Y Dywysoges Namotto a roes y syniad iddo ar amser cinio un diwrnod pan oeddynt yn mwynhau pryd o wynwyn wedi'u stwffio a chaws llyffant a dail criafol mewn mel gyda saws o neithdar bysedd y cŵn drostynt.
Ychydig flynyddoedd yn ôl fe fydden nhw ar flaenau bysedd y myfyrwyr.
Y mae ôl bysedd ei ffydd ar waith y bardd fel ar waith y gwyddonydd a'r ysgolhaig mwyaf cytbwys.
Bysedd a'i rhybuddai i fod yn llonydd ac i gofio bod llygaid y Gwylwyr ym mhobman.
'Roedd EJ eisoes yn y gwely yn chwyrnu'n dawel, a Debora yn ei llofft yn cysgu, ei bawd yn ei cheg fel arfer, a bysedd y llaw arall yn cydio'n dynn mewn darn o siol dreuliedig.
Un flwyddyn cofiaf fod y ddau ohonom wedi canu ar y llwyfan gyda'n bysedd yn ein clustiau rhag i ni glywed y llais arall.
Mae rhai yn llwyddo, ond caiff eraill eu dal am fod arlliw o'r staen i'w weld o dan ewinedd eu bysedd.
A Thydi a greodd ryfeddod corff ac ymennydd dyn, gyda'i gelloedd dyfeisgar, curiad cyson y galon a cherddediad bywydol y gwaed, doniau bysedd a threiddgarwch clust a llygad.
Yn sicr mi fyddwn ni yn chwarae caneuon Bysedd Melys yn aml iawn ar Gang Bangor gan eu bod yn meddu ar swn aeddfed iawn a chaneuon syn gofiadwy.
'Peidiwch â dodi'ch bysedd yn nhyllau'r plwg trydan', er enghraifft.
Mae Gwenallt yn archwilio pynciau fel natur pechod yn yr awdl, ond cythruddwyd y beirniaid gan y disgrifiadau agos-at-yr-asgwrn o ryw a geid ynddi, yn enwedig mewn llinellau fel 'Ar hyd ei blows biws rhedai blys bysedd'. Galwyd yr awdl yn 'bentwr o aflendid' gan John Morris-Jones.
Gwyrodd drwy'r ffenestr, gwlychu ei bysedd â'i thafod ac estyn ei llaw.
Tynnwyd ei llun a chymerwyd argraff o'i bysedd.
Biti bod yr hen wraig mor fusgrell, oedd sylw trist gwþr y pentref, wrth ddychmygu symudiad bysedd Morfudd dros eu cyrff hwythau.
Yr hyn i'w gofio yw y gall prynu annoeth olygu eich bod yn llosgi eich bysedd yn ariannol a'ch bod hefyd yn difetha eich gwyliau os nad yw'r garafan yn ateb eich gofynion personol chi.
Ymhell cyn cyrraedd y gwaelod 'roedd llinynnau'r coesau'n tynnu a gwasgu, a blaen bysedd traed yn swp yn nhu blaen ein sandalau.
Ond dull y Siapaneaid ydyw estyn y fraich allan, dal cledr y llaw i lawr, ac amneidio â'r bysedd yn unig.
Mae gêm pi-po fel'ma wastad yn mynd lawr yn dda gyda'r plant bychan o tua blwydd a hanner i fyny ac mae'r llyfrau clawr caled yma yn llawn digon cryf a chadarn i wrthsefyll bysedd bach yn tynnu i bob cyfeiriad.
Llenwai'r planhigion y lle; roedd fforest ohonynt, gyda dail ffiaidd, cnawdol a choesau fel bysedd dynion marw newydd gael eu 'molchi.
Blas chwerw sydd iddynt, a theimlad sebonllyd wrth i chwi eu rhwbio rhwng eich bysedd.
Roedd 'i fraich dde'n estyn o'i flaen e a'r bysedd fel pe baen nhw'n crafangu am rywbeth, a'r bawd yn sefyll yn syth i fyny.
Taenodd ei bysedd dros ei rudd a chusanodd ef yn ysgafn, ysgafn ar ei wefus.
Yna, rhedodd y ddwy eu bysedd esgyrnog i lawr y rhestri swynion, yn gyntaf y rhai'n dechrau â'r llythyren 'A'.
Rhaid, drwy gyffyrddiad y bysedd ar y lein, ddychmygu taith y plu ar y blaen llinyn, a thrwyddynt gyfieithu pob cyffyrddiad ac ystum o'u heiddo yn ddarlun o'r hyn sy'n digwydd yn y pwll.
iv) Defnyddiwch yr handlenni i gau drorau rhag i chwi binsio eich bysedd v) Peidiwch byth â gadael drorau ar agor os na fyddwch chi yn eu defnyddio ar y pryd.
Yr heddlu yn defnyddio dull newydd o ganfod troseddwyr, olion bysedd.
Mae bysedd y cloc yng nghwt yr injan yn llynydd, ac mae'r tþ mawr, a fu unwaith yn lle ysblennydd gyda'i stablau a'i dai allan, yn dadfeilio'n urddasol ...
Bysedd Melys ydy enw grwp newydd syn dod o Fôn - ac yn ôl yr aelodau does yna ddim arwyddocâd i ystyr yr enw.
Safai chwe thþr cadam, gydag wyth ochr i bob un, yn onglau muriau'r ddwy ran gyntaf ac o doeau'r tyrau hyn ymwthiai tyredau bychain yn wirion, fel bys bawd ar ben eich troed pan fydd y bysedd eraill wedi cau'n dynn.
Mae'n angenrheidiol i chwaraewr sicrhau bod blaen bysedd ei fenygyn cyffwrdd â'r ddaear ac yn pwyntio at y lle mae ei dîm yn eistedd pan fydd yn cychwyn allan i fatio.
Ond tra oedd Llanelli yn dal yn y gêm wrth flaene eu bysedd, cafodd y cwbwl ei wyrdroi gan un symudiad cryf gan y blaenwyr, a Tommy David yn arddangos ei fedr a'i gryfder wrth garlamu dros linell gais Castell Nedd i sgori pedwar pwynt.
Teimlodd Llio ei chalon yn peidio 'a churo, ei bysedd a'i thraed yn ddiffrwyth a hithau'n ysgafn ei chorff ac yn teimlo ei bod yn codi uwchlaw y gwely.
A'r môr yna wedyn, yn cropian i fyny'r traeth yn ddireidus i gosi bysedd eich traed a gwneud i chi hel eich paciau i rywle arall.
Buasai llawer ohonom yn y Blaid Lafur am flynyddoedd, a bodau gwleidyddol oeddem hyd flaenau'n bysedd, ac yn anad unpeth, deallem mai â grym y mae a wnelo gwleidyddiaeth, a dyna wers nad yw'r Blaid Lafur erioed wedi ei hanghofio.
Bysedd hirion, cryf oedd ganddi, yn llyfn fel bysedd merch ifanc, ac yn llawn rhyw.
Felly, gan groesi bysedd, dyma gychwyn ar ein gwyliau.
Gweld urddas a balchder rhai o'r cenedlaetholwyr yn wyneb caledi ail-enedigaeth gwlad; sylwi ar siacedi lledr a bysedd modrwyog cyfoethogion y farchnad ddu; clywed recordiau Americanaidd yn dôn gron ddiddiwedd ar radio gyrrwr ein car.
Siapiodd ei bysedd medrus sgwariau o ddefnydd a'u troi yn rhosynnau sidan fel rhai byw a phennau blodau lliwgar tra'n siarad am yr hobi cyfareddol hwn.
"Pethau celyd a llymion a ddywedid flyneddau yn ol yn y Seren am yr eglwys wladol, ac wele wr Llen tan yr enw 'Gwr lleyg', a ddaeth i'r maes yn rhyfeddol hyf a gorchestol i'w amddiffyn; ond cyn pen hir efe a ddychrynodd ac a synodd, a ofidiodd ac a gywilyddiodd, ac a ddiangodd, gan rym ei wrthwynebwyr, a'r holl edrychwyr yn chwerthin, a'r holl eglwyswyr yn cnoi penau eu bysedd".
Heb air o ddiolch i'm brawd am fod mor graff, symudodd y gwrachod eu bysedd yn ôl i'r golofn ar ymyl y ddalen.
Yna dechreuwyd a pharatoi bwydydd cyfleus poblogaidd megis teisennau briwgig, bysedd pysgod a selsig.
Deudwch y dowch chi." Teimlwn ei bysedd byrdew yn cydio yn fy mraich a'i gwasgu.
Fe gwrddais â'r pothelli â'm bysedd noeth er mwyn dangos eu nodweddion.