Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cadfridog

cadfridog

Fel ym mhob brwydr, rhaid i'r cadfridog doeth ymosod ac amddiffyn yn dactegol, a rhaid iddo drefnu ei fyddin yn y fath fodd, fel bod ei filwyr yn ymosod ar y mannau gwan yn amddiffynfa'r gelyn.

Gallai Horton ddeall agwedd ddigyfaddawd y Cadfridog Cromwell tuag at y bradwyr hyn.

Arweinydd milwrol, bid sicr, a phennaeth ar fintai o ymladdwyr symudol a gwibiog, ond nid cadfridog yn gwasanaethu gwladwriaeth sefydlog a threfnus; yn hytrach, anturiwr, treisiwr, ysbeiliwr, yn ymladd nid yn unig yn erbyn y Saeson ond hefyd yn erbyn ei gyd-Frythoniaid.

Meddyliais y gallai hwn fod yn daid i'r Cadfridog Sternwood.

Siaradodd y Cadfridog eto, yn araf deg, gan ddefnyddio ei nerth mor ofalus â dawnswraig ddi-waith yn defnyddio ei phâr olaf o sanau gorau.

Honnodd un cadfridog eu bod wedi llwyddo fwy nag unwaith i lanio timau bychain o filwyr yng Nghuba er mwyn llosgi cnydau siwgr a llofruddio swyddogion llywodraethol.

Safai'r bwtler o'i flaen a dywedodd: "Dyma Mr Marlowe, Cadfridog." Ni symudodd yr hen ŵr, na siarad nac amneidio hyd yn oed.

Hanner caeodd y Cadfridog ei lygaid.

Nid yw'r gosodiad yn gwbl eglur, ond y dehongliad a roddir arno'n gyffredin yw nad brenin oedd Arthur ond cadfridog o athrylith yng ngwasanaeth y brenhinoedd.

Oes 'na bosib i mi gael un cip bach arni ar ôl cyrraedd Karachi?" Gwenodd y Cadfridog.

Meddai'r bwtler yn ddifynegiant: "Fe wêl y Cadfridog chi yn awr, Mr Marlowe." Gwthiais fy ngên i fyny oddiar fy mrest ac amneidio arno.

Cytunai ef nad brenin oedd Arthur ond cadfridog yng ngwasanaeth brenhinoedd y Brytaniaid.

Aeth i mewn iddi nid fel cadfridog ar gefn march rhyfel ond fel gwas ar gefn asyn, arwydd o'r fath o oes fesianaidd y buasai Iesu'n ei chyhoeddi o'r dechrau.

Aeth Kamel â mi gerbron y Cadfridog.

Go brin mai'r Cadfridog ei hun ydoedd, er fy mod wedi clywed ei fod yn tynnu 'mlaen dipyn i fod yn dad i ddwy ferch a oedd yn dal yn eu hugeiniau peryglus.