Felly byddai person arall efallai yn dewis cadair gwthio-a-llaw a dal i ddibynnu ar gymorth personol.
"Dydi adeiladau gwaith yn aml ddim yn addas o gwbwl ar gyfer yr anabl, yn arbennig os ydach chi mewn cadair olwyn," meddai.
Cofio wedyn ei gyfarfod yn ei swyddfa ddiaddurn yn Llundain ac yntau'n eistedd mewn cadair â'i lledr wedi rhwygo.
Eisteddodd Therosina mewn cadair gyferbyn ag ef.
Yma, mewn man gwag yn cynnwys fflagiau siâp hecsagon, taenwyd hen ryg Twrcaidd coch ar lawr ac ar y ryg roedd cadair olwyn, ac yn y gadair olwyn roedd gŵr oedrannus, yn amlwg yn darfod, yn ein gwylio ni'n dod gyda llygaid du y diffoddwyd yr holl dân ynddynt ers amser maith, ond a gynhwysai o hyd uniongyrchedd glo-ddu y llygaid yn y darlun a grogai uwchben y silff ben tân yn y cyntedd.
Er enghraifft, byddai rhai pobl yn dewis cadair olwyn beiriant gan ei bod yn cynnig mwy o hyblygrwydd a rhyddid i symud na chael eich gwthio mewn cadair efo llaw.
a) Cadwch holl goesau/ olwynion eich cadair ar y llawr.
Eisteddai mewn cadair fel hen gadair deintydd a chlampiau cryf am ei draed a'i freichiau.
Yn y dre, mi aethon nhw i siop fawr a phrynu pump cadair newydd a phump gwely newydd.
Yfory, bydd Tanni Grey-Thompson yn cystadlu am ei phedwaredd medal aur yn y rasys cadair olwyn.
Cadair Morgannwg a Gwent
Wnaeth yr un ohonon nhw erioed awgrymu y dylwn ddefnyddio cadair olwyn.
Ryw ddiwrnod dyma hi'n galw arnaf wrth fy enw ac yn fy ngorchymyn i eistedd mewn cadair uchel o flaen y dosbarth i ddweud stori.
Os ydi cynhyrchydd yn dweud 'Dwi isio cadair yn fama', rydach chi'n deud 'Pam?' Mae o neu hi'n deud wrthoch chi; iawn, dyma'r fath o gadair wnawn ni'i rhoi - oherwydd mae hi o fewn yr iaith weledol o'n i'n sôn amdani gynnau...
cynnal (hynny yw, offer technolegol megis cadair olwyn, neu ofal personol megis helpwr) fe allwch ennill annibyniaeth.
un, dwy, tair, pedair, pump cadair.
Ceir tetsun pob Cadair a Choron ynghyd a manylion o'r beirniaid, yr enillydd, cerdi gwrthodedig ac ymateb a dadansoddiad Alan Llwyd o'r testun, y cerddi, a'r beirniaid.
Pleser oedd canfod fod yma ddarpariaeth ar gyfer athletwyr cadair olwyn.
Rhaid i chi gael pump cadair yn lle un gadair.
Enillodd hi'r râs gan metr cadair olwyn ddoe.
Ac yn y fan fawr roedd pump cadair, pump gwely, pump beic, a phump cwpan mewn bocs.
Anerchodd Iolo Morganwg y Beirdd hefyd gan ddweud mai 'Trefn Beirdd Cadair Morganwg y sydd fel hyn yn un peth canu a dangos o flaen cadair rai Cywyddau, Englynion ac awdlau, yn ôl yr hen Gelfyddyd fal y peth mwyaf effeithiol i gynnal yr iaith Gymraeg, yn hyn o bethau rhaid yw gwybod y rheolau yn benigamp .
* pa mor gyfforddus ydi o i bobl efo'ch math chi o amhariad; * a ellid ei ddefnyddio'n hawdd ar gyfer gweithgareddau megis, er enghraifft, chwaraeon neu ddawnsio cadair olwyn; * faint yw ei bwysau a pha mor hawdd y gellir ei godi i mewn a'i storio yn eich car; * pa mor hawdd y gellir ei symud ar wahanol wynebau; * pa ddewis mewn lliwiau a defnydd sydd ar gael.
Gan mai yn enw Cadair Morgannwg y cynhaliwyd yr orsedd gyntaf, sef gorsedd Llundain, priodol felly yw agor yr hanes trwy sôn yn gyntaf am orseddau cynnar y Gadair honno yn Llundain ac ym Morgannwg ei hunan.
Yn ddefnyddiwr cadair olwyn, bu'r cyn-athro o Ddwyran, Ynys Môn, yn ddiwaith am gyfnod hir cyn cael swydd - gan weithio o'i gartref - yn trefnu cludiant i bobol anabl eraill sydd heb ddefnydd car.
Tu draw iddynt yr oedd coesau hir mewn trowsus du, rhesog, hynod barchus, a thu draw i'r rheini wedyn, mewn hanner cylch o galedwch cadair swyddfa, weddill corff yr anfarwol Ap Menai.
Cynhelid gorseddau gan ddilyn y defodau a arferid gan Iolo Morganwg yn ei orseddau cynnar ac, yn unol â'i gyfarwyddyd, yn enw Cadair neu Dalaith arbennig gan amlaf, ac o leiaf dri pherson lleol a oedd eisoes wedi'u hurddo'n Feirdd yn llywyddu'r gweithgareddau.
Cychwynnais o'r ty yn Nhalyllyn wrth droed Cadair Idris yn fy Awstin Mini ben bore a theithio dros Ddylife a'r Epynt dros Fannau Brycheiniog a thrwy'r Hirwaun a Mynydd Rhigos.
Sci dchown dder, chiw, go chyp chon ddy lifft!" Rwan nid cadair oedd yn fy nisgwyl ond polyn hir o'r awyr a mymryn o fotwm ar ei waelod - i eistedd arno - debyg!
Weithiau yn unig y cawn iddo arfer y gair 'Cyfoeth' am 'Dalaith', ond y gair a ddefnyddiai gan amlaf yn ei drafodaethau ar y drefn farddol oedd 'Cadair'.
Yr oedd Nain Fawr yn eistedd mewn cadair freichiau ddofn, ac yr oedd Anti yn ei holi am yr amser gynt.
Ar yr ochr arall i'r lle tan yr oedd cadair freichiau, ac yn honno yr eisteddai hi i ddarllen.
Am ei fod mor gyndyn o ddefnyddio cadair olwyn roedd yn cael ei ynysu fwyfwy yn gymdeithasol ac roedd llai o gyfle ganddo i gael mynediad i'r gymuned.
Nid dim ond cyfle ydi cadair i actor eistedd i lawr, gan ddibynnu ar ba fath gadair ydi hi, mae hynny'n dweud rhywbeth wrthym am y cymeriad.
Eglurodd fod i Feirdd Ynys Prydain gynt bedair Cadair - Gwynedd, Powys a Dyfed a Morgannwg - ac er mwyn pwysleisio rhagoriaeth hanesyddol Morgannwg a'i statws unigryw ef ei hunan honnai'n gyson mai Cadair Farddol Morgannwg yn unig oedd wedi goroesi i'w gyfnod ef.
Mae un, dwy, tair, pedair, pump cadair.
Ychwanegodd Elan Closs Stephens, Cadair S4C: "Canmolwyd Chwedlau Caergaint yn fawr dros y Nadolig.
Am flynyddoedd mi roedd yno - cadair siglo ddigon cyffredin, yn tynnu sylw neb.
Croesawyd y rhodd o bedair cadair olwyn gan y Ganolfan Gofal Iechyd yn Llanelwy; mae'r pedair cadair bellach yn cael eu benthyg yn helaeth o bob un o'n pedair swyddfa.
Am fethu â chael cadair gyfforddus i chi.
Y bore yma enillodd y râs 400 metr cadair olwyn i ychwanegu at ei medalau aur yn y rasys 100, 200 a'r 800 metr.
Safai pedair cadair uchel â chlustogau lliwgar arnynt ar y llwyfan.
Ond ni allai hi wneud dim gan ei bod mewn cadair olwyn.
Heddiw enillodd y râs 200 metr cadair olwyn.