Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

byrlymu

byrlymu

Felly y bu am yr hanner awr nesaf, y straeon yn byrlymu o'i geg un ar ôl y llall.

Olion afonydd Ond maentumir nad oedd Mawrth yn rhewllyd trwy gydol ei hoes oblegid yn ystod ei dyddiau cynnar credir fod yma gynhysgaeth gref o nwyon yn byrlymu o fynyddoedd tanllyd ar hydddi gan greu atmosffer trwchus o'i gylch ac yn cadw gwres yr haul rhag dianc ac o'r herwydd yn codi tymheredd arwynebol y blaned.

Nid oedd yn rhaid i'w lygaid duon ei hanwesu ac i'w gyhyrau wingo dan ei groen tywyll pan fyddai'n rhwydo na theimlai hi ei gwaed yn byrlymu yn ei gwythiennau a'i chalon yn chwyddo.

Mae pob modfedd o'r lle yn byrlymu bywyd.

Yr oedd y gramaffôn a gawsai fy nghyfaill Williams yn gyfnewid am gerbyd modur aneffeithiol, yn byrlymu allan nodau prudd-felys "Y Sospan Bach," ac yr oedd aroglau dymunol dros ben yn trwytho'r awyrgylch.

Bodlonrwydd yn llifo drosof am fod yr angen i gael fy ngweld yn byrlymu trwy'i lais.

Fel hyn y'i gwelai yn Eisteddfod Pwllheli y flwyddyn honno--"pawb yn chwysu Cymreictod yn chwartiau, Cymraeg ar bob llaw, a'r ysbryd Cymreig yn byrlymu drosodd .

Roedd strydoedd y ddinas Ewropeaidd odidog hon yn orlawn ac yn byrlymu ysbryd y Nadolig.

Dim ond Clybia pobl fawr sy'n cael trwydded yfed bob oriau," meddai Wil Pennog, yn byrlymu o wybodaeth.

Y mae y gyfrol yn byrlymu o edmygedd o'r ysgolhaig y bu ei gyfraniad yn un mor wiw yn ystod cyfnod diweddar y dadeni Dysg.