Gwelai hefyd ddynion yn gweithio yn y caeau.
Rydych chi'n llawer mwy tebygol o'i gweld yn crwydro caeau Pontcanna yng nghwmni Fudge ei chi, ac mae'n cyfaddef, peate'n cael ei ffordd ei hun, byddai'n rhannu ei chartref gyda mwy na Fudge a'i gwr, sy'n ddyn sain.
Un tro yr oedd yr helfa ddefaid i lawr ar y caeau isaf yn barod i swyddog o'r Weinyddiaeth ddod i'w cyfrif yn fanwl.
Ac felly, cyn i'r domen ddod i'r beudy, gwell ei symud hi, ferfâd wrth ferfâd yn rhes o dociau i'r caeau.
Unig gŵyn Caradog Huws, Caeau Gleision, ynglŷn â'r bysys oedd nad oeddynt yn cadw at yr un amser bob dydd.
Rhydd i'r deunydd hwn driniaeth y nofelydd: clywn leisiau'r bobl yn siarad; gwelwn gymeriadau unigol yn cerdded ar hyd caeau a heolydd yr ardal; ac felly deallwn hwy yn eu perthynas â'r byd yn ei agweddau cymdeithasol, masnachol, crefyddol.
Heddiw mae'r olygfa wedi newid llawer, yn lle'r caeau bach a'r mynydd a'r cloddiau cerrig shêl - mae'r 'coed duon' yn erwau ar erwau o binwydd - sbriws sitca rhan fwyaf...
Gan na wyddem beth oedd arwyddocâd y gwrthrychau simneiaidd a welem yn y caeau a'u defnyddio i'n cyfarwyddo at ben draw y twnnel, bu raid inni ddilyn y ffordd am dipyn, nes inni gyrraedd ciosg Dôl-grân Uchaf.
Dyma arafu a throi i'r chwith eto; ffordd wlad bellach, a thipyn o godiad ynddi hi, gwrychodd uchel, a wyneb y ffordd yn is na'r caeau o'i deutu.
'Mae'r caeau mâs yma yn arbennig o dda - ansawdd gwych.
Yr hyn syn ofid, yw faint o dalent sydd yna yn rhedeg yn wyllt yn y strydoedd cefn, yn y priffyrdd ar caeau.
Gwnaed cytundeb rhwng Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Gogledd Cymru â pherchennog presennol y fferm, er mwyn cynnal y caeau yn warchodfa natur.
Rhedai'r cŵn yn ôl ac ymlaen yn hapus a rhydd yn y caeau ar ôl bod yn y tŷ am hir.
Rhoddir anifeiliaid i bori yn y caeau ym mis Awst a thros y gaeaf er mwyn rheoli'r tyfiant a chynnal y tir glas ar gyfer y tegeiriannau.
Mae ffermwyr hefyd yn taenellu tail pydredig ar eu caeau.
Wrth i'r peiriannau o bob math fynd yn fwy ac yn fwy, aeth y caeau yn feysydd a diflannodd yr hen batrymau fyddai i'w gweld fel cwiltiau clytwaith wrth edrych arnynt o lethrau'r bryniau ac ambell godiad tir.
Un o nodweddion amlwg pregethwyr y cyfnod hwn oedd mai crwydriaid oeddent, yn gwneud y rhan fwyaf o'u pregethu yn y caeau neu ar y strydoedd neu mewn mannau cyhoeddus eraill yn hytrach nag mewn eglwysi a chapeli.
Ciliodd o'r caeau a'r meysydd pan drodd amaethyddiaeth at beiriannau; cafodd ei ddisodli oddi ar y ffyrdd gan y modur; a diflannodd oddi ar bonciau'r chwareli pan ddaeth y 'loco' i gymryd ei le.
Byddai'n eu marchogaeth ar hyd y caeau yn gwbl ddi-gyfrwy, a hynny'n amlach na pheidoio tra'n sefyll ar ei draed ar gefn y ferlen yn union fel dyn syrcas gan chwyrlio lasso ar yr un pryd.
Roedd peirianwyr yn gosod sustemau dŵr a charthffosiaeth tra bod rhai'n codi llwybrau neu'n clustnodi rhannau arbennig o'r caeau ar gyfer sbwriel a gwastraff.
Un bore, 'roedd Deiniol yn hwyr yn cyrraedd llidiart Caeau Gleision, a Charadog yn anesmwytho gan fod gwaith y fferm yn disgwyl.
Y broblem fawr yn y Dwyrain Canol oedd cael caeau digon mawr - ac roedd hon yn broblem ddieithr iawn i mi.
Deuai canu merched y troellau i'w chlustiau ddydd ar ôl dydd, y cyfan yn llithriad i gyfaredd caeau plentyndod, yn eli i'w hysbryd.
Yn ei angladd clywais rywun yn dweud am grŵp o ffermwyr ifainc a gafodd eu cyfareddu gan ddarlith ar enwau caeau a roesai iddynt yn ddiweddar ac a safodd ar eu traed fel un gŵr i guro dwylo iddo.
Wel, mae'r rhai o ardd gymaint yn well eu blas na'r rhai a dyfir mewn caeau.
yr oedd eira chwefror a glawogydd tros w ^ ŵyl ddewi wedi chwyddo nentydd yr ardal a chreu rhaeadrau yn hafnau 'r bryniau, a 'r cwbl yn llifo i afon afon nes ei bod hi, erbyn cyrraedd y dyffryn lle safai aberdeuddwr, yn genllif gwyllt gwyn, ar frys i gyrraedd y dolydd tu hwnt i trillwyn isa lle gallai orlifo i 'r caeau a chael ymwared a 'i ffyrnigrwydd.
`Cefais i fy ngorfodi i weithio yn y caeau reis.
Dim defaid yn unlle a'r caeau porthiant fel ynysoedd gwyrddlas wedi eu hamgylchynu gan greigiau miniog fel glasiers mewn môr o binwydd tywyll.
Tai bychain, llyn, caeau o lysiau.
Tra'n ffilmio caeau reis fe daeth menyw chwilfrydig heibio a gofyn beth oedden ni'n ei wneud.
Rhennir y llun yn dair rhan: yr awyr o amgylch y felin yn llenwi hanner y canfas, yna'r caeau llafur ar oleddf, a'r creigiau yn y blaendir a lôn yn troelli rhyngddynt.
Mae'r haul ymron diflannu ac mae rhai pobl yn dal i weithio oriau hwyr yn y caeau.
Ond mae hon yn alwedigaeth sydd ar gynnydd gydag agoriadau ar feysydd criced ar hyd a lled Prydain heb sôn am Wimbledon ac yn awr ein caeau golff.
Hon oedd un o'r siafftiau mwyaf llewyrchus ar droad y ganrif ac roedd agoriad iddi o'r tir hefyd yn rhywle yn y caeau dan Henllys Hall.
Allan yn y caeau byddai'n codi cerrig, chwynnu, hau hadau a chasglu'r cynhaeaf.
Gwelai Myrddin Tomos orffennol ei fywyd yn loyw o flaen ei lygaid, cwrs ei flynyddoedd yn eglur, fel caeau sofl tan loer y cynhaeaf.
Felly, rhaid i ddarn o dir agored ger y fynedfa wneud y tro; mae hyd yn oed edrych ar 'y caeau cachu' yn ddigon i godi cyfog.
Disgleiriai'r barrug clir ar y coed a'r caeau ac yr oedd pob man yn ddistaw ar wahân i glip-glop y ceffylau.
Mae'r amaethwr wrth reddf yn ymwybodol o'r amrywiaeth priddoedd sydd rhwng ei gaeau, ac o fewn caeau unigol.
Yn awr, rydym allan yn y wlad eto, ond y mae hi ymron yn rhy dywyll bellach i mi fedru gweld mwy na chysgodion yn symud o gwmpas y caeau.
Y mae'r caeau India-corn a siwgwr a reis yn ymestyn allan filltiroedd o'r pentref ei hun - yn wir, cyn belled a'r pentref nesaf.
Blodeua'r tegeirian prinaf yn nechrau mis Gorffennaf sef y tegeirian llydanwyrdd Platanthera chlorantha, â'i flodau gwyrdd a gwyn yn rhoi gwawr lliw hufen i'r caeau.
Beth bynnag, un noson, ac yntau wedi mynd i lawr i'r caeau i mofyn y gwartheg i'w godro (yn Rhosaeron?) ac yn myfyrio am Franwen yr un pryd - fe ddaeth 'Cofio' i fodolaeth.
Roedd y Khmer Rouge wedi ei gorfodi hi a'i gŵr i fyw ar wahân ond roedden nhw wedi parhau i weithio yn y caeau reis gyda'i gilydd.
Rhinwedd y tyddynnwr anhysbys o safbwynt llysieuwr yw na wellodd y tir ac oherwydd hyn mae'r caeau'n frith o flodau gwylltion yn y gwanwyn a'r haf; gwyn y llygad eglur, melyn y gribell felen, coch ysgafn y bengaled a choch tywyll y teim ynghyd â nifer o degeiriannau fel y tegeirian brych Dactylorhiza maculata y tegeirian brych cyffredin D.
Yn ail, mae llawer o'r rhai sydd yn y gerddi yn y Gwanwyn a'r Haf yn ei throi hi am y wlad yn y Gaeaf ac yn bwydo ar bob math o hadau, a hefyd ar weddillion y grawn yn y caeau ūd a'r gwenith Er bod y pincod i gyd yn byw ar hadau, mae pig y rhan fwyaf ohonynt yn amrywio i drin yr hadau y maent yn ei fwyta, ac i ddileu unrhyw ffraeo ynglyn â bwyd.
Iddyn nhw, trasiedi a cholled fawr bersonol ydi'r ffaith fod y baedd ar gael unwaith eto yn y wlad - a hyn oherwydd fod yr anifail yn dra hoff o datws fel bwyd, a bydd yn difetha caeau lawer o datws yngh nghysgod y nos wrth iddo chwilio am bryd o fwyd.
Gan Catrin Owan y cawn frechdan wrth ddwad adra o Ysgol Llanrhuddlad, cyn wynebu'r tair milltir trwy'r caeau am Frynteg lle'r oeddem yn byw.A dyna fyddai Catrin Owan yn ei ddweud wrtha'i bob dydd, 'Tasat ti yma ddoe mi fasat wedi cael jam arni!'.
Cerdded i fyny lôn lychlyd eto i ganol caeau.
Ymhellach i ffwrdd mae'r dolydd glas a'r caeau yd ger y felin sy'n malu'r grawn yn flawd i'w fwyta.