Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cai

cai

Cyhoeddodd Gwynfor Evans ei fod yn bwriadu ymprydio, hyd farwolaeth pe bai raid, hyd nes y câi Cymru ei sianel ei hun.

Aeth Stacey i Gaerdydd ac yn fuan iawn 'roedd hi'n caru gyda Cai.

Mae CAA, CAI, CGAG a MEU yn gwerthu eu cynnyrch ac felly yn derbyn incwm sy'n lleihau cyfraniad y grant.

O gasineb tuag at ei wraig ac o ddiffyg cwsg wrth ei hochr collodd Ynot Benn bwysau, gwelwodd ac ymgrebachodd, a heliai ei draed bob dydd i westyau a chlybiau lle cai gwmni a chydymdeimlad.

Yr ecsodus o'r Aifft a brofai fod Duw trosti; a'r ecsodus yr un fel a ysbrydolai Israel i gredu y cai waredigaeth ddwyfol yn niwedd amser.

Cymerai arno wrth ei deulu ei fod yn gweithio'n galed ac felly cai lonydd iorweddian yn ei lofft am oriau.

Bu yn Affrica a De America, a bob tro y cai gyfle byddai'n meddwi, yn puteinio ac yn cael ei hun mewn rhyw drybini a fyddai fel rheol yn golygu ei fod yn cael ei fflangellu.

Mi hoffwn y sicrwydd y bydd ysgol Cai yn ysgol gymunedol gref â dyfodol diogel ac y bydd yn derbyn addysg gyflawn Gymraeg.

Gan dybio fod Cymreictod ar drai, torrodd y Llywodraeth newydd ei haddewid i roi ei sianel ei hun i Gymru pe câi ei hethol.

Pe cai Ynot Benn ei ffordd dyna derfyn am byth ar wynwyn.

Roedd o'n mynd i neud troli i symud y weldar o gwmpas y lle, trwshio'r cafn dŵr yn y beudy, trwshio'r lein ddillad a choncritio'r cowt i'r Wraig, a phe cai amsar byddai hyd yn oed yn rhoi hoelan yn y lechan rydd uwchben drws y beudy!

CAI: Canolfan Astudiaethau Iaith, Llangefni

"Nawr ewch i'r gwely ac aros yno," meddai'n chwyrn, "os cai ychwaneg o drafferth gyda chi heno, fe fydd yn edifar gennych chi." Y bore wedyn, fe'i dihunwyd gan sŵn llestri yn cael eu gosod ar fwrdd y feranda.

Taswn i heb weithredu mi faswn i'n derbyn yn dawel y math o ddyfodol addysgol mae'r Blaid Dorïaidd yn ei wthio ar Cai, ei ffrindiau, a holl blant a phobl ifanc Cymru.

Cai fenthyg nodiadau un neu ddau ohonom fel y gallai Mrs Gruffydd wneuthur copiau ohonynt, a chywiro'n camsyniadau ni lle byddai angen!

Yma y cai Elisabeth gyfle i hel atgofion a breuddwydio ac i fwynhau ychydig o ryddid oddi wrth y dyletswyddau teuluol oedd wedi dod yn rhan o'i bywyd ers claddu ei thad, yr yswain Richard Games.

Câi swyddog a ddefnyddiai'r ‘gath' neu'r wialen fedw hanner-coron o dâl ychwanegol.

'Dwi eisiau i Cai a'i gyfoedion fedru derbyn addysg berthnasol fydd yn fodd iddynt ddatblygu meddwl agored, dadansoddiadol.

Y mae'r broses o gynhyrchu deunyddiau dysgu cenedlaethol yn Gymraeg yn digwydd yn bennaf yn y canolfannau adnoddau (CAA, CAI, Adran Gymraeg CBAC, Yr Uned Iaith Genedlaethol, MEU Cymru, CGAG), ond digwydd hefyd mewn rhai colegau ac awdurdodau unigol.

Cai sylw a llwyddiant hefyd: Fy llais a yfai llysoedd: Megis gwin neu drwmgwsg oedd Yn swyno pob rhyw synnwyr Mewn llyffethair llesmair llwyr.

Nid anodd oedd rhoi dau a dau wrth ei gilydd a gyda lwc cai ychwaneg o brawf o fol ei gamera.

Roedd am ei baratoi ei hun ar gyfer yr eiliad yna, yr eiliad llymddisgwyliedig pryd y cai olwg eglur ar y ci.

Cafodd hwnnw ei gadw dan glo, yng nghist galed y pericarp fel y cai ei basio yn gyfan drwy berfedd yr aderyn a'i fwrw i'r pridd yn rhywle arall.

Ac mae'n gweld Cai a Bedwyr, Mabon ac Eiddoel yn ddeuoliaethau hefyd.