Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

caed

caed

Yr ydoedd proffwydoliaeth, y diwrnod hwnnw, a'i bwyntil yn argraph ar galchiad pared parlyrau y palasdai acw, - `Mene, Mene, Tecel, Upharsin!' Mene, - `Duw a rifodd eich brenhiniaeth, ac a'i gorffennodd.' Tecel, - `chwi a bwyswyd yn y glorian, ac a'ch caed yn brin.' Peres, `Rhanwyd eich brenhinaeth!' Ac erbyn hyn, y mae y broffwydoliaeth yn cael ei chyflawni mor gyflym ag sydd bosibl.

Ymhlith y straeon trist am drasiedi, camgymeriadau a gweld bai a ddilynodd y trychineb caed rhai arwrol iawn hefyd.

Erbyn dau o'r gloch y bore, caed heddwch a distawrwydd ar y groesfan.

Yn wir, caed storm enbydus a disgrifiwyd hi'n fyw iawn â'i ddawn arferol gan Penry Evans.

Caed Disco Gwisg Ffansi yno i gyfarch y Flwyddyn Newydd.

Mae gwyddonwyr modern wedi datrys dirgelwch y dynion a droes yn fleiddiaid - caed yr ateb mewn rhywbeth mor ddiniwed â gwenith, haidd a barlys.