'Paid â suddo i lefel y cachgi.
Meddwl oeddwn i fod pobl 'run fath â ti, rwyt ti'n gweld, bob amser i'w cael mewn tai bach - cachgi yn y cachdy, fel petai.' 'Mae'n ddrwg 'da fi nad oes gen ti ddim byd gwell i'w wneud, Gary, na'm dilyn i o gwmpas y lle, ond mae gen i.' Gwyddai Dilwyn ei bod yn rhaid iddo gadw'i dymer, beth bynnag a ddywedai'r cythraul hwn.