Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

caeth

caeth

Mae'r BSA wedi gosod safonau caeth ynglyn â lefelau 'aflatoxin' mewn cnau ar gyfer adar gwyllt, ac wedi lansio 'Sêl Cymeradwyaeth' a arddangosir ar gnau 'diogel', i sicrhau y bydd defnyddwyr yn eu hadnabod.

Cymysgedd sydd yma o gerddi caeth a rhydd gyda rhai ohonynt yn y mesur gwers rydd cynganeddol.

Llew Jones - sy'n cael ei gydnabod fel un o feistri canu caeth Cymru - ei fod ef yn llai calonogol ynglyn â dyfodol yr iaith Gymraeg heddiw nag oedd yn y chwedegau hyd yn oed.

Gall diwinyddion a gwleidyddion da godi eu llygaid tu hwnt i ofynion caeth enwad neu blaid.

Bu'n beirniadu cystadleuaeth y Gadair bron bob blwyddyn o droad y ganrif hyd at ei farwolaeth ym 1929, a cheisiodd arwain y canu caeth o'r diffeithwch yr oedd ynddo ar y pryd.

Daw'r ddau o gefndiroedd caeth Gogledd Iwerddon.

Ni fu SL erioed yn fardd poblogaidd a da fuasai clywed rhagor o feirniadaeth o'r math a geir weithiau yn ysgrif Gwenallt, sy'n dweud, er enghraifft, 'Nid yw Mr Lewis yn cerdded mor sicr yn y mesurau traddodiadol at yn y vers libre.' Teimlais innau droeon mai gwely Procrwstes y mesurau caeth a orfodai SL i gynnwys geiriau hen, prin ac anghyfiaith a chystrawennau hynafol a chymhleth, fel petai tywyllu ystyr yn ddibwys neu hyd yn oed yn rhinwedd.OES AUR Y WASG GYMREIG

Er hynnny, mae cnewyllyn y cyfansoddi ar fesurau caeth o reidrwydd yn ffurfio dolennau cryfion a'r gorffennol.

A'r adroddiad ymlaen i fynegi gofid bod y rhaglen a gynigir yn nes ymlaen yn yr ysgolion cynradd "yn fwy ffurfiol ac yn fwy caeth i lyfrau ac ni chynhelir, bob tro, y cynnydd cynnar mewn datblygiad llafar".

Anodd oedd cynefino â rheolau caeth y gwersyll newydd.

O safbwynt gelynion y canu caeth, yr oedd yr awdl hon yn brawf arall o amharodrwydd ac anallu'r beirdd caeth i wynebu bywyd fel ag yr oedd ac i symud ymlaen gyda'r oes.

Nid diffiniadau caeth mo'r uchod na rhai yr oedd y naill yn groes i ystyr y llall.

Wrth gwrs, mae yna reolau caeth ynglŷn â phwy sy'n cael rheoli'r arian, a pha gyfrifon sy'n rhaid eu cadw, ond mae digon o dystiolaeth fod yr Undebau hyn yn gweithredu'n effeithiol mewn dinasoedd mawrion gan gynnwys Caerdydd.