Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

caf

caf

Efallai bod hyn yn arwydd da, ac y caf fy achub gan rywun cyn bo hir.

Fel y caf son eto, y mae ardal Cefn Brith yn fawr iawn ei dyled iddo ef a'i briod..

mae'r amodau gwaith yn dda, caf fy nhalu'n dda, ac y mae llawer o fanteision cysylltiedig.

Os caf aralleirio Orwell a dweud bod pawb yn unigryw ond bod rhai yn fwy unigryw na'i gilydd, gweddus dweud bod Bedwyr yn un o'r mwyaf unigryw.

Y wir farddoniaeth sy'n sicrhau ymateb ysgytiol gyffrous yw honno pan yw'r cydio trosiadol yn uno'r annhebyg, y gwrthwynebus a'r ymddangosiadol anghydnaws - ac os caf ddyfynnu, heb ennyn chwerwedd rhai beirniaid, eiriau Coleridge, ...

Bellach, mae arna i ofn, mae toreth o reolau newydd eto ar ein cyfer ni sy'n defnyddio'r ffordd fawr, a alwaf, os caf fathu ymadrodd Cymraeg, y gyfundrefn 'dirwy ar y pryd'.

Caf brofi bywyd go iawn pobl yr ardal.

Os caf ddychwelyd am funud i sôn am ddisgrifiadau gwyddonaidd Kate Roberts o fywyd fel yr oedd yn y ganrif ddiwethaf a dechrau'r ganrif hon, hoffwn nodi ymhellach fod llawer o arferion ac o feddyliau yn ei gwaith hi sydd bellach wedi diflannu; ond y mae'n bwysig ein bod ni'n eu hadnabod - yn gyntaf, er eu mwyn eu hunain, hynny yw, oherwydd eu bod; yn ail, er mwyn gallu adnabod mai un o themâu cyson Kate Roberts yw newid: mae hi'n dweud yn rhywle nad oes dim byd oll mor gyson â newid; yn drydydd, mae'r arferion a'r meddyliau hyn yn dweud cyfrolau am agwedd meddwl ei chymeriadau - ac os na ddown i werthfawrogi'u hagwedd hwy at fywyd fe gollwn ran dda o'r rhin a berthyn i'r llenyddiaeth.

Efallai y caf gyfle i egluro'n llawn i ti ryw ddiwrnod.

Caf brofiadau go amheuthun yn fy henaint, a diolch amdanynt.

Caf fy nghalonogi hefyd gan y ffordd y cyfoethogwyd ein cydberthynas ag S4C dros y flwyddyn ddiwethaf, drwy fentrau ar y cyd fel darllediadau teledu digidol di-dor o'r Cynulliad Cenedlaethol, a pharodrwydd i ystyried partneriaethau eraill yn y dyfodol.

Fy nehongliad i o'r bradychiad a'r dienyddiad (os caf roi fy nghasgliadau'n foel, heb ymhelaethu dim yma) yw i Jwdas Isgariot benderfynu traddodi Iesu i ddwylo'r awdurdodau yn y gobaith y byddai terfysg yn codi yn y ddinas o'i blaid ac y byddai'r rhyfel mesianaidd yn dilyn; i'r terfysg ddyfod o dan arweiniad Barabas a'i drechu'n ddigon buan gan filwyr Pilat; i Iesu wrthod yn y brawdlys a cherbron y dyrfa arddel y fesianaeth filwrol a'r deyrnas ddaearol wedi ei seilio ar rym arfau; ac i'r gwrthodiad hwn beri siom chwerw i'r bobl.

Rhaid fydd symud heb oedi, ac efallai y caf air oddi wrthynt eu bod yn barod i ufuddhau, a'u bod hwy yn ffurfio pwyllgor lleol i gwblhau'r trefniadau, os bydd angen am hynny.

Gwn ei bod yn ffasiynol pysgota pluen - wleb a sych am lasgangen - a hyd Ddiolchgarwch caf ddileit wrth wneud hynny.

'Os caf i awgrymu yn garedig, mi fyddai troi Anti Meg yn ganeri yn gosb gymwys iawn.'

'Rwy'n gwybod ei bod yn golygu llawer iddo fo Roedd o wedi gweithio'n galed arni, ac wedi cael gweledigaeth, os caf i ddeud hynny.

Caf esgus i loetran yn hamddenol yn hytrach na bustachu tua'r copa pan ddof ffordd hyn ganol haf i chwilota am blanhigion yng nghysgod y creigiau, wrth ffrydiau neu ar ymylon y pyllau mawn.

Caf gyfle eto i gyfeirio at rai o'r prosiectau arbennig sydd gennym ar y gweill yng Nghwm Gwendraeth sydd yn ceisio meithrin agweddau cadarnhaol tuag at yr iaith ar ddiwedd y cyflwyniad hwn.

Gyda golwg ar foesoldeb yr holl fater, nid wyf am ddywedyd dim, nes caf weled vm mha ffurf y gyrrwyd hi i'r wasg yn wreiddiol.

Caf sôn yn nes ymlaen am arwyddocâd hynny.

Dim ond rhyw naw modfedd pob ffordd roddaf rhyngddynt, yn rhy agos i'w priddo ond trwy'r dull hwn y caf y cyfanswm mwyaf o gnwd o'r maintioli sydd fwyaf derbyniol yn ein tū ni.

Caf gwmni rhai Cymry weithiau pan ddônt drosodd i'r ffeiriau a'r siopau.

"Reit Llefelys, mae popeth yn barod, y twll, dysglaid anferth o fedd a sidan tenau - a drud hefyd os caf i ddweud - drosti.

Caf bleser o ddod yma ganol haf hefyd i chwilio am blanhigion y mynydd-dir yn eu blodau.

Dacw'r nefoedd fawr ei hunan 'N awr yn diodde' angau loes, Dacw obaith yr holl ddaear Heddiw'n hongian ar y groes; Dacw noddfa pechaduriaid, Dacw'r Meddyg, dacw'r fan Caf fi wella'r holl archollion Dyfnion sy ar fy enaid gwan.

Fe wna i fargen â ti - os caf i ddod gyda ti i edrych ar yr Afal Aur, a chael un cipolwg arno, fe gei dithe dy ddewis o'r tegane hyn.'

Ni fwriadaf restru yma ddulliau defnyddio mawn, ddaeth mor wybyddus erbyn hyn, ond caf aml ymholiad ynglŷn ag o gan ambell newyddian gyda garddio sydd wedi gwrando ar y canmoliaethau niferus amdano ac yna mlwg yn fodlon coelio bron bopeth ddarllena neu a wrendy.