Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

byrd

byrd

Fel y dywedodd (rywsut), eto yn Llangollen: petai gūr Glenys (yr hen foi cringoch-foel anghofiedig hwnnw) wedi mynd yn brif Weinidog, yna mi fyddai o wedi bod yn Gymro yn rheoli Lloegr (a fyddai hynny ddim yn iawn), ac felly mae hi'n iawn i Blw-byrd, fel Sais, reoli Cymru.

Gofynodd Mr Redwood, tad ein Glw-byrd ni: 'We uzz Saeth Weilz?' A thrwy hynny dywedodd y dywededig Mr Evans, Maesteg, wrtho am fodolaeth Cymru.

Ffaldi-rai-tai-to, mae'r Blw-byrd (dur) ar ben ei ddigon hefo Cymru fach - fel y gwcw lawen lwydlas ar ei nyth newydd, ac yn wir yn Sonnig, ar lannau Tafwys dlawd y trig mewn bwthyn bach distadl, yntau yno wedi agosa/ u cryn filltiroedd at Gymru o fro ei febyd yng Nghaint, wedi symud yno'n fwriadol i ragddisgwyl am y job.

Yn ddiau nid â'r gawod ddiwethaf y daeth y Blw-byrd hwn i lawr o'r nef.