Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cadwai

cadwai

Gan ei bod yn gyfnod o ryfel, ein llwyddiant fel myfyrwyr meddygol yn unig a'n cadwai o'r lluoedd arfog.

Cadwai nhw mewn bocs pren gyda'i drysorau eraill: darlun brown a melyn o'i gariad cyntaf, y llythyrau a anfonodd ati a'i hances lês.

Roedd tŷ'r gweinidog -Bodathro, fel y gelwid ef - yn ffermdy, mewn gwirionedd, gyda nifer o dai allan, gardd a pherllan fawr lle y cadwai ei dad nifer o ieir.

Cadwai'r bocs o'i flaen ar y bwrdd nes gorffen yr uwd.

Cadwai yr ardd yn hynod o dlws, blodau o bob lliw ymhobman, y rhosys yn gorchuddio'r wal oedd yn dal y tir yn ei le, a choed acacia a blodau gwyn a phinc.

Rhoddodd gychwyn i do ar ôl to o blant, ac yno y dysgais i'r llythrennau, oherwydd yr oedd yr wyddor ar y wal, a gan fod Miss Roberts yn tynnu ymlaen mewn dyddiau, cadwai at yr hen drefn o ddysgu plant i ddarllen yn yr Ysgol Sul.

Cadwai Achilles draw o'r frwydr am na châi'r gaethferch groenwen; dug y bugail bradwrus Helen dros y môr gwineuddu i gartrefi Pergamos, a gorfu iddo, am ei weithred, gnoi'r pridd a llychwino ei lywethau godinebus yn y llwch; bwriodd ymerawdwyr ymaith eu teyrnwiail a'u coronau, esgobion eu hesgobaethau a dynion eu clod, eu cyfoeth a'u rhinweddau er mwyn cael syllu ar yr wyneb "a fedrai ddwyn eilwaith yn ôl i'r byd eilun-addoli%.

Ar y dydd Mercher, ni allai'r tad ddod o hyd i allwedd y bocs lle y cadwai ei lyfr banc.

Annibynnwr oedd ef, ond ni wnâi hynny lawer o wahaniaeth yn yr oes honno; cadwai brodyr un enwad lygad barcud ar weithgarwch y llall.

Cadwai'r bobl geffylau a gwartheg, defaid a chŵn, ac arferent drin rhyw ddarn o dir cyfleus yn agos i'r ddinas a chodi ŷd arno.

Cadwai olwg ar y datblygiadau diweddaraf ym Mhrydain ac Ewrop trwy gylchgrawn The Studio a thrwy bicio i Lundain yn aml i weld arddangosfeydd.

'Roedd Pengwern yn ŵr tra defosiynol; cadwai y morning watch a pherthynai i gadwyn weddi oedd yn estyn i bellafoedd India.

Trachwant am dderbyn rhoddion a'i cadwai yno, medd Sion, ac nid ei hoffter o'r abad.

Cadwai'r cŵn mor agos ato ag y gallent gan wthio'u pennau yn ei erbyn fel pe byddent yn ei helpu i fynd yn ei flaen.

Ar y llaw arall cadwai rhai gweinidogion ysgolion, megis y gwnaeth Roger Howells yn y Baran uwchben Cwmtawe yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Cadwai ddarlun yn ei stydi o'r gofeb fawreddog i goffa/ u'r Diwygwyr yng Ngenefa a mynegodd y farn mewn llythyr y byddai'n rheitiach peth i bobl ifainc Cymru fynd i weld y gofeb honno ar eu gwyliau haf yn hytrach na gwagsymera ar draethau Sbaen - "lle nad oes dim byd ond tywod".

Er ei fod yn hoff o fwyd (yn lwth yn ystod cyfnod diofal ei ieuenctid), aeth o un pegwn i'r llall: cadwai at dri phryd y dydd a chyfri'r calori%au yn boenus.

Cadwai Syr John Wynn dŷ yng Nghaernarfon, canolfan weinyddol yr hen Dywysogaeth yn y gogledd, ac uchel yw ei glod i'r dref honno fel y bu tua chanol y bymthegfed ganrif.

Cadwai'r t yn lân a phrydferth, ac yr oedd ei lletygarwch yn ddiragrith i bawb a ddygid gan Abel o dan ei gronglwyd.

At hynny, cadwai'r Rhufeiniaid at y tir isel a'r cymoedd, ond yn eu dinasoedd caerog ar y bryniau uwchben y trigai'r Brythoniaid.

Efallai mai'r sŵn rhuo a'i cadwai'n ddiogel.

Cadwai'r tŷ a'r plant fel pin mewn papur.

Cadwai unoliaeth y teulu drwy ei darbodaeth a'i gallu i gadw ty da.