Diben yr ymchwil oedd cynorthwyo'r Bwrdd i ddatblygu strategaeth farchnata ar gyfer yr iaith Gymraeg a allai gynnwys strategaethau cyffredinol i feithrin agweddau cadarnhaol tuag at yr iaith, ac i annog pobl i'w defnyddio.
Dyma, o bosibl, un o agweddau mwyaf cadarnhaol athroniaeth Gadaffi.
Ein dadl sylfaenol yw fod angen gweld ysgolion bychain yn asedau cadarnhaol yn y broses o adfer cymunedau pentrefol yn hytrach nag fel problemau.
Y mae meithrin sgiliau dysgu ac agweddau cadarnhaol yn rhywbeth sy'n digwydd dros gyfnod hir ac y mae'n dibynnu ar eich personoliaeth, eich hanes personol a'ch profiad o weithio gyda disgyblion, cydweithwyr a thiwtoriaid.
Ar ddiwedd y flwyddyn, dangosai disgyblion yr arbrawf agweddau a oedd yn arwyddocaol fwy cadarnhaol tuag at ddysgu Ffrangeg na rhai'r grwp rheolaeth.
Mae'r pwyslais ar werth cadarnhaol cenedlaetholdeb cydweithredol a chreadigol yn un i'w ganmol.
Roedd agweddau mwy cadarnhaol disgyblion yr arbrawf yn cael eu hamlygu ar draws yr ystod gallu.
Er gwaethaf y gofid ynghylch colli 73 o swyddi'r wythnos yn y byd amaethyddol a'r colledion pellach ym myd cynhyrchu, cafwyd arwyddion cadarnhaol.
Bu agwedd Awdurdod Addysg Caerfyrddin yn fwy cadarnhaol tuag at ysgolion gwledig, gan hybu strategaeth newydd o gael ysgolion gwledig i gydweithio a'i gilydd mewn clystyrau.
Fel hyn, bydd ysgolion yn cadw at ofynion y gyfraith ond hefyd yn datblygu mewn modd cadarnhaol, gan 'ddod rownd' un gofyniad statudol arall eto nas lluniwyd gydag ardaloedd gwledig mewn golwg.
Prif bwrpas y cwrs yw eich paratoi i fod yn athrawon da a meddylgar a'ch cychwyn ar eich gyrfaoedd proffesiynol ag agweddau cadarnhaol.
Ni fyddai'n dderbyniol i'r Pwyllgor petai'r prosesau cadarnhaol hyn yn cael eu llesteirio.
Unwaith eto, yn yr holl gyhoeddiadau a datganiadau cadarnhaol o du'r Llywodraeth a'r Grwp, mae'r bwganod oesol 'Rhesymol ac Ymarferol' yn codi eu pennau.
Nid cred negyddol yw hon, ond yn hytrach sylfaen i ddull cadarnhaol ac ymosodol o weithredu.
Dyma arwydd glir o sut i gymeryd cam cadarnhaol i sicrhau parhad yr iaith Gymraeg - rhoi statws cynllunio i'r iaith Gymraeg, gan wneud hyn yn ffurfiol, ac yna mynd ati i ymchwilio i gyflwr yr iaith Gymraeg ym mhob cymuned.
Ochr yn ochr â'r agweddau cadarnhaol a adlewyrchir uchod, mae rhai o'r canlyniadau'n dangos fod sawl her yn dal i wynebu'r iaith.
Ar rwydwaith, o ganlyniad i gydweithrediad gyda chynhyrchydd annibynnol, ailgomisiynwyd y ddrama i blant, The Magicians House, a chafwyd arwyddion cadarnhaol yn Jack of Hearts a Dirty Work. Gwelwyd datblygiad ardderchog mewn genres eraill hefyd, gan gyflawnir nifer uchaf erioed o gomisiynau rhwydwaith ar gyfer radio a theledu ym 1999/2000.
Ar nodyn mwy cadarnhaol - bydd cyd-chwaraewr Jones yng Nghaerlyr, Robbie Savage, yn gobeithio chwarae yn erbyn Manchester City wythnos nesa.
Mae'n rhaid, felly, feithrin agweddau cadarnhaol ymysg cyrff a phroffesiynau ledled Cymru a thu hwnt o ran hybu defnydd cynyddol o'r iaith.
Yr oedd Pwyllgor Ymgynghorol ar Faterion Staff wedi cyfarfod â chynrychiolaeth o'r Cyngor, ynghyd â swyddogion a chynrychiolwyr o'r undeb y diwrnod blaenorol, lle cafwyd cyfarfod cadarnhaol.
Cyfarfod cadarnhaol â Win Griffiths, Llefarydd y Blaid Lafur ar Addysg yng Nghymru.
Y gorau y gellir ei obeithio ydyw y bydd i ddynion gael amcanion cadarnhaol - llesa/ u eu gwledydd eu hunain a gwledydd eraill, yn lle ymladd.
Caf gyfle eto i gyfeirio at rai o'r prosiectau arbennig sydd gennym ar y gweill yng Nghwm Gwendraeth sydd yn ceisio meithrin agweddau cadarnhaol tuag at yr iaith ar ddiwedd y cyflwyniad hwn.
Ond os ydym yn anelu tuag at Gymru sy'n gynyddol ddwyieithog dylid ceisio meithrin agweddau cadarnhaol tuag at ddwyieithrwydd drwy sicrhau fod pob plentyn sy'n derbyn addysg feithrin yn cael blas o'r Gymraeg fel rhan o brofiad addysgol cynnar.
cyflogedig i osgoi peryglon ac i gyfrannu mewn modd cadarnhaol at eu hiechyd a'u diogelwch eu hunain yn y gwaith, gan gynnwys darparu dillad gwarchod personol addas.
Mae ymddygiad disgyblion a'u hagwedd at waith yn dda a chaiff y rhain ddylanwad cadarnhaol iawn ar safonau cyflawniad.
Er nad yw'n syndod fod Kate Roberts wedi penderfynu peidio ag estyn hanes Traed mewn Cyffion y tu hwnt i'r Rhyfel, mae yna wedd fwy cadarnhaol ar y cwestiwn o gyfnod yn y nofel.
Ond mae hyn yn enghraifft berffaith o'r angen i ymateb i'r her a chreu trefniadau cadarnhaol newydd i alluogi ysgolion pentref i gyflawni eu gorchwylion yn effeithiol.
Ar ôl dychwelyd i'r Almaen, ceisiais sgrifennu'r erthygl gytbwys a oedd gennyf mewn golwg, ond rywsut ni fedrwn gysylltu'r pethau cadarnhaol a wyddwn am yr Almaen, fy mamwlad, gyda'r hyn a oedd yn digwydd o'm cwmpas bob dydd.
annog darlledwyr a gwneuthurwyr rhaglenni i bortreadu delweddau cadarnhaol tuag at ddefnyddio'r iaith.
Fel rhan o gyfraniad cadarnhaol S4C i fywyd ieithyddol, diwylliannol ac economiadd Cymru, mae 95% o'r gyllideb raglenni yn cael ei gwario'n uniongyrchol yng Nghymru gan greu swyddi a chyfrannu at ffyniant economaidd y wlad.