Drwy'r glaw, daeth dau ddyn yn cario calabash, sef llestr wedi'i wneud o ffrwyth coeden, a dodwyd hi ynghanol yr ystafell.
Doeddwn i ddim yn ffansi%o llawer arno a hefyd yn meddwl: Beth pe tase pawb yn penderfynu chwythu yn lle sugno, ach a fi !' Nid oedd y calabash yn dal llawer ond bob hyn a hyn, deuai un o'r dynion o'r cefn gyda llond tegell o ddŵr poeth a'i dywallt i'r gwin.
Gwin cartref oedd yn y calabash a rhoddwyd pibau hir o bambw i bawb sugno drwyddynt, ac eisteddodd pawb i lawr o'i amgylch.
Cafwyd gwledd urddasol a symudodd pawb allan heb anghofio'r calabash wrth gwrs.