Thomas yn cytuno â Rowlands ac yn gweld 'Cafnan' yn ffurf ar 'Cafn y Nant', sy'n enw digon priodol, yn enwedig o ystyried natur rhan isaf y dyffryn hwn.
Mae afon Cafnan yn tarddu yn Llyn Llygeirian ym mhlwyf Llanfechell ac yn llifo tua'r gogledd i'r môr ym Mhorth y Pistyll, cilfach fechan ar ochr orllewinol Trwyn y Wylfa.
Awgryma Henry Rowlands fod Cafnan (neu Cafnant) yn dynodi lle '...' , ac er bod Syr Ifor Williams hefyd yn egluro Cefni yn yr un modd nid yw'n sôn dim am Cafnan.
Cafnan