Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bys

bys

Qualified Architects.' Ac roedd y ddau a'u bys yn union ar byls pethau lle'r oedd lliw a llun a diwyg mewn cwestiwn.

Yng nghanol cynifer o bethau da, trueni nad oedd pob perfformiad yn cyrraedd yr un safon ac yr oedd gwendid yn rhan Valentino - er ei bod yn anodd rhoi bys ar yr union beth oedd o'i le.

'Dyma ni!' meddai Mini ymhen rhai eiliadau, gan gadw ei bys esgyrnog ar y gair 'cath'.

Nid oes dim o'i le mewn hau chwarter rhes o bys ac yna'r ail chwarter, y trydydd chwarter a'r chwarter olaf, gydag ysbeidiau rhwng bob heuad, os yw'r rhes yn hir.

Mae'r un peth yn digwydd wrth ddefnyddio bys.

Arogl y cytiau tywyll ac anadl boeth y lloi wrth darllen am roi bys i lo bach i'w annog i yfed o bwced yn hytrach na sugno'r deth.

Gwelais ddigonedd o bys y ceirw, teim gwyllt, clustog Fair, a thresgl y moch fodd bynnag.

Byddai yntau'n sgrifennu i ddweud pryd y byddai'n cyrraedd (bys hanner awr wedi pump o Fangor gan amlaf), a byddai hi'n agor y ffenestri.

Daetha 'run ohonyn nhw'n agos i'r bib, ac yr oeddwn i ar fin taflu'r cwbl - fuo fi 'rioed yn chwannog i bys, yn wlych nac yn stwns - ond pwy ddigwyddodd basio ond Wil Robaits.

Os am gdaw'ch bys ar byls adloniant cyfoes Cymraeg a mwynhau cystadleuthau'r W^yl, Mabirocion amdani!Yn ôl y trefnwyr y mae'n amlwg bod cystadleuthau Eisteddfod Dyffryn Nantlle ac Arfon wedi taro deuddeg gyda chystadlu ar bob un.

Wedi'r adloniant mwynhawyd bwyd bys a bawd a baratowyd gan gwmni arbennig a phaned yn cael eu gweini gan aelodau'r pwyllgor.

Gwlychodd y bys lolipop yn ei cheg a'i rwbio fo ar ei foch nes oedd y croen yn goch.

A gorfod i mi dalu i'r cythral am y dwr yn y diwadd.' 'Trochodd Nain Nyrs flaen ei bys yn un o'r pwcedi a dweud yn sarrug,' 'Tydi hwn yn oer fel rhew gynnoch chi.'

Ni chyffyrddodd ben bys ynddi o gwbl, dim ond sibrwd wrtho'i hunan (neu wrth Mam) yr ebychiad mwyaf tosturiol: 'Www Musus Williams .

,' meddai Gwyn gan roi bys ar ei wefus.

On'd oedd pawb yn gwybod mai un garw am godi'r bys bach oedd Lewsyn?

'Reit, mi rwyt ti'n rong!' gwaeddodd, yn plannu bys i ganol ei lyfryn.

Gwnewch hyn eto, ond y tro yma gwlychwch y nodwydd neu'ch bys mewn hylif sebon ymlaen llaw.

Roedd Joni wedi cael cymaint o fraw fel na allai symud na bys na bawd.

Ar ôl cerddad y stryddoedd nes yr oeddwn i wedi mynd yn soldiwr, mi gefais hyd i siop bys arall.

Pwyntiai'i bys bach tew at y glaswellt, a phwysai'n galed yn erbyn y gwregys, 'Allan.' mynndai.

Pan anwyd fi roedd dad wrthi'n priddo rhesi tatws ac yn rhoi pricia i ddal y pys -- gweler ei ddyddiadur am 7 Mehefin 1968 -- a phan gyrhaeddodd o'r sbyty'r noson honno roedd mam eisoes wedi dechrau 'ngalw i'n Canaveral Jones (CJ i'm ffrindiau yn y ddau gryd bob ochr i mi). Rwan, roedd hi wedi blino ac ar ôl dadlau tipyn bach fe lwyddodd dad i ddal pen rheswm a chael mam i 'ngalw i'n Arwel (ddim yn anhebyg i Canaveral ar ôl saith awr o epidurals). Dychwelodd dad at ei ei datws a'i bys a phan aeth o i nôl y ddau ohona ni adra o'r sbyty ar y 15ed fe ddigwyddodd sylwi ar y tystysgrif geni.

Roedd yna hogan bach reit glên, reit ddel, yn y fan honno, ddigon i dynnu'ch meddwl chi oddi ar bys.

Ond mae'n anodd gosod bys ar bob newid fu yndi hi.

Rhyw ddicter ar gynnydd fel bys cyhuddgar yn cael ei anelu ato hi.

Safai chwe thþr cadam, gydag wyth ochr i bob un, yn onglau muriau'r ddwy ran gyntaf ac o doeau'r tyrau hyn ymwthiai tyredau bychain yn wirion, fel bys bawd ar ben eich troed pan fydd y bysedd eraill wedi cau'n dynn.

'Paid â bod yn grinc,' meddai Nel yn closio ato fo ac yn sychu tamad o lwch o'i foch hefo bys sidanaidd.

Roedd siâp anarferol iddo, yn denau a chul fel bys ychwanegol, heb unrhyw dro yn y cymal cyntaf.

Mae llaw'r mwnci wedi colli'r gallu hwnnw gan ei bod bellach wedi hwyhau neu ymestyn a hynny drwy ei gyson ymhel â chrogi ar ganghennau coed, a bellach ni all blaen y fawd a blaen y bys bach gyffwrdd â'i gilydd fel yn hanes dyn.

Trawsant ddawns werin nwyfus Pwt ar y Bys.

Os taenwch yr ewyn yn wastad ar eich bys fe welwch greadur bach melynwyrdd yn llechu ynddo, larfa pryfyn eithaf cyffredin, llyfant y gwair.

Mae'r ateb, bid sicr, yn gymhleth, ond dyma geisio rhoi bys ar o leiaf rai o'r ffactorau.

.!" Defnyddiodd ei bys bach wedyn i durio'r Huwcyn Cwsg o gil ei llygaid.

I gychwyn mae Harri'n pwyntio bys at wendidau ei dadleuon, ond yn fuan iawn, ac yn gymharol ddibaratoad, mae Harri'n eu llyncu - nid oherwydd cadernid y dadleuon a gyflwynir, fe awgrymir, yn gymaint ag oherwydd cyfaredd dwy lygad dywyll Gwylan!

A dyna lle'r oedd yn sefyll ar lethr uchel yn edrych ar y graig anferthol a safai fel bys mawr ar ochr y cwm.

mae yna sþn fflat yn mynd arni fel cacwn mewn bys coch.

Fe'i daliodd o flaen y gynulleidfa rhwng bys a bawd, a chyhoeddi, 'Ma' 'na ddigon yn y potal bach yma i lladd chi i gyd!' Er cywilydd imi, ni allaf ddwyn i gof beth oedd y meddyg yn ceisio'i brofi yn y bregeth honno, dim ond i'r ffiol fygythiol gadw pawb yn bur effro o hynny ymlaen.

Dywedai gofio yn iawn i Mrs Williams roi gwiniadur ar ei bys a rhwbio gyms y ferch fach.

Roedd y dorf yn gyfarwydd iawn ar gân Bys Yn Dy Glust ac yn heidio i flaen y llwyfan.

Rhowch nodwydd sych, neu'ch bys sych ar y haenen sebon ac mae'n debyg fe'i gwelwch yn torri.

'Mae'r gwir yn lladd, tydi?' edliwiodd Nel a dyma hi'n estyn ei braich allan ac yn gwthio pen ei bys i ganol ei fol oni chollodd ei gydbwysedd yn llwyr a chwympo'n glewt ar lawr a'i helmet las a'i lyfryn yn fflio ar chwâl i ganol y lôn.

Bys bach ar y deuddeg, bys mawr ar y chwech.'

Mae Bys a Bawd, sy'n fusnes teuluol a sefydlwyd ym 1955, yn arbenigo mewn llyfrau Cymraeg a Chymreig ac yn fusnes sy'n hollol ymrwymiedig i'r iaith Gymraeg a'i diwylliant.

Mewn unrhyw wlad arall, mi fuasai Bholu yn y jêl am wneud yr hyn a wnaeth, ond doedd neb yn meiddio rhoi bys arno yn y Punjab.