Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

calan

calan

Drycin ddydd Calan, trwbwl i'r cynhaeaf hefyd.

Fe'i defnyddid gan wrachod yn eu swynion ac felly os darganfyddid un mewn tusw o flodau Calan Mai fe'i teflid ymaith ar unwaith.Cyfeiria'r enw arall - Mantell y forwyn - at siap y blodau a'r hen arferiad o daenu mentyll ar lwyni i sychu yn y gwanwyn cyn eu cadw tan y gaeaf.

Braf ddydd Calan, bydd cynhaeaf da.

Iawn, sdim eisiau glanio yng nghanol mor o Seisnigrwydd ar nos Calan!" "Wel, nac oes wrth gwrs!" Ar ol dau wydriad bach arall (am ddim) i godi ychydig mwy ar y galon - rhaid oedd ffarwelio.

Bydd Anthony Copsey wedi byw yn ein plith yn ddi-dor ers chwe blynedd erbyn Dydd Calan, sy'n golygu y bydd ym gymwys i'w ddewis i'n Tîm Cenedlaethol yn erbyn ei wlad ei hun.

Clywais droeon am yr hen orchymyn i ni beidio â chyffwrdd mwyar duon ar ôl bydd Calan Gaeaf.

Ar noson y trawsnewid o un hanner o'r flwyddyn i'r llall, yr oedd nerthoedd goruwch-naturiol yn cael tragwyddol heol, felly amser i gymryd gofal yn ogystal ag i lawenhau yn nyfodiad haf oedd Calan Mai.

O wisgo coron o frigau ysgawen noswyl Calan Mai gellir gweld bodau goruwchnaturiol.

Erbyn y pumed ty bwyta, a'r galon yn reit uchel, fasa hi ddim gwahaniaeth gen i tasa'n rhaid bwyta yng nghwmni llond ystafell o greaduriaid o blaned arall ar nos Calan!

Ar Nos Calan Gaeaf defnyddid cnau i weld a fyddai cariadon yn priodi ai peidio.

Hyd troad y ganrif hon ystyrid Dydd Calan fel diwrnod pwysicaf y tymor yng Nghymru, ond yn ystod y ganrif hon fe'i disodlwyd gan y Nadolig.

Calennig wyf yn mofyn, Dydd Calan, dechrau'r flwyddyn, A bendith fyth fo ar eich ty Os tycia i mi gael tocyn.

Cododd y ffermwr ei lais a rhybuddiodd y bechgyn fod dau arall o'r pentref wedi herio'r ysbryd hanner can mlynedd yn ôl ar noson Calan Gaeaf.

Telir am waith ar Ddydd Nadolig, Gwyl San Steffan a Dydd Calan ar gyfradd o ddwywaith y Tal Dyddiol neu chwarter ychwanegol o Dal Wythnosol a telir am waith ar ddyddiau gwyl cyhoeddus eraill ar gyfradd o un a hanner gwaith y Tal Dyddiol neu un a hanner gwaith chwarter y Tal Wythnosol.

Nos-cyn-Calan y bu+m yno ddiwethaf.

DYDD CALAN gan J H Thomas

Erbyn y Calan byddai pob plentyn yn cael cwdyn arian newydd a'r adeg honno roedd disgwyl i blentyn adrodd pennill neu gwpled wrth ddrws bob cartref.

Mae eisiau mynd yno nos Calan Mai a gwneud anferth o dwll.

Chwi sy'n meddu aur ac arian Dedwydd ydych ar ddydd Calan; Braint y rhai sy'n perchen moddion Yw cyfrannu i'r tylodion; 'Rhwn sy' â chyfoeth, ac a'i ceidw, Nid oes llwyddiant i'r dyn hwnnw.

Pan ddaeth Calan Mai fe godwyd bedwen o'r lle y'i plannwyd a'i gosod yng nghanol tref Llanidloes.

Wedi imi godi fy aeliau esboniodd mai'r mwyaf diniwed o ddau ystyr Saesneg y gair "jump" oedd ganddo dan sylw!) Fel y bo dydd Calan, felly fydd y flwyddyn.

Eu gobeithion am y cynhaeaf, i raddau helaeth, a gâi'r bai am drythyllwch a maswedd Calan Mai.

Diwrnod pwysig ar galendr pawb yn y plwy oedd dydd Calan, gyda'r plant allan yn crynhoi calennig.

Ers y Calan eleni mae'r Gymdeithas wedi cychwyn ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd.

Prif atyniad Calan Mai, felly, oedd gosod pawl haf.

Coffa da nid yn unig am ei gyfraniadau i gyfarfodydd colegol o bob math ond hefyd am giniawau'r Calan llawer dydd, am y bowliwr troellog ciami iawn ar leiniau Treborth, y tripiau hwyliog yn yr haf i'r criced i Old Trafford, yn y gaeaf i Lerpwl i weld timoedd Shankly, Paisley a Dalglish; ac am BLJ y gŵr a'r tad yng nghysur mawr agored Bodafon.

"Ydy hi'n bosib archebu bwrdd ar gyfer nos Calan?" "Wrth gwrs!" "Pwy arall fydd yma?" "Pobl o bob cwr o'r byd - Sbaenwyr, Ffrancwyr a.y.b.

Pob nos Calan Mai mae yna sgrech arswydus i'w chlywed uwchben y wlad.

Roedd blas arbennig ar ddathliadau'r nos Calan - er i'w threulio efo llond ystafell o Saeson chwil ofnadwy!