Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

caernarfon

caernarfon

Yr oedd yr Wyddgrug yn un o ganolfannau pwysig y gweithgarwch yn y Gogledd am gyfnod, er na bu erioed mor bwysig â thref Caernarfon yn hanes y wasg Gymraeg.

preece yn eglwys hynafol llanbeblig, ger caernarfon.

O stiwdio Barcud, Caernarfon y bydd Nia a Rhodri yn cyflwyno holl fwrlwm y noson fawr gyda chynulleidfa fyw, adloniant a wynebau adnabyddus yn cymryd rhan ac yn ymuno yn yr hwyl yn ystod y rhaglen.

Llongyfarchwyd Cangen Caernarfon yn gynnes iawn ar ennill y rownd derfynol o'r Cwis Llyfrau yn Llanbedr Pont Steffan.

Yn y blynyddoedd hyn arferai aelodau Cangen Coleg y Brifysgol ym Mangor fynd oddi amgylch i werthu Y Ddraig Goch a phamffledi'r Blaid ar y strydoedd yn nhrefi a phentrefi Môn a Arfon; lleoedd iawn am farchnad oedd Caernarfon, Llangefni ac Amlwch ar nos Sadwrn.

Dylai canghennau cylch Bangor ddod a'u Llyfrau Lloffion at Delyth Murphy a changhennau cylch Caernarfon at Mary Roberts, yr Is-ysgrifennydd Rhanbarth.

Er na chyhoeddwyd pryddest 'Mab y Bwthyn' gan Cynan hyd Eisteddfod Caernarfon ym 1921, mae'n rhoi hanes yr hyn a ddigwyddodd i filwr diniwed o L^yn o'r cyfnod pan ymuna â'r fyddin hyd at ei ymateb i'r gyflafan yn ffosydd Ffrainc.

Awgrymwyd enwau Delyth Owen (Y Groeslon), Rhiannon Ellis (Caernarfon) a Luned Jones (Bethesda) i gynorthwyo Mrs Bebb Jones.

(Richard Turner, Caernarfon)

Mae hi'n ffaith ddiymwad, fodd bynnag, i Lloyd George ddatblygu ei sgiliau yn manipiwleiddio gwasg Stryd y Fflyd drwy arbrofi ar wasg Caernarfon.

Yn fab i Ioan Arfon, ac wedi'i fagu ynghanol canolfan ddiwylliannol ferw yn nhref Caernarfon, cafodd y fraint ar ran un cystadleuydd o herio'r Eisteddfod Genedlaethol yn gyfreithiol (ac ennill).

Talaith trydedd ran yr Adroddiadau yw gogledd Cymru, siroedd Môn, Caernarfon, Dinbych, Fflint, Meirionnydd a Threfaldwyn.

Cyflwynwyd Gwobrau Cerddoriaeth Roc a Phop Cymru yn y Celt, Caernarfon, gan Owain Gwilym a Beks gydag adloniant gan Topper, Y Tystion, Catsgam a'r anfarwol Dafydd Iwan.

Ganwyd ef ym Mary Street, Caernarfon, a'i addysgu yn Ysgol Sir y dref honno, gan arbenigo mewn Saesneg a Ffrangeg.

Mae gennyf rhyw frith gof fod Tom Parry, arweinydd Clwb Caernarfon, yn gweithredu fel trefnydd rhan amser ar y pryd.

Mae'n werth dyfynnu'r paragraff hwn oherwydd mae'n dweud mwy am y gwir bryder ynglŷn ag addysg academaidd ac uwchradd nag y mae cyfeiriadau Iolo Caernarfon (er enghraifft) at y Cwrdd Misol yn haeru mai 'hunan a balchder oedd wrth wraidd' dymuniad Dr Owen Thomas i fynd i Brifysgol Edinburgh.

Diaist, roeddwn yn meddwl fod well i mi gael y resipi ganddynt: buaswn yn gwneud ffortiwn ar faes Caernarfon ac yn Ffair y Borth.

Yng ngwir draddodiad roc a rôl fe gawn hanes y grwp yn ymweld a thy un o drigolion gwylltaf Caernarfon ac yn colli eu pennau mewn mwy nag un ystyr , gymaint âu bod yn...colli eu brên a theimlo fel ceffyl pren.

Yn y rhifyn cyntaf cyhoeddwyd erthygl gan Peter Bailey Williams, oedd wedi canfod "y gelyn yn brysur wrth ei waith", yn nes at adref, sef ychydig o filltiroedd i lawr y ffordd o'i blwyf ei hun, yn nhref Caernarfon.

Eglurodd Cyng Helen Gwyn, cyn-Faer Caernarfon, ei bod wedi gwrthod y gwahoddiad am nad yw'n cytuno â dathlu'r Arwisgo.

Neithiwr enillodd Caernarfon - sy ar y brig - eu gêm olaf nhw, 2 - 0, yn erbyn Cemaes.

Gwasanaethodd hefyd ar bwyllgor "Aelwyd" Caernarfon.

i ail-greu Caernarfon ar ei newydd wedd.

'Doedd o ddim yn llawn iawn yn cychwyn o sgwâr Caernarfon, a llwyddais i gael sedd i mi fy hunan.

Mae Beryl yn un o gynrychiolwyr Y Felinheli yng nghangen Caernarfon ac fe fydd yn cael ei anrhydeddu mewn cynhadledd a gynhelir yn Llandudno.

O ganlyniad, mae'r swyddfa fechan ym Mhenygroes, ger Caernarfon, lle maent wedi ymgartrefu ar ôl cyfnod byr yng Nghaerdydd, yn prysur lenwi gyda gwaith papur a chasetiau.

"Dwi isio iddyn nhw gynnig pethau sy'n bwysig iddyn nhw, i'w hoedran nhw a'u hardal nhw." Dyna pam ei bod wedi mynd i ysgolion mewn ardaloedd tra gwahanol o'r wlad i chwilio am bobl ifainc i gymryd rhan yn y gyfres - Yr Wyddgrug, Llanfyllin, Llanfair Caereinion, Llanelli, Caernarfon, Blaenau Ffestiniog, Pontypridd a Chwmbran.

Mae 'na weithwyr da i'w cael ym mhentref Waunfawr, ger Caernarfon.

Enwi Caernarfon yn fwrdeistref frenhinol gyntaf Cymru.

Mae 'na wyth ohonynt - Merthyr, Bangor, Y Barri, Casnewydd, Caernarfon, Bae Colwyn, Y Rhyl a'r Drenewydd.

Un o brif wleidyddion y Blaid Ryddfrydol yng Nghymru oedd David Lloyd George, yr Aelod Seneddol dros Fwrdeistref Caernarfon.

Darllenwyd ceisiadau pedwar cylch meithrin sef Hirael, Y Fron, Ti a Fi Salem, Caernarfon a'r Groeslon.

Parodd eu hedmygedd hwy a'u balchder ohoni, yn arbennig wedi iddi ennill ysgoloriaeth i Ysgol Sir Caernarfon, iddi gredu yn ei gallu i gyrraedd unrhyw nod a osodai iddi ei hun.

Dyma'r pedwerydd tro ar bymtheg i Gymdeithas y Gronyn Gwenith, Caernarfon gyflwyno pasiant.

mae'r cwmnïau cynhyrchu wedi eu lleoli ledled Cymru ond gyda'r mwyafrif wedi eu lleoli yn ardal Caernarfon yn y Gogledd a Chaerdydd yn y De.

Yn dilyn llythyr i'r Caernarfon and Denbigh yn cwyno nad oedd y papur am dderbyn adroddiadau Cymraeg, adroddodd yr Ysgrifennydd ei bod wedi derbyn galwad ffon yn dweud bod croeso i bob cyfraniad Cymraeg yn y papur.

Roedd un o hogiau Caernarfon wedi mynd mor gyfeillgar ac un o'r merched yma fel y mentrodd roi ei fraich amdani.

Cyflwynwyd Gwobrau Cerddoriaeth Roc a Phop Cymru yn y Celt, Caernarfon, gan Owain Gwilym a Beks gydag adloniant gan Topper, Y Tystion, Catsgam ar anfarwol Dafydd Iwan.

Rheithgor Caernarfon yn methu cytuno ar ddedfryd ond rheithgor yr Old Bailey yn eu cael yn euog ac yn eu dedfrydu i naw mis o garchar.

Ond wrth fynd heibio i stesion Caernarfon, dyma drên yn gollwng chwibaniad uchel, a'r ceffylau'n neidio ymlaen mewn dychryn.

Soniwyd nad oedd y Caernarfon and Denbigh Herald am dderbyn adroddiadau Cymraeg o hyn ymlaen - er mwyn ceisio hybu gwerthiant yr Herald Gymraeg.

Rydan ni wedi byw efo cysyniad o oes pan oedd papurau Cymraeg yn ddylanwad torfol, oes y Faner ddi-grant, ac oes pan oedd newyddiadurwyr a golygyddion Cymraeg yn baglu ar draws ei gilydd ar Faes Caernarfon.

Fe'i ganed ac fe'i maged yn ardal Caernarfon, ond eisoes y mae ei waith wedi cael ei weld yn yr America a thrwy Ewrop.

Cerdd am John Roberts, y chwaraewr rygbi rhyngwladol a aeth yn genhadwr, ^wyr Iolo Caernarfon, beirniad a phrifardd eisteddfodol, yw 'Y Dyrfa'. Disgrifir gêm rygbi yn Twickenham ynddi, a hynny gan ddefnyddio termau rygbi wedi eu lled-Gymreigio.

Mae aelodaur grwp - Marc Flanagan, Sion Evans, Meic Parry a Richard Chitty yn hanu o ardal Caernarfon ac ymhlith un ou dylanwadau penna mae'r Big Leaves.

Bryd hynny hefyd, fe gafodd pobol leol waith ac enwognwydd fel ecstras, gyda helyntion dau o gymeriadau mwya' lliwgar Caernarfon ar y pryd - Wil Napoleon a Mons - yn dod yn rhan o chwedloniaeth y Cofis.

Llwyddiant di-amheuol hefyd fu'r Cyflwyniad yn theatr Seilo, Caernarfon o "O Bala i Balaclafa% - hanes bywyd a gwaith y wraig ryfeddol honno, Betsi Cadwaladr, a aeth i weithio fel nyrs yn rhyfel y Crimea.

I ychwanegu sen at sen, derbyniodd Rhys ffurflenni uniaith Saesneg gan Lys Ynadon Caernarfon.

Anogodd Mrs Pat Lloyd yr aelodau i gystadlu yn enw Merched y Wawr yn Sioe Caernarfon.

Penderfyniad mainc Caernarfon yn y diwedd oedd tynnu dwy bunt yr wythnos o fudd-dal Rhys.

Harri Parri, Seilo, Caernarfon.

Gwyr pawb y stori amdano'n cael ei gyflwyno gan Gadfan mewn Eisteddfod ym Mhafiliwn Caernarfon a'r geiriau : Anthropos yw bos y byd.

Caernarfon neu Langefni fydd yn codi o Gynghrair Undebol Cymru i'r Cynghrair Cenedlaethol y tymor hwn.

yn Yr Aelwyd, Caernarfon.

Daeth i sylweddoli fod Gwion yn unigolyn, yn berson a oedd yn hoffi llwyddo, ac fel yr esbonia Gwynn, 'nid yn rhan annatod o'r cyfundod a elwid y mentally handicapped.' Daeth yn weithgar gyda Chymdeithas Mencap Caernarfon a'r cylch.

Mabwysiadodd y cyfarfod hefyd deitl newydd - Plaid Genedlaethol Cymru - yn lle teitl Caernarfon.

Roedd Nain a Taid yn byw ym Maes Barcer, Caernarfon, ac yn fodlon imi aros gyda nhw ond yn 12 oed doedd gen i ddim llais yn y peth a mynd efo fy Mam a Nhad i Awstralia fu raid.

Un tro roedd tîm Caernarfon braidd yn fyr a bu'n rhaid iddynt gael benthyg chwaraewr gennym ni.

Cylchgrawn Eglwys Seilo Caernarfon Er i ni gael blwyddyn ddigon diflas ar y cyfan o ran tywydd, ac er y bu achwyn yma ac acw parthed y sefyllfa wleidyddol ac economaidd fregys o fewn ein gwlad ac yn y byd tu allan, nid dyna'r stori i gyd.

Lewis Valentine yn ennill 609 o bleidleisiau yn etholaeth Caernarfon yn ymdrech gyntaf Plaid Cymru mewn Etholiad Cyffredinol.

Eitha peth, meddai, oedd atgoffa cynghorwyr Caernarfon bod cyfoeth a ddaeth trwy Doc Fictoria a'r Cei Llechi wedi ei ennill ar gefn chwarelwyr y lechan las o Ddyffryn Nantlle a Llanberis.

Tri yn Llys y Goron, Caernarfon, ar gyhuddiad yn ymwneyd â 'Meibion Glynd^wr'. Dau yn ddieuog, ond Siôn Aubrey Roberts yn cael ei garcharu am 12 mlynedd.

Dyna'r ateb i rai sylwadau gan Mr AJP Taylor, yn ei ragymadrodd i ail gyfrol British Pamphleteers sy'n cynnwys araith Saunders Lewis ym mhrawf Caernarfon:

Nid oedd y pwyllgor wedi penderfynu eto a oeddynt am gystadlu yn Sioe Caernarfon.

Yr oedd y pwyllgor wedi rhannu'r arian rhwng Canolflannau Hamdden Caernarfon a Bangor (er mwyn cael cadeiriau arbennig i'r anabl); Cangen Gwynedd o 'Headway'; Clwb Hŷn Gateway a Chlwb Strôc Ysbyty Gwynedd.

Ni fydd gem bel-rwyd gan mai cangen Caernarfon yn unig oedd wedi rhoi eu henwau.

Yn hytrach nag i ni fynd i Gaernarfon, credaf ei bod yn well gan hogiau Caernarfon ddod atom ni er mwyn iddynt gael penwythnos yn Lerpwl.

Rhyw fagu llwynog oedd hynny - datgelu gwybodaeth i arall, ond byddai hogiau gorsaf Caernarfon yn barod iawn i'm dysgu, a dysgais lawer oddi wrthynt.

Cynigiwyd ein bod yn anfon at y Caernarfon and Denbigh yn mynegi ein pryder am y penderfyniad, ac yn gofyn am gael cynnwys ein hadroddiadau yn Gymraeg.

Gwadu y cyhuddiad a wnaeth golygydd newydd Seren Gomer; "Egwyddorion ein Cyhoeddiad a gadwyd hyd yma yn ddilwgr", meddai, ond defnyddiodd Seren Caernarfon enghraifft gohebiaeth Hughes ei hun yn Seren Gomer ar fater yr eglwys wladol er mwyn profi ei bwynt:

Droeon tra'n teithio yn fy nghar (piws!) ar hyd y ffordd brysur rhwng Caernarfon a Bangor yn y mis bach, gwelais sguthannod yn gelain ar y lôn wrth droed wal fawr Stad y Faenol.

Yn rhifyn mis Ebrill o'r Seren Ogleddol cyhoeddwyd nodyn yn cyfeirio at anghydfod yn nhref Caernarfon a fyddai'n arwain at ymadawiad disymwth allanwr arall, Josiah Thomas Jones, o'r dref.

Gan fod pedwar o hen ddisgyblion Ysgol Syr Hugh Owen yn y tîm cyntaf ar un adeg, roedd cysylltiadau cryf gennym â Chlwb Rygbi Caernarfon.

Dwynwen Morgan ar sîn bop Gymraeg Ar ôl blwyddyn dawel tra bod yr aelodau i gyd yn gweithio ar waith go-iawn a phethau diflas felly, mae rocars Caernarfon yn ôl efou deunydd cyntaf ers rhyddhau CD aml-gyfrannog Y Dderwen Bop ar Crai.