaeth wleidyddol/ economaidd ayb.
Bod cerdd dant i fod yn un o bynciau arholiadau'r Orsedd am urdd-enwau.
Mae pob math o bynciau yn cael sylw ar y rhaglen - chwaraeon, cerddoriaeth, gwyddoniaeth, ysgol, yr amgylchedd, straeon doniol a thrist, a hyd yn oed wleidyddiaeth weithiau.
Mae Oriel Ynys Môn hefyd yn cynnal gweithdai ar gyfer plant ac oedolion, yn seiliedig ar amryw o wahanol bynciau.
Yn y rhaglenni radio, ymunodd y beirniad a'r hanesydd Hywel Teifi Edwards â'r bardd Alan Llwyd, i drafod gwahanol bynciau dadleuol yn hanes yr Eisteddfod.
Yn hyn a'u denai oedd y pwyslais a roddai Beca ar bynciau diwylliannol, ar gymunedau ac amgylchedd dan fygythiad, ac yn enwedig ar bynciau Cymreig.