Roedd yn weithiwr caled a chydwybodol ond rywsut doedd o byth yn llwyddo i wneud llawer o arian.
Mae talcen caled yn wynebu Leeds yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Bu'r blynyddoedd hyn yn rhai caled ac anodd iawn i blaid ifanc yn dechrau tyfu.
Bu chwarae caled y prynhawn hwnnw, â'r bachwyr yn weddol gyfartal.
Mae'r wyneb yn edrych yn ddigon caled a farnish sgleiniog arno, mae yna ôl ambell grafiad ar y pren ac mae yna glo ar rai o'r drysau.
Mae ynddo gadernid caled sy'n hawdd ei adnabod, ond nid yw mor bryfoclyd rhywiol ag un Judi Dench nac mor amrywiol ei ansawdd a doniol ei botensial ag eiddo Maggie Smith.
Yr oedd yn waith caled, budr a chorfforol iawn yn rowlio metal yn haenau.
Dywedodd entomolegydd (person sy'n astudio pryfetach yn broffesiynol) wrthyf yn ystod un gaeaf caled fod y mathau sy'n gaeafu yn y ddaear yn treiddio'n ddyfnach fel y disgyn tymheredd pridd er mwyn ceisio amddiffyn eu hunain tuag at oroesi i dymor arall.
Coed yn bwrw eu dail yn gynnar - gaeaf caled.
Bywyd caled a pheryglus oedd bywyd y llongau hwyliau.
Adar yn dewion ym Medi - gaeaf caled.
Lle caled i weithio ynddo, mynydd uchel hir, ac ychydig o dir gwaelod, ond lle da i ddefed.
Dywed yr hen awdurdodau bod yn rhaid cael tywydd caled, a'r lein yn rhewi ym modrwyau'r enwair.
Fe'i cysurodd ei hunan, rywsut, trwy geisio'i berswadio'i hun fod y pwnc wedi'i daro ar ysmotyn dall, ac nad oedd ar ei orau wedi cael diwrnod caled a thrafferthus yn y siop heb fawr o lwyddiant ar y gwerthu.
Roedd y Cyngor wedi ymateb i alwad Cyfeillion y Ddaear i beidio a defnyddio pren caled trofannol, meddai, gan benderfynu, felly, defnyddio ffenesti platig.
'R oedd hyn yn waith caled iawn ond 'r oeddem yn byw mewn gobaith y buasai'n werth yr ymdrech yn y diwedd.
Helena, yr oedd y cig moch yn hallt mewn casgen, yn wyrdd a'r sgedin caled yn llawn o wyfyn yr oedd lluniaeth wedi ei gondemnio gan y llynges.
Fe gofiwch i David Phillips, Waun-lwyd, ddwyn offer marchogaeth a dillad tra'n gweithio ym mhlas Cilwendeg, a threuliodd flwyddyn o lafur caled yn gweithio'r felin droed yng ngharchar Hwlffordd am ei drosedd.
Eithr ysgrifau ydynt a gyhoeddwyd eisoes rhwng cloriau caled, nad yw'n rhy anodd dod o hyd iddynt.
Rhyw welltyn main, caled sydd yn tyfu yn y tir uchel yma.
Llyfr clawr caled, swmpus fydd e, meddai Myrddin ap Dafydd, perchennog Gwasg Carreg Gwalch.
Roedd cadeiriau caled mawr gyda seddau crwn coch moethus wedi eu gwthio yn erbyn y bylchau gwag ar hyd y wal o gwmpas.
Ma' hi yn cymryd amser maith i drefnu rhywbeth fel ymweliad arweinydd yn iawn, a bu gwaith caled yn mynd ymlaen.
Maen nhw'n cyd-redeg a chwarae dros ei gilydd a bydd talcen caled gyda nir Cymry i'w curo nhw.
Hyd yn oed wedi pedair awr o ymarfer caled yn y gwres 'na fe ddaeth pawb oddi yno gyda gwên ar eu hwyneb.
'Mae wedi bod yn dymor hir, tymor caled.
Syrthiodd ddeg troedfedd neu fwy a disgynodd ar ben creigiau caled.
Er bod y dalwr yn osgoi gwres mwyaf y felin gyda'r gwaith hwn, yr oedd serch hynny'n waith caled iawn i grotyn pedair ar ddeg mlwydd oed.
'Na.na, does dim pwynt!' 'Syr Troes y milwr a cherdded allan o'r neuadd, a'i esgidiau'n atseinio ar y llawr caled.
Mae gêm pi-po fel'ma wastad yn mynd lawr yn dda gyda'r plant bychan o tua blwydd a hanner i fyny ac mae'r llyfrau clawr caled yma yn llawn digon cryf a chadarn i wrthsefyll bysedd bach yn tynnu i bob cyfeiriad.
Nid oedd gan y llawfeddyg a weithiai yno unrhyw gymwysterau arbennig ynglŷn â llawfeddygaeth yr abdomen ond mentrodd arni ac fe ddarganfu delpyn caled ym mhancreas y claf.
Caled yw hi, caled yw hi." Gorweddodd y cardotyn yn llonydd ar y gwellt gan geisio gwneud rhyw fath o ben a chynffon o hyn i gyd.
Y ffordd orau i ddenu adar i ddod yn ddigon agos i arsylwi arnyn nhw yw trwy eu bwydo, ac mae hynny'n gymorth iddyn nhw fyw drwy aeafau caled.
Hen aeaf hir, tywyll, caled oedd hwnnw.
Nid oedd peiriannau heddiw gan y ffermwyr i hwyluso'u gwaith, ond roedd cyd- ymdrech gan y teulu cyfan a'r gymdogaeth yn rhoi boddhad iddynt er gwaetha'r gwaith caled.
Oedd e'n waith caled, yn enwedig yn yr Almaen, o'n i'n trafaelu o Frankfurt i Stuttgart mewn noswaith, gwneud y sioe a 'nôl eto'r diwrnod wedyn.
Dechrau, yn unig, oedd affidafid Carol Hogan, ar fisoedd lawer o ymdrechu caled a chyfnodau o rwystredigaeth flin.
Gwyddom ninnau am beryglon gaeaf - am y rhew caled sy'n dod â rhyndod ac angau i'r hen, neu'r gwyntoedd nerthol sy'n corddi'r môr a pheri iddo orlifo'r tir.
A ellid cymryd y stori fach hon fel rhoi diferyn o waed ar sleid, i'w harchwilio yn fy meddwl, fel y medrwn yn y diwedd, drwy weithio arno'n ddigon caled ac yn ddigon hir, weld Deddf y Bydysawd ei hun, a chael cipolwg ar fyd y sêr yn crynu yn eu lleoliad, fel breichledau ar fraich ddidostur Duw ei hun?
'Fe ges i amser caled mâs yn Sri Lanka - a thipyn bach o lwyddiant hefyd.
Ar ôl ennill y gêm gynta mae'r gwaith caled ar faes ymarfer Carfan Datblygu Cymru yn parhau ac yn dwysau.
Ar ôl gorwedd am dridiau ar lawr caled y gell gosb, yr oedd cael gorwedd ar wely estyll yn orffwystra.
Dyna roeddwn i'n ei olygu wrth anaeddfedrwydd: methu derbyn y sefyllfa ac addasu iddi, ei theimladau gorffwyll, melodramatig yn lliwio ei holl agwedd ar fywyd, nes bod popeth yn cyfyngu a chulhau i un pwynt caled fel haearn, na adawai yr un dewis amlwg arall iddi ond ei lladd ei hun, a dianc o garchar ei meddwl felly." "O, rwyt ti'n fodlon derbyn ei bod hi o ddifri ynglŷn a'r peth, felly?
Ond trwy gydol ambell noson clywai Wil nadu'r ci o wahanol gaeau, rhyw udo ymarhous a dolefus, ac yna cyfarthiadau caled ac afiach.
Gofalwch fod y ddogfen yn cael ei chadw ar eich disg hyblyg chwi eich hun ac nid ar y disg caled sydd yn y cyfrifiadur.
Craig o ithfaen caled yn dal ei thir yn nannedd tonnau Môr Iwerydd yw Llydaw.
Caled yw hi, caled yw hi." "Digon symol, gyfaill, digon symol," atebodd y llall.
Fel arfer, mae'r anifeiliaid hyn yn rhai caled a chadarn sydd yn medru ffynnu ar diroedd gwael a mynyddig y wlad.
Mae nhw'n lyfrau clawr caled gyda thudalennau bwrdd sydd eto o faint twt a chyfleus am bris rhesymol.
O nabod Graham fel ydyn ni - mae fen gweithion galed nawr - tymor nesaf rwyn siwr bydd en gweithion fwy caled fyth.
Ar ddiwedd y cyfnod hwn roedd rhaid i fi gynhyrchu sioe i ddangos yr holl waith caled oedd wedi ei wneud i'r staff i gyd.
Ni ellir dweud ei fod yn weithiwr caled, - nid trin tir, nid ffarmio oedd ei beth mawr.
Wrth i ni danysgrifio i'r is-normal a derbyn safonau dwbwl, wrth i ni ddweud celwydd a thwyllo'n agored, wrth i ni amddiffyn anghyfiawnder a gormes, yr ydym yn gwagio ein hysgolion, difrïo ein hysbytai, llenwi ein boliau â newyn a dewis cael ein gwneud yn gaethweision i rai sy'n arddel safonau uwch, sy'n geiswyr y gwirionedd, sy'n anrhydeddu cyfiawnder, rhyddid a gwaith caled.
Bois caled, clyfar, mentrus yden ni eu hangen.
Roeddwn wedi clywed fod bachwr caled o Gastell-nedd wedi bod yn chwarae i dîm cyntaf yr Ysgol Feddygol am dair blynedd.
Llawer o waith caled ond cyffrous a boddhaol.
Dim ond i led o hanner modfedd y dylid tynnu'r rhisgl, hyd at y pren caled ac ni ddylid ei dynnu oddi amgylch yr holl goes neu fe leddir y pren.
Gwaith digon caled oedd hwn, y tyllu dwbl hand, ond o ran hynny caled yw pob rhan o waith y chwarelwr.
Dyna ni, felly, Steddfod arall yn y Cymoedd Caled, lle mae dynion yn ddynion.
Roedd wrthi â'i dafod allan yn sgrwbio'r dec efo brws caled.
Wrth gwrs, ni'n whare gartre a mae'r enw 'da ni o fod yn dîm caled i'w faeddu ar Barc Ninian.
A syllu, syllu ar eiria'r daflen, geiria caled ar y gwyn llyfn, fel tasa dal i sbio'n mynd i ddileu'r geiriau neu yn newid yr enw i enw rywun arall y medran ni yn haws ei sbario.
Yn y cytin cul yng ngenau'r twnnel gallaswn fod wedi Parhaodd y profiad rhyfedd y soniaf amdano, nes imi gael fy nhraed ar wyneb caled y ffordd unwaith yn rhagor.
Cyfnod oedd hwn pan wnaed llawer o feddylwaith caled ynglŷn â Chymru a'i thraddodiadau, ei gwreiddiau fel cenedl a'i lle yn hanes y byd.
Wrth ddisgrifio cyflwr ffermwyr tlawd yn yr Affrig neu Asia, wedi i flynyddoedd o lafur caled gael eu difetha trwy fympwy natur nad oes ganddynt ddim rheolaeth o gwbl drosto, gall rhestrau o ffigurau a disgrifiad byw gan un profiadol yn y maes fod o gymorth.
Roedd hi'n dalach na fi a'r diffyg braster ar ei chorff yn dyst i'w bywyd caled ymhlith y bobol gyffredin, y campesinos.
Ond roedden nhw yn byw bywyd caled, moel, oedd yn apelio ataf fi.
Er mwyn ceisio ennill arian tramor 'caled' - hynny yw, doleri y gellir eu defnyddio i fewnforio nwyddau - mae'r diwydiant twristiaeth yn cael ei ddatblygu ar frys, ac yn y ffordd iawn.
Diolchir i chwi am eich cefnogaeth a'th gwaith caled.
Daeth awydd arno ddarllen llyfr a darllen llyfr Cymraeg er mwyn dianc ar ei ofnau a moelni caled y gell.
Mae gwyddau Gþyl Fartin yn broffwydi'r gaeaf (eu plu yn drwchus yn arwydd o aeaf caled.) Glaw canol Tachwedd, barrug trwm ganol Ionawr.
Ond yr ydan ni'n lwcus o gael ein cynrychiolwyr etholedig efo ni o hyd yn dal yma ar waetha pawb a phopeth 'dan ni yma o hyd, o hyd, pa hyd, o Dduw, pa hyd y mae'n rhaid i ni eistedd yn llywaeth a sbio arnyn nhw fel hyn yn mynd dros y geiria, yn sbio ar y geiria caled du ar y gwyn llyfn, ac yn llyfnhau'r ffordd fel hyn i wneud lle i'r dim byd fydd i fod i'n gwarchod am y chwarter canrif nesa'/tan bydd yr iaith wedi marw.
Edrychai'r carchar iddo ef yn lle caled a haearnaidd heb gwmni merched, yn lle oer heb eu lliw, eu llun, a'u lleisiau.
Yr oedd a (am asphalta) yn dynodi fod y bws yn teithio ar ffordd gyda wyneb arni fel yr ydym ni yn gyfarwydd ag ef ond v (am valle, y gair Sbaeneg am ddyffryn yn cael ei ynganu vashe) yn dynodi ffordd gefn gwlad heb wyneb caled iddi.
Gaeaf caled o luwchfeydd a rhew am saith wythnos yn gwaethygu'r sefyllfa ynghylch prinder tanwydd.
Gellir dehongli Ifans yr Wythdegau a'r Punk (Dafydd Emyr) fel rhai yn cael eu rheoli gan agweddau caled masnachol, a'r ddau yr un mor ofnus a chythryblus eu meddwl ac ar drugaredd newidiadau cymdeithasol.
Cynhelir Rali'r Ffermwyr Ieuanc ym Mhenygroes eleni a gobeithir gwneud elw sylweddol wrth werthu bwyd, er y golyga hyn waith caled!!
Safai Mathew yn ei ymyl ar y mat croen dafad a orchuddiai'r llawr caled wrth y gwely.
Ers blynyddoedd, drwy aeafau hir, bu'n mynd o leiaf unwaith, weithiau ddwywaith yr wythnos i annerch cylchoedd llenyddol a chymdeithasau Ffermwyr Ifainc a'r WI a Merched y Wawr, mynd weithiau yn flinedig ar ôl diwrnod caled yn y Coleg, a dychwelyd yn afieithus flinedig gyda rhyw ddywediad dierth neu air newydd a godasai yn anrheg gan ryw ffermwr neu wraig-tŷ ac a roesai yn ddiogel yn ei dun baco.
Ond roedd ganddo fis caled o'i flaen!
Eithr ni allai eto wynebu'r byd caled yn uniongyrchol, rhaid oedd cael rhywbeth rhyngddo ag ef--rhyw ddihangfa.
Dechrau Trowch y cyfrifiadur a'r disg caled ymlaen ac arhoswch am i'r bwrdd gwaith ymddangos.
Efallai y bydd A Ddioddefws a Orfu hefyd yn creu ymateb mwy cymysg na'r drama-gerddi traddodiadol, gydag elfennau digon caled yn y stori a defnydd helaeth o'r hyn sy'n cael ei alw'n 'fratiaith'.
Roedd y cynhyrchiad, felly, i fod i greu llun oedd yn caniatau inni ddarllen meddwl Ifans; ofn y genhedlaeth hŷn o offer mecanyddol, o fod allan o waith wrth gael eu sarhau gan newydd-ddyfodiad di-grefft sydd yn medru defnyddio'r offer hwnnw; ofn agweddau newydd o ddiffyg parch; ofn ffyrnigrwydd caled, hyderus y to newydd a chymysgedd meddwl ynglŷn a Chrefydd - a yw'r Giaffar yna i wrando ar yr holl gwynion hunan-aberthol?
Un o'r rhain oedd ysgol Bryncroes ym mhen draw Llyn a chau fu raid i'r ysgol honno er gwaethaf ymdrechion caled a gweithredu tor-cyfraith pan feddiannwyd yr ysgol a'i rhedeg yn wirfoddol.
Oedd hwnna'n waith caled, blinedig." Ac roedd yna gyfnod o ganu ar cruise liner yn y Caribî.
Mae talcen caled gyda ni i fynd - mae yna dime da yn Ewrop ond o leia mae tactege Mark Hughes yn dangos bod rhywfaint o obaith da ni.
Ar ôl ymgyrchu caled a llawer o garchariadau a dirwyon, gorfodwyd y Llywodraeth i ymateb.