Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

calennig

calennig

Dyma rai penillion eraill oedd yn cael eu canu yn yr ardal: Calennig i fi, Calennig i'r ffon Calennig i'w fwyta Y noson hon

Calennig wyf yn mofyn, Dydd Calan, dechrau'r flwyddyn, A bendith fyth fo ar eich ty Os tycia i mi gael tocyn.

Mi godais yn fore, Mi redais yn ffyrnig I dy Mr Jones I mofyn calennig, Rown wedi bwriadu Cael swllt neu chwe cheiniog, Roedd rhaid im fodloni Ar ddime neu geiniog.

Diwrnod pwysig ar galendr pawb yn y plwy oedd dydd Calan, gyda'r plant allan yn crynhoi calennig.

Yr un oedd y gân, neu ganeuon, ymhob man, a dyma nhw fel y cofiaf heddiw: 'O meistres fach annwyl A siarad yn sifil Calennig os gwelwch yn dda, Yna llwyddiant i'r gwydde A'r moch a'r ceffyle A hefyd i'r defed a'r da.' Os byddai seibiant go hir cyn i ffenestr y llofft gael ei hagor fe fyddem yn canu'n uchel a chyflym: 'Os ych chi'n rhoi, Dewch yn gloi Ma' nhrad i bron â rhewi.' Mewn ty arall, neu fferm arall, fe fyddai'r gân yn wahanol rhywbeth fel hyn: Mae'r hen flwyddyn wedi mynd Wedi cuddio llawer ffrind, O!