Mae hyn yn rhyfedd, oherwydd fod y rhan fwyaf o bobl yn byw yn y dref a dim ond tri y cant yn cael bywoliaeth o'r tir.
Y mae hi'n medru ennill ei bywoliaeth ac yn byw bywyd cwbl normal.
Y mae lle i dybio iddo gael bywoliaeth Mallwyd un ai trwy ddylanwad yr Esgob Morgan neu yn rhodd ganddo ychydig cyn iddo farw.
Lle digon diffaith oedd Nant y Gors a'r sôn oedd mai crafu bywoliaeth a wnâi Ham, ond ni welais i erioed neb hapusach.
Mae'r ddwy bennod gyntaf yn egluro'r newidiadau economaidd, cymdeithasol a thechnegol - lawn bwysiced â dyfodiad teledu lloeren oedd yn gwneud gwasg Gymreig yn bosib, a bywoliaeth fel newyddiadurwr yn barchus os nad llewyrchus (efallai mai fel arall yn union mae hi heddiw).
Mae'n swnio'n ffordd ddelfrydol o wneud bywoliaeth.
Roedd sawl un ohonynt wedi bod yn ennill ei bywoliaeth ynghynt fel gwniadyddes neu yn gwasanaethu fel morwyn.
Efallai fod rhyw gymaint o ddrwgdeimlad eisoes rhwng Evan Meredith a Morgan, gan fod ail ŵr Catrin, Oliver Thomas, yn frawd i chwaer-yng- nghyfraith Meredith, Seina wraig Morris Meredith o'r Lloran Uchaf yn Llansilin, a bod y teulu yn amau ei bod hi wedi ei briodi yn ei henaint er mwyn ei arian; hefyd yr oedd nai Evan Meredith, Edward Morris, wedi chwenychu ficeriaeth Llanrhaeadr ar ôl Oliver Thomas, er mai at y gyfraith fel bywoliaeth y trodd yntau'n ddiweddarach.
Unwaith inni weld sut un ydyw a'r math o anawsterau y mae'n eu hwynebu yn feunyddiol wrth geisio crafu bywoliaeth yna daw yn gyfaill inni, neu o leiaf yn rhywun sydd oherwydd ei ymdrech i gael dau ben llinyn ynghyd yn haeddu ein cydymdeimlad a'n cymorth.
Gan fod marchnad iddynt yr oedd llaweroedd o bobl yn cael bywoliaeth o werthu cwningod bywoliaeth eithaf bras mewn rhai achosion - ac yn naturiol, nid oedd y clwyf yn achos llawenydd i'r rheini.
Mae wrthi yn y tū byth a hefyd yn ogystal â gweithio pedair awr y bore am dridiau bob wythnos mewn siop gyfagos er mwyn helpu i ennill bywoliaeth a gwneud y cyfri rywbeth yn debyg i'r hyn ydoedd.
Bydd llawer o'r bobl sy'n ennill eu bywoliaeth drwy hedfan yn gwisgo swynion i'w cadw'n ddiogel.
Enillai'r mwyafrif llethol ohonynt eu bywoliaeth drwy drin y tir a bugeilio gwartheg neu ddefaid.
(Ni allaf gofio eu henwau) ac roeddent yn eithriadol o lan, ac fe arferent wneud eu bywoliaeth wrth werthu "bara peilliad" neu "muffins", a byddai mynd mawr arnynt yn yr ardal.
Doedd ond ychydig o aelodau, dim ymgyrch aelodaeth, a dim prês, ac yr oedd yn rhaid i'r aelodau ennill eu bywoliaeth.
Wyddwn i ddim am ffordd o wneud bywoliaeth ar wahân i farchogaeth ceffylau yn gyflym dros bob math o rwystrau, a doedd hi ddim yn job y gallai neb ei gwneud os nad oedd ei galon yn y gwaith.
Mae cefn gwlad wedi newid yn llwyr, mae pobl yn mwynhau'r un moethusrwydd a phobl y trefi, a lleiafrif bellach sy'n byw yn y wlad sy'n uniongyrchol dibynnol ar y tir am eu bywoliaeth.
I'r graddau hyn y mae hanes y plwyf hwn yn adlewyrchiad o blwyfi eraill Cymru yn eu hymdrechion i ennill bywoliaeth yn y ddau fyd.