Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

byrrach

byrrach

Mae'r llyfr ar gyfer plant sy'n dysgu Cymraeg wedi cael ei sgwennu mewn iaith symlach gyda brawddegau byrrach gan wneud y stori'n hawdd iawn i'w dilyn.

Roedd ganddi wallt tenau melyngoch, tonnog wedi ei dorri yn dipyn byrrach na'r ffasiwn cyfoes o dresi "gwas bach" wedi eu cyrlio odditano ar y gwaelod.

Canent awdlau serch lled faith i dywysogesau a rhai byrrach i ferched anhysbys (ac anghyffwrdd), heblaw dwy 'orhoffedd' sy'n gyfuniad diddorol o ymffrost serch a rhyfel ac o ganu natur.

A thymer y gweinidog wedi mynd yn fyrrach a byrrach, a'r parting shot, (annheg rwy'n gwybod).

Gan iddynt hiliogi o'r 'unigolion' gyda'r 'DNA' mwyaf llwyddiannus o'r cenedlaethau cynt, ceir poblogaeth o 'DNA' sydd ar y cyfan yn dynodi llwybrau byrrach.

(i) Dylid cynnig cymwysterau, a gydnabyddid gan y cyhoedd, ar gyfer cyrsiau byrrach na'r cwrs pum mlynedd traddodiadol.